Back
Bae Caerdydd - Gweithgareddau hanner tymor i roi hwb i chi!

Awyr iach, golygfeydd eang a darn 10km o lwybr gwastadi gerdded, rhedeg neu feicio ar ei hyd.Wrth i chi fynd, mwynhewch yr arddangosfeydd am ddim, parc chwarae i blant, lle sglefrio, a champfa awyr agored, a gallwch hyd yn oed dynnu hun-lun gyda'r Crocodeil Anferth.

MaeGwarchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdyddyn wyth hectar o dir sy'n gartref i amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys creaduriaid di-asgwrn-cefn, pysgod a bywyd gwyllt arall.Mae hi ar y lan ogleddol rhwng Gwesty Dewi Sant ac Afon Taf.Lawrlwythwch y pecyn gweithgareddau Taith Antur Bywyd Gwyllt am ddim a dysgwch am y rhywogaethau sy'n byw yn y warchodfa wrth i chi fynd ar eich ffordd.https://cardiffharbour.com/education

Mae Bae Caerdydd yn gartref i Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd, sy'n llawn gweithgareddau hwyliog gwefreiddiol.Yn ystod gwyliau'r ysgol, bydd y ganolfan yn cynnal sesiynau rafftio i deuluoedd lle gostyngir lefel y dŵr a'i arafu i fod yn addas ar gyfer aelodau iau'r teulu.

Dewch i fwynhauTon Dan DoacAntur Awyr am bris gostyngedig yn y pecyn Dydd Sul Llawn Hwyl sydd ar gael bob dydd Sul tan 25 Mawrth.

Gallwch hefyd fynd ar daith o gwmpas y Bae mewn cwchneu logi beic ganDGRhCi archwilio hyfrydwch Llwybr y Bae am £10 yn unig heb angen trefnu ymlaen llawn.

Ewch i www.ciww.com i gael mwy o fanylion.

I gael mwy o wybodaeth am fwynhau'r awyr agored ym Mae Caerdydd, ewch i www.cardiffharbour.com