Back
Cwmni nwyddau ailgylchu RPC bpi yn ymuno fel partner i'r ddinas sy'n croesawu Ras Fôr Volvo

Mewn llai na phythefnos bydd y gyfres hwylio bwysicaf ac anoddaf yn glanio yng Nghaerdydd a chyda neges amgylcheddol gref, bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at yr wyth miliwn tunnell o blastig sy'n llifo i foroedd y byd bob blwyddyn.

Fel rhan o gymhwyster cynaladwyedd Caerdydd ar gyfer y digwyddiad, mae'r ddinas wedi partneru â RPC bpi recycled Products, y cwmni ailgylchu ffilm polythene mwyaf yn Ewrop. Gydag un o bedwar safle'r cwmni yn y DU wedi ei lleoli yng Nghymru, mae'r cwmni yn ailgylchu dros 70,000 tunnell o ffilm plastig sydd wedi ei adfer bob blwyddyn ac yn cefnogi'r economi gylchol a gwarchod yr amgylchedd drwy droi ffilm plastig a ailgylchwyd yn nwyddau eraill. 

Bydd y fflyd o gychod, y disgwylir iddi gyrraedd ar ddydd Llun 28 Mai yn dilyn mordaith2,900 o filltiroedd o America ar draws yr Iwerydd, yn aros yng Nghaerdydd am bythefnos cyn symud yn ei blaen i Gothenburg a'r Hâg ar gyfer cymalau olaf y ras.Yn ystod y cyfnod hwn bydd Bae Caerdydd a Phentir Alexandra, sydd newydd ei ddatblygu, yn cael eu trawsnewid yn bentref ras trawiadol, fydd yn gartref i ŵyl am ddim o gerddoriaeth fyw ac adloniant, campau dŵr, atyniadau yn ymwneud â ras Fôr Volvo a stondinau bwyd a diod.

Bydd cwmni RPC bpi yn casglu'r holl ffilm plastig gaiff ei adfer o'r digwyddiad a'i ailgylchu yn ei ffatri yn y Rhymni. Caiff y plastig a ailgylchwyd ei ddefnyddio i ail-weithgynhyrchu ystod o nwyddau plastig a ailgylchwyd, gan gynnwys bagiau sbwriel ac ailgylchu a phren plastig Plaswood - a gaiff ei gynhyrchu i greu nwyddau fel meinciau Plaswood.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Mae hi'n rhy hawdd taflu pethau y dyddiau hyn a phrynu o'r newydd sef pam ei bod hi'n hanfodol i ni dynnu sylw at bwysigrwydd ailgylchu'n gywir.

"Mae problem llygredd plastig morol yn un pryderus tu hwnt ac mae'n gymeradwy bod Ras Fôr Volvo yn defnyddio llwyfan rhyngwladol y digwyddiad i amlygu maint y broblem. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i godi proffil dulliau ailgylchu cywir, gan sicrhau bod plastig yn cael ei waredu'n gywir, heb effaith negyddol ar ein dyfroedd."

Dywedodd Mike Baxter, Cyfarwyddwr Materion Allanol, RPC bpi recycled products: "Rydym wrth ein bodd i fod yn bartner i Ras Fôr Volvo yn ystod yr arhosiad yng Nghaerdydd a sefydlu cyfleuster ailgylchu plastig eildro 100% wedi ei neilltuo'n arbennig i'r digwyddiad hwn ym Mae Caerdydd.

"Fel un o gynhyrchwyr a chyflenwyr mwyaf y byd o nwyddau plastig a ailgylchwyd rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r arfer amgylcheddol gorau a lleihau effaith plastigau. Rydym yn gwneud hyn drwy ystod o fentrau allweddol sy'n anelu at sicrhau bod plastig yn cael ei ailgylchu ar ôl ei ddefnyddio ac felly ddim yn troi'n sbwriel.Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraethau'r DU a rhai datganoledig a chyrff anllywodraethol, gan gynnwys Sefydliad Ellen McArthur Foundation, WRAP Cymru, KWT a RECOUP i ddatblygu polisïau sydd nid yn unig yn cwrdd â'r isafswm safon safonau ond i weithio tuag at ein nod o sicrhau y caiff pob plastig a gaiff ei ddefnyddio ei ailgylchu a ddim yn llygru moroedd y byd."

Un o'r cychod yn y ras yw Turn The Tide On Plastic, sydd yn cynnwys yr unig aelod criw o Gymru, sef Bleddyn Môn, a hynny ym Mlwyddyn y Môr yng Nghymru.Mae'r criw yma yn defnyddio offer casglu data ar fwrdd y cwch i fesur ansawdd dŵr a'i gynnwys, yn ogystal â'r micro-plastigau yn rhai o foroedd mwyaf diarffordd y byd.

Yn ystod y pythefnos pan fydd Pentref y Râs ar agor ym Mae Caerdydd, rhwng 27 Mai a 10 Mehefin, bydd Lolfa Eco Caerdydd yn nodwedd allweddol, yn arddangos gwastraff o'r dyfroedd ger Caerdydd, llawer ohono'n cael ei ddal gan Forglawdd Bae Caerdydd.Mae'r gwastraff wedyn wedi'i uwchgylchu i greu dodrefn gardd gwahanol ond effeithiol.

Bydd Pentref y Ras yng Nghaerdydd yn cynnal Uwchgynhadledd Gefnforol arbennig ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd - 5 Mehefin, gyda Sky Ocean Rescue sy'n gyrru'r agenda di-blastig yn chware rhan amlwg.Maen nhw wedi partneru gyda Turn The Tide On Plastic a ddatgelodd fod data a gasglwyd gan y criw wedi canfod miliynau o ronynnau micro-blastig yn yr Iwerydd a Chefnforoedd y De.

Caerdydd yw nawfed cymal y ras fôr 45,000 o filltiroedd. I gael rhagor o wybodaeth am Ras Fôr Volvo ewch i https://www.cymraeg.volvooceanracecardiff.com/

Am fwy o wybodaeth am RPC bpi recycled Products ewch i https://www.bpirecycling.co.uk