Mewn ychydig dros dair wythnos, bydd y gyfres hwylio anoddaf a mwyaf ei bri yn cyrraedd Caerdydd ac mae ABP South Wales wedi eu henwi yn bartner wrth i'r digwyddiad byd eang gyrraedd Cymru am y to cyntaf erioed.
Mae ABP South Wales, perchennog a gweithredwr porthladd Caerdydd, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru trwy gydol y project, gan gynorthwyo yn y broses fidio a helpu i hwyluso dod â'r digwyddiad yma.
Bydd y fflyd, y disgwylir iddi gyrraedd ar ddydd llun 28 Mai yn dilyn mordaith 2,900 o filltiroedd môr o America ar draws yr Iwerydd, yn aros yng Nghaerdydd am bythefnos cyn symud yn ei blaen i Gothenburg a‘r Hâg ar gyfer cymalau olaf y ras.
Yn ystod y cyfnod hwn fe fydd Bae Caerdydd a Phentir Alexandra, sydd newydd ei ddatblygu, yn cael eu trawsnewid yn bentref ras trawiadol, fydd yn gartref i ŵyl am ddim o gerddoriaeth fyw ac adloniant, campau dŵr, atyniadau yn ymwneud â ras Fôr Volvo a stondinau bwyd a diod.Bydd Ystafell Ddosbarth Addysgol ABP ar y safle, i groesawu plant ysgol ac i ymgysylltu a nhw i drafod materion amgylcheddol.
Bydd y safle hefyd yn gartref i'r Iard Gychod, adnodd cynnal a chadw cynhwysfawr fydd yn cynnig trwsio llongau hwylio.Bydd cyfle gan aelodau'r cyhoedd i weld y colbio mae'r llongau yn ei brofi yn ystod y ras a'r gwaith arbenigol sydd ei angen er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr perffaith ar bob cam o'r daith.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae ABP wedi chwarae rhan ganolog yn helpu i sicrhau a gwireddu'r digwyddiad chwaraeon rhyngwladol hwn ac rwy'n falch o'u henwi nhw fel noddwr a enwir.Mae partneriaethau fel hyn yn hanfodol fel y gall Caerdydd barhau i groesawu a darparu digwyddiadau chwaraeon byd eang sy'n rhoi hwb economaidd sylweddol i economi Caerdydd a Chymru.
Bydd pentref y ras yn atyniad twristaidd i ddilynwyr hwylio, teuluoedd ac ymwelwyr â'r ddinas, gan gynnig pythefnos o adloniant o'r radd flaenaf.Dyma hefyd fydd y tro cyntaf i aelodau'r cyhoedd gael mynediad i'r Porthladd, gan roi cipolwg unigryw ar ddociau prysur y ddinas.
"Wrth i'r digwyddiad ddirwyn yn nes, edrychwn ymlaen i groesawu Ras Fôr Volvo i Gaerdydd ac i'r miloedd o ymwelwyr newydd â Chymru, sydd ar fin profi prifddinas fywiog a chenedl ag iddi dreftadaeth amrywiol a chyfoethog.
Dywedodd Mathew Kennerley, cyfarwyddwr ABP South Wales:"Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddod â'r ras Fôr Volvo mawr ei bri i Gaerdydd.Rydym yn falch fod yr holl waith caled wedi talu ffordd, ac yn edrych ymlaen i groesawu'r timoedd rasio a'u cychod hwylio i Gaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn. Rydym hefyddyn edrych ymlaen i groesawu miloedd o blant ysgol i Ystafell Ddosbarth Addysgol ABP er mwyn iddyn nhw gael dysgu am Ras Fôr Volvo, yr amgylchedd morwrol a phroblem plastigau yn y môr.
Mae gan Borthladd Caerdydd arbenigedd o ran trin dur, cynnyrch coed a llwythi llongau swmpus.Mae'r ardal yn cwmpasu 852 erw ac yn trin 1.7 miliwn tunnell o lwythi llongau bob blwyddyn, gan gyfrannu dros £120 miliwn i economi'r DU bob blwyddyn ac ynghyd â chwsmeriaid yn cefnogi 2000 o swyddi.
Mae ABP De Cymru yn cwmpasu pum porthladd Casnewydd, Caerdydd, y Barri, Port Talbot ac Abertawe.Mae'n trin dros 12 miliwn tunnell o lwythi llongau ac yn cyfrannu £1.4 biliwn i economi'r DU bob blwyddyn a chefnogi 15,000 o swyddi yn y rhanbarth.
Caerdydd yw nawfed cymal y ras fôr 45,000 o filltiroedd.Am fwy o wybodaeth am Ras Fôr Volvo ewchhttps://www.cymraeg.volvooceanracecardiff.com/
Ewch i www.abports.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am gwmni ABPwww.abports.co.uk