Datganiadau Diweddaraf

Image
Gyda llai na mis i fynd nes bydd cyfres hwylio anoddaf a mwyaf cyffrous y byd yn dod i brifddinas Cymru, mae Caerdydd yn awyddus i arddangos ei chynaliadwyedd cyn y digwyddiad sydd â sail amgylcheddol.
Image
Ar y 27 Mai mae Ras Fôr Volvo, digwyddiad hwylio anoddaf a mwyaf mawreddog y byd, yn cyrraedd Caerdydd am gyfnod o bythefnos - ac mae galw am bobl leol i gymryd rhan yn yr achlysur chwaraeon byd-eang hwn.
Image
Mewn llai na 60 diwrnod bydd cyfres hwylio amlycaf y byd yn cyrraedd Caerdydd, ac am y tro cyntaf erioed yn hanes y ras, bydd yn aros yn y brifddinas am 15 diwrnod.
Image
Mae mwy a mwy o dwristiaid yn dod i Gaerdydd yn ôl ffigurau cychwynnol sy'n dangos bod y ddinas wedi denu mwy o ymwelwyr nag erioed yn 2017.
Image
Awyr iach, golygfeydd eang a darn 10km o lwybr gwastad i gerdded, rhedeg neu feicio ar ei hyd. Wrth i chi fynd, mwynhewch yr arddangosfeydd am ddim, parc chwarae i blant, lle sglefrio, a champfa awyr agored, a gallwch hyd yn oed dynnu hun-lun gyda'r Croc
Image
Erbyn dydd Gwener 16 Chwefror ni fydd ond 100 diwrnod i fynd nes i Ras Fôr Volvo, digwyddiad hwylio caletaf ac amlycaf y byd, gyrraedd Caerdydd ar ddydd Sul 27 Mai gan aros yma am 14 diwrnod.
Image
Mae Rhodfa'r Bae o Borth Teigr i Adeilad yr Amgylchedd wedi ailagor ar ôl gwaith i ledaenu'r llwybr cerdded a beicio i saith metr.
Image
Mae creu prifddinas lwyddiannus sy'n gweithio dros breswylwyr Caerdydd a Chymru wrth wraidd adroddiad newydd sy'n nodi'r ffordd y bydd y Cyngor yn cyflawni ei addewidion Uchelgais Prifddinas.
Image
Mae Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd wedi’i henwi fel y 'Tîm Diddanu Gorau' yng Ngwobrau Lletygarwch Cymru 2017.
Image
Caiff Rhodfa'r Bae o Borth Teigr i Adeilad yr Amgylchedd (ar bwys y parc sglefrio ar Forglawdd Bae Caerdydd) ei chau ddydd Llun 27 Tachwedd tan ddydd Gwener 8 Rhagfyr yn ystod gwaith gwella, ac ni fydd mynediad i'r cyhoedd.
Image
Ganed Roald Dahl – a ddewiswyd fel hoff awdur y DU yn y flwyddyn 2000 i nodi Diwrnod Llyfr y Byd – yn Llandaf ar 13 o Fedi, 1916, i rieni o Norwy.
Image
Mae chwech o arwyr ifanc Roald Dahl yn barod i’w dadorchuddio, mewn lleoliadau godidog ar draws y DU, fel modelau LEGO® unigryw i ddathlu Diwrnod Dahl - y dathliad byd eang ar gyfer un o brif storïwyr y byd.
Image
Efallai bod Traeth Bae Caerdydd yn dal i ddenu pobl sydd am dorheulo i lannau'r dŵr, ond mae pobl yn dechrau meddwl am atyniad gorau'r gaeaf yn y ddinas, sef Gŵyl y Gaeaf Caerdydd, gyda thocynnau ar werth o 1 Medi (cardiffswinterwonderland.com).
Image
Ym mis Medi 1947, cafodd Caerdydd yr anrheg orau erioed pan gyflwynodd 5ed Ardalydd Bute Gastell Caerdydd a’i barcdir i’w dinasyddion. I nodi 70 mlwyddiant y digwyddiad anhygoel hwn, Bydd y Castell yn mynd yn ôl i’r 40au am ddiwrnod yn llawn nostalgia ar
Image
Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) wedi dyfeisio syniad arloesol i ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau sydd wedi cael eu rhwydo o ddyfroedd Bae Caerdydd, gan daflu goleuni ar y broblem amgylcheddol o daflu gwastraff i'n cefnforoedd ar gam.
Image
Gallwch ddisgwyl tridiau'n llawn o gyffro'r byd chwaraeon, cerddoriaeth a hwyl i'r teulu dros benwythnos Gŵyl y Banc wrth i Ŵyl Harbwr Caerdydd ddychwelyd gyda sblash anhygoel.