Back
Caerdydd yn hyrwyddo cynaliadwyedd yn ystod Ras Fôr Volvo

Gyda llai na mis i fynd nes bydd cyfres hwylio anoddaf a mwyaf cyffrous y byd yn dod i brifddinas Cymru, mae Caerdydd yn awyddus i arddangos ei chynaliadwyedd cyn y digwyddiad sydd â sail amgylcheddol. 

Yn rhannu neges gref am foroedd glân ar ei daith 45,000 milltir ar hyd y moroedd mawr, mae ymgyrch y Râs yn tynnu sylw at yr wyth miliwn tunnell o blastig sy'n llifo i foroedd y byd bob blwyddyn.

Fel porthladd croeso, mae Caerdydd yn ystyried llunio ei hastudiaeth gynaliadwyedd ei hun, yn yr un modd â phorthladdoedd rhyngwladol eraill fel Hong Kong ac Auckland.Yn ystod y pythefnos pan fydd Pentref y Râs ar agor ym Mae Caerdydd, rhwng 27 Mai a 10 Mehefin, bydd Lolfa Eco Caerdydd yn un o'r prif atyniadau, yn arddangos gwastraff o ddyfroedd o amgylch Caerdydd, y mae llawer ohono'n cael ei ddal gan Forglawdd Bae Caerdydd.Mae'r gwastraff wedi'i uwchgylchu i greu dodrefn gardd ardderchog.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:"Heddiw, mae'n rhy hawdd i daflu pethau ac i brynu pethau o'r newydd, ond mae'r project Lolfa Eco wedi dangos beth allwch chi ei wneud allan o sbwriel.Mae'r eitemau sydd wedi'u creu o safon ardderchog ac maent yn amlygu faint o wastraff a gweddillion sy'n cael eu gadael ym Mae Caerdydd a'r dyfroedd cyfagos.

"Mae'r broblem o lygredd plastig morol yn gwaethygu ac mae'n wych bod Ras Fôr Volvo yn defnyddio sylw rhyngwladol y digwyddiad i amlygu maint y broblem.Mae Caerdydd wedi ymrwymo i daclo'r broblem ac mae projectau ailgylchu fel hyn yn helpu i gyfrannu at rannu'r neges, gan obeithio y bydd yn annog pobl i beidio â defnyddio ein moroedd a'n hafonydd i waredu gwastraff."

Bydd Pentref y Râs yng Nghaerdydd yn cynnal Uwchgynhadledd Cefnforol arbennig ar Ddydd Amgylchedd y Byd - 5 Mehefin, gyda chyfraniad cryf gan Sky Ocean Rescue sy'n gyrru'r agenda di-blastig.

Bydd rhan Newport, Rhode Island, UDA i Gaerdydd o'r Ras Fôr Volvo yn gadael ar 20 Mai, ac ar ôl 3,000 milltir morol, mae disgwyl i'r llongau gyrraedd ddydd Sul y 27ain am saib o 14 diwrnod cyn i'r fflyd symud ymlaen i Gothenburg a Hague am y cam olaf ar ddiwedd Mehefin.

 

Volvooceanracecardiff.com

croesocaerdydd.com

croesocymru.com