Back
Lefelau gwirfoddoli ym Mharciau Caerdydd nôl at yr hyn oedden nhw cyn Covid ac yn 'help mawr'

Mae pobl ledled y DU wedi cael eu hannog i ymuno â'r 'Help Llaw Mawr' yr wythnos hon i nodi Coroni Ei Fawrhydi'r Brenin, ond ym mharciau Caerdydd mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cynnig 'help llaw mawr' drwy'r flwyddyn - gyda'r nifer o oriau y maen nhw'n eu treulio yn gweithio ym mannau gwyrdd y ddinas - yn ôl, am y tro cyntaf, i'r un lefel â chyn Covid.

Mae Parc Grangemoor, hen safle tirlenwi yn Grangetown sy'n cynnig golygfeydd panoramig o'r ddinas, yn un o nifer o barciau sydd wedi elwa ar waith caled gwirfoddolwyr yn ddiweddar. Mae Jon Wallis, gwirfoddolwr cadwriaethol cyson gyda Chyngor Caerdydd, yn un o bum gwirfoddolwr sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â staff y cyngor i reoli'r cynefin.

"Heddiw rydyn ni'n tynnu'r ffensys gafodd eu codi i ddiogelu coed ifanc," esboniodd Jon yn ystod egwyl fer, "mae'r coed ifanc i gyd wedi tyfu felly does dim angen y ffensys bellach, mae'r pyst yn dechrau disgyn ar ôl ychydig, ac yn edrych braidd yn hyll felly rydyn ni'n eu tynnu.  Ond rydyn ni hefyd yn gwneud gwaith prysgoedio, yn gosod wynebau newydd ar lwybrau, beth bynnag sydd angen ei wneud, ac mae'n helpu'r Ceidwaid i gyflawni mwy nag y gallen nhw fel arall.

"Rwyf wrth fy modd, a byddwn i ar goll hebddo, fel roeddwn i adeg Covid.  Rydych chi'n gweld canlyniadau'r hyn rydych chi'n ei wneud, gynted ag mae'r ffens yn mynd, mae'n edrych yn fwy naturiol, neu rydych chi'n plannu rhywbeth a'i weld e'n tyfu'r flwyddyn nesaf."

"I fi mae'r teimlad o wneud rhywbeth cadarnhaol dros yr amgylchedd, waeth pa mor fach, yn bwysig. ‘Gwnewch y pethau bychain', dywedodd Dewi Sant, ac os oes digon o bobl yn gwneud,  mae'r pethau bach yn troi'n fawr.  Allwn ni ddim achub y byd ar ein pennau ein hunain, ond fe allwn ni i gyd gyfrannu."

Mae ffigyrau ar gyfer 2022/23 yn dangos bod gwirfoddolwyr wedi cyflawni 19,385 awr o wirfoddoli ym mannau gwyrdd y brifddinas - mae hynny 274 awr yn fwy nag yn ystod 2019/20, cyn y pandemig.

Yn ôl yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Pharciau, y Cynghorydd Jennifer Burke, mae pobl yn sylwi ar ymroddiad gwirfoddolwyr parciau'r ddinas.

"Mae cael ein gwirfoddolwyr yn ôl yn newyddion gwych i barciau a mannau gwyrdd Caerdydd," meddai'r Cynghorydd Burke. "Boed yn gweithio yn y tai gwydr ym Mharc Bute, yn helpu gyda phlannu coed, yn rheoli cynefinoedd a gwneud gwaith cadwraeth, neu'n rhoi o'u amser i weithio gyda Grwpiau Cyfeillion y parciau ledled y ddinas, mae pob awr wirfoddoli wir yn cyfrif, ac yn helpu ein timau gweithgar i gyflawni llawer mwy nag y gallen nhw ar eu pennau eu hunain.

"Gydag adroddiadau diweddar fod lefelau gwirfoddoli yn gostwng ledled y DU, mae'n glod i'n cymuned leol yma yng Nghaerdydd bod trigolion, hyd yn oed cyn 'Yr Help Llaw Mawr', yn mynd yn groes i'r duedd ac yn benthyg llaw hanfodol. Roedd ein mannau gwyrdd wir wedi gweld eisiau eu holl waith caled a'u brwdfrydedd yn ystod y pandemig, felly mae'n wych eu cael nhw'n ôl."

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ym mharciau Caerdydd, mae gwybodaeth yma: https://www.outdoorcardiff.com/cy/cymrwch-ran/grwpiau-ffrindiau/