Back
Rhodfa'r Bae yn ailagor yn dilyn gwaith gwella mawr

Mae Rhodfa'r Bae o Borth Teigr i Adeilad yr Amgylchedd wedi ailagor ar ôl gwaith i ledaenu'r llwybr cerdded a beicio i saith metr.

Bydd y gwaith datblygu, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, yn gwella'r llwybr ac yn ei wneud yn haws i'w ddefnyddio ar gyfer hyd at 150,000 o bobl sy'n croesi'r Morglawdd bob mis.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r penderfyniad i ehangu llwybr cerdded y Bae yn ymateb i adborth i wella'r llwybr sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr y Bae.

"Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i ymwelwyr fynd i atyniadau hamdden ar Forglawdd Bae Caerdydd, a safle digwyddiad Ras Fôr Volvo sy'n stopio yng Nghaerdydd ym Mai 2018 am bythefnos."

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i wella seilwaith beicio a cherdded y ddinas a dwi wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y cyhoedd am y gwelliannau sydd wedi'u gwneud. Mae'n llwybr prysur iawn gyda llawer o bobl yn ei ddefnyddio i fwynhau a chymudo. Mae hefyd yn lle poblogaidd i blant ddysgu beicio, ac mae'n agos at ein cyfeillion yn Pedal Power hefyd."