Swydd ddelfrydol gwbl unigryw ar ynys sydd bum milltir o arfordir Caerdydd gyda goleudy ei hun, roedd hi'n gyfle na allai Mat Brown ei wrthod. Mae Mat wedi llwyddo i gael swydd fel Warden ar Ynys Echni ac mae bellach yn edrych ymlaen at gael dianc am yr haf ac yn awyddus i gael blas ar fywyd ynys.
Gyda chefndir mewn Gwyddor yr Amgylchedd, mae blaenoriaethau Mat ar yr ynys yn cynnwys rheoli cynefinoedd, monitro bywyd gwyllt fel adar, pili-palod a nythfeydd y Gwylanod Cefn-ddu Lleiaf a Gwylanod y Penwaig, ynghyd â chynnal a chadw adeiladau hanesyddol sy'n cynnwys y barics Fictoraidd a'r hen ffermdai sydd bellach yn gartref ac yn ganolfan breswyl i hyd at 24 o bobl. Mae yna ganolfan astudiaethau maes hefyd i'w rheoli, wardeiniaid gwirfoddol i'w goruchwylio a thafarn i'w rhedeg, sef y ‘Gull and Leek' - y dafarn fwyaf deheuol yng Nghymru. Ei dasg gyntaf oll yw paratoi'r ynys ar gyfer ymwelwyr a sicrhau y gall ymwelwyr dros nos ac ymwelwyr dydd gael profiad bythgofiadwy ar yr ynys.
Nid yw Ynys Echni yn ddieithr i Mat o bell ffordd ar ôl iddo weithio arni fel gwirfoddolwr am 6 mis dros y gaeaf. Cwympodd mewn cariad â chymeriad unigryw'r ynys, ei gwylltir a'i golygfeydd anhygoel o arfordiroedd Cymru a Lloegr. Bydd yn treulio mis ar y tro ar yr ynys cyn dychwelyd i'r tir mawr. Mae gofyn bod yn drefnus i sicrhau bod ganddo bopeth sydd ei angen arno ar gyfer ei gyfnod ar yr ynys. Er y gall weld goleuadau disglair y ddinas gyda'r nos a hyd yn oed clywed y dorf o Stadiwm Principality ar ddiwrnod gêm, mae cael nwyddau i'r ynys yn dibynnu ar y llanw.
Dywedodd Mat Brown, ‘Cwympais mewn cariad â'r ynys. Mae byw arni'n iach iawn, mae'n awchu eich sgiliau ac mae'n le ardderchog i fynd â'ch astudiaethau ecolegol i'r lefel nesaf o ystyried cymaint o adnoddau sydd o amgylch, a hynny heb ymyrraeth. Rwyf hefyd yn frwd iawn dros rannu treftadaeth ddiwylliannol a hanes natur yr ynys ag ymwelwyr. Os byddai'n gadael yr ynys â gwell siâp arnaf na phan gyrhaeddais, yna bydd y cyfan wedi bod yn werth chweil."
Dywedodd Natalie Taylor, Arweinydd Tîm Awdurdod Harbwr Caerdydd, "Rydym wrth ein boddau bod Mat wedi derbyn yr her. Bydd yn brofiad anodd a gwerthfawr gan fod nifer o brojectau i'w cwblhau dros yr haf a fydd yn helpu i warchod nodweddion naturiol a diwylliannol yr Ynys."
I gael diwrnod mas i'w gofio, beth am ymweld ag Ynys Echni i gyfarfod â Mat a'r tîm? Caiff teithiau dydd i'r ynys eu trefnu gan Bay Island Voyages (bayislandvoyages.co.uk) a Cardiff Sea Safaris (cardiffseasafaris.co.uk).
Am fwy o wybodaeth am sut allwch ymweld â'r ynys, aros neu wirfoddoli arni, neu i gael mwy o wybodaeth am Ynys Echni, ewch i:
https://cardiffharbour.com/cy/ynysechni/