Beth sy'n cael ei gynnig a pham
Ers mis Hydref y llynedd, mae 30,000 o goed wedi eu plannu yng Nghaerdydd fel rhan o brosiect Coed Caerdydd.
Mae map o'r awyr o goed yn helpu Cyngor Caerdydd i leihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb.
Mae Cyngor Caerdydd wedi lleihau ei allyriadau carbon uniongyrchol 13% ers 2019/20, yn ôl adolygiad o'i ymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd, sy'n amlinellu ei flaenoriaethau wedi'u diweddaru ar gyfer gweithredu.
Bydd gwasanaeth symudedd gyriant pedair olwyn yn cael ei lansio ym Mharc Cefn Onn y flwyddyn nesaf wrth i waith ar brosiect £660,000 i warchod treftadaeth y parciau a gwella mynediad a chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr gael ei gwblhau.
Mae garddwraig dalentog sy'n gweithio yn rhai o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd wedi'i henwi yn ‘Brentis y Flwyddyn.'
Mae praidd o ddefaid Boreray sydd mewn perygl, a fridiwyd gan ferch bymtheg oed, wedi cael ei gludo i Ynys Echni i helpu i gynyddu niferoedd y gwylanod cefnddu lleiaf ar yr ynys.
Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi cael ei ganmol gan yr RSPCA, sydd wedi cydnabod safon ei gynelu a'r ffordd y mae cŵn strae yn derbyn gofal yng nghyfleuster Cyngor Caerdydd, gyda dwy Wobr PawPrints.
Bydd miloedd o goed newydd yn cael eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y chwe mis nesaf, mewn mwy na 150 o leoliadau gwahanol gan gynnwys parciau, mannau gwyrdd, hybiau cymunedol, ysgolion a strydoedd.
Mae'r Gronfa Her, sy'n gweithio ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy, wedi agor ceisiadau ar gyfer her cynhyrchu bwyd gynaliadwy newydd.
Mae ffarwelio â ffrindiau, perthnasau ac anwyliaid bob amser yn anodd, ond oherwydd y pandemig, pan oedd cyfyngiad ar nifer y bobl a oedd cael mynd i angladdau, roedd hi'n anoddach fyth.
Ar ôl treulio'r 10 mlynedd ddiwethaf yn chwarae rhan hanfodol yn helpu Cŵn Tywys Cymru i hyfforddi eu tîm o arwr-gŵn, roedd yr Arglwydd Faer Caerdydd, Graham Hinchey a'i wraig Anne yn gwybod yn iawn pa elusen ddylai fod yn ffocws i’w blwyddyn o godi aria
Diolch i’r llu o wirfoddolwyr parod, mae 20,000 o goed newydd wedi cael eu plannu yng Nghaerdydd ers yr hydref diwethaf fel rhan o raglen eang iawn i blannu coed gyda'r nod o gefnogi bioamrywiaeth a chynyddu canopi coed y ddinas o 18.9% i 25%
Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cyhoeddi bod 16 o Faneri Gwyrdd wedi'u dyfarnu i barciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd.
Cafodd dros 20 o goed ceirios, sy'n ffurfio rhan o rodfa newydd ei phlannu ym Mharc y Mynydd Bychan eu fandaleiddio y penwythnos hwn.
Mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, wedi cyflwyno Rhaglen Lywodraethu newydd ei weinyddiaeth i gasgliad o fwy na 100 o arweinwyr busnes, dinesig a'r sector cyhoeddus.