Ganed Roald Dahl - a ddewiswyd fel hoff awdur y DU yn y flwyddyn 2000 i nodi Diwrnod Llyfr y Byd - yn Llandaf ar 13 o Fedi, 1916, i rieni o Norwy. Fel rhan o'r dathliadau canmlwyddiant rydym wedi creu rhestr o ddeg lleoliad yng Nghaerdydd sy'n gysylltiedig â Roald Dahl.
Beth am gerdded yn ôl troed y dyn mawr ei hun a dilyn ein Llwybrau Annisgwyl?
"Villa Marie", Fairwater Road, Llandaf (man geni Roald Dahl)
Dyma gartref y teulu lle ganed Dahl ym 1916. Cynlluniwyd nifer o fanylion yr adeilad gan Harald Dahl ei hun, sef tad Roald. "Tŷ Gwyn" yw enw'r eiddo erbyn hyn.
Stryd Bute, Butetown (lle dechreuodd Harald Dahl ei fusnes)
Teithiwch ar hyd Stryd Bute i gyfeiriad Bae Caerdydd. Roedd Harald Dahl yn frocer llongau ac fe sefydlodd fusnes llwyddiannus ‘Aadnesen & Dahl' mewn un ystafell ar Stryd Bute ym 1900.
Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd (lle bedyddiwyd Roald Dahl)
Lleolwyd yr eglwys yn wreiddiol ger y fynedfa i Ddoc Bute y Gorllewin ar dir a roddwyd yn rhodd gan Ardalydd Bute. Mae Canolfan y Mileniwm bellach ar y safle hwn. Ym 1987 sefydlwyd Ymddiriedolaeth i Warchod yr Eglwys Norwyaidd er mwyn datgymalu'r eglwys a'i hail-godi ar ei lleoliad presennol. Roald Dahl oedd llywydd yr Ymddiriedolaeth.
"Tŷ-Mynydd", Heol Isaf, Radur
Ym 1918 symudodd y teulu Dahl i Dŷ-Mynydd yn Radur. Fe'i disgrifiwyd gan Dahl fel "tŷ anferth â thyrrau ar y to a gerddi mawreddog a therasau o'i amgylch i gyd". Roedd sawl acer o dir ffermio a choedlannau, a nifer o fythynnod i'r staff." Yn anffodus, dim ond Tŷ-Mynydd Lodge sy'n sefyll bellach ac mae hwn wedi ei leoli ger y fynedfa i Faes yr Awel.
Bedd y teulu Dahl yn Eglwys Sant Ioan, Danescourt
Ewch i dalu gwrogaeth i'r teulu Dahl yn Eglwys Sant Ioan ger Radur. Mae rhieni Roald Dahl, Harald a Sofie, a'i hanner chwaer Astri wedi eu claddu yma ym medd y teulu sydd wedi ei nodi â chroes Geltaidd.
Cumberland Lodge, Ffordd Caerdydd, Llandaf
Symudodd y teulu Dahl yma ym 1921 wedi marwolaeth Harald. Mae Dahl yn ei ddisgrifio fel " villa dymunol maestrefol canolig ei faint." Meithrinfa Ysgol Howell yw'r adeilad hwn erbyn hyn.
Ysgol Elm Tree House, Llandaf (Ysgol Feithrin Roald Dahl)
Aeth Roald Dahl i'r ysgol am y tro cyntaf ym 1922. Elmtree House oedd ei enw ac roedd dwy chwaer yn ei redeg, Mrs Corfield a Miss Tucker. Dywedodd Dahl: "Mae co' niwlog gen i o eistedd ar y grisiau a cheisio dro ar ôl tro i glymu lasys un o'm hesgidiau, ond dyna'r cwbl sy'n dod nôl i mi am yr ysgol ei hun dros bellter y blynyddoedd." 27 Palace Road yw'r eiddo erbyn hyn.
Lawnt y Gadeirlan, Llandaf
Ym 1923 aeth Roald Dahl i Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf, oedd bryd hynny yn edrych dros Lawnt y Gadeirlan yng nghanol pentref Llandaf.
Yr allt ar hyd ochr Cadeirlan Llandaf
Yn atgofion plentyndod Roald Dahl, ‘Boy', mae'n dwyn i gof fachgen deuddeg oed wnaeth argraff ddofn arno drwy reidio ei feic yn wyllt i lawr yr allt hon. Roedd y beiciwr yn pedlo am yn ôl heb afael yn handlenni'r beic. Fel tyst 7 mlwydd oed i'r digwyddiad hwn fe dyngodd y byddai un diwrnod hefyd yn beicio i lawr yr allt serth yn yr un modd.
Mrs Pratchett's Sweetshop, Heol Fawr, Llandaf
Yn ‘Boy' mae Roald Dahl yn amlinellu'r rhan allweddol a chwaraeodd yn y Cynllwyn Llygod Mawreddog a ddigwyddodd yn siop losin Mrs Pratchett. O ganlyniad i'r gosb ddeilliodd o hynny, fe symudwyd Dahl gan ei fam o Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf ac ym 1925 fe'i gyrrwyd i ysgol breswyl San Pedr yn Weston-Super-Mare. Erbyn hyn, tecawê Tsieineaidd The Great Wall yw'r eiddo.
*** Byddwchyn ymwybodol fod rhai o'r lleoliadau hyn ar dir preifat a dylid parchu preifatrwydd y perchnogion bob amser.