Back
Angen gwirfoddolwyr ar gyfer digwyddiad chwaraeon byd-eang

Ar y 27 Mai mae Ras Fôr Volvo, digwyddiad hwylio anoddaf a mwyaf mawreddog y byd, yn cyrraedd Caerdydd am gyfnod o bythefnos - ac mae galw am bobl leol i gymryd rhan yn yr achlysur chwaraeon byd-eang hwn.

Y mis hwn bydd y ras yn croesi Môr yr Iwerydd o Newport, Ynys Rhode i gyrraedd Caerdydd lle bydd ymwelwyr o bob cwr o'r byd yn cael cyfle i weld y fflyd yn agos, a darganfod mwy am Gaerdydd.Mae gwirfoddolwyr nawr yn cael eu recriwtio i gefnogi'r digwyddiad, felly dylai unrhyw un â diddordeb ymweld âwww.thesportshub-cardiff.comneu ffonio02920 205283.

Mae Caerdydd wedi bod yn ffodus i allu cynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr yn y blynyddoedd diwethaf - Rownd Derfynol Cynghrair Hyrwyddwyr UEFA; Cwpan Rygbi'r Byd; Gemau Olympaidd Llundain 2012 er enghraifft, ac mae pobl Cymru bob amser wedi ymateb yn wych i'r galw am wirfoddolwyr er mwyn helpu gwneud profiad yr ymwelydd yn gofiadwy, ac o fudd i'r economi leol.

Bydd angen 500 o wirfoddolwyr i weithio ar Ras Fôr Volvo pan fydd yng Nghaerdydd rhwng Mai 27 a Mehefin 10 ar ôl croesi Môr yr Iwerydd.Mae Hilary Coulson o'r Rhath, Caerdydd yn barod wedi cofrestru; mae hi'n nyrs 66 oed ac wedi ymddeol, ac mae wedi cael profiadau na freuddwydiodd erioed y byddai'n eu cael ers iddi gofrestru fel gwirfoddolwr Dinas Gwestai Caerdydd ar gyfer Llundain 2012.

Mae ei hanes yn cynnwys Cwpan Prydain Fawr 2011, twrnamaint rygbi cadeiriau olwyn rhyngwladol; Hanner Marathon Caerdydd; Tlws Pencampwyr Criced yr ICC; Gwersylloedd Pêl-droed Olympaidd, Gwersylloedd Paralympaidd Cyn-Chwarae; Uwch Gwpan UEFA; Cwpan Rygbi'r Byd; Rownd Derfynol Cynghrair Hyrwyddwyr UEFA; Y Llwch Criced; Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd yr IAAF a llawer mwy. 

Felly beth yw'r atyniad iddi?Dywedodd Hilary:"Rhaid mai fi yw'r gwirfoddolwr lleiaf hoff o chwaraeon yng Nghaerdydd, ond nid yw hynny'n gwneud unrhyw wahaniaeth.Rwyf wedi cael blynyddoedd o hwyl, mwynhad, a theimlad o gyflawni wrth fod yn rhan o dîm.Mae yna gyffro go iawn i'r digwyddiadau chwaraeon hyn, ac rydych chi'n cwrdd â phobl mor wych sy'n dod yn ffrindiau cadarn.Rwy'n gwybod cymaint yw cyfraniad y prif ddigwyddiadau hyn at enw da ac economi Caerdydd a Chymru, ond rydw i'n cael cymaint allan ohonynt yn nhermau personol.Rwy'n falch o ddangos fy ninas i'r trigolion dros dro hyn, a gyda 50 diwrnod i fynd cyn i'r fflyd gyrraedd, byddwn yn annog pobl i ddod i roi cynnig arni ar gyfer Ras Fôr Volvo yn ystod Blwyddyn y Môr yng Nghymru."

Fe fydd gŵyl pythefnos o hyd am ddim ym Mhentref Ras Fôr Volvo wedi ei leoli ger Morglawdd Bae Caerdydd, lle gall ymwelwyr weld y cychod a chanfod amrywiaeth o atyniadau ac adloniant yn ymwneud â'r Ras ar y glannau, gan gynnwys cerddoriaeth fyw a pherfformiadau o LEXICON, dehongliad cyfoes o dreftadaeth byd y syrcas, wedi ei greu gan NoFit State o Gaerdydd a Firenza Guidi. Bydd blas Cymreig ar yr ŵyl, gyda chynhyrchwyr o Gymru yn cynnig bwyd a diod lleol - o fariau yn cynnig cwrw crefft i'r gwerthwyr bwyd stryd mwyaf poblogaidd.

Cychwynnodd y Ras Fôr Volvo o 45,000 milltir forol o Alicante yr Hydref diwethaf, gan deithio ar hyd y cefnforoedd mawr gan aros yn rhai o'r cyrchfannau morol mwyaf adnabyddus fel Hong Kong, Cape Town ac Auckland.Pan fydd yn gadael Caerdydd ar 10 Mehefin, bydd yn symud ymlaen i Gothenburg a'r Hâg ar gyfer y diweddglo ddiwedd Mehefin.

Volvooceanracecardiff.comCroesocaerdydd.com #Caerdyddyw