Mae garddwraig dalentog sy'n gweithio yn rhai o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd wedi'i henwi yn ‘Brentis y Flwyddyn.'
Yn 2018 roedd Teaka Scriven yn gweithio fel peiriannydd, yn mwynhau gofalu am ei gardd gefn yn yr ychydig amser sbâr oedd ganddi, ac yn breuddwydio am newid gyrfa.
Daeth y newid hwnnw pan wnaeth ei brwdfrydedd dros ymgymryd â her newydd greu argraff fawr ar banel cyfweld, a chwta bedair blynedd yn ddiweddarach, mae hi wedi cael ei henwi'n enillydd gwobr Prentis Gwasanaethau Amgylcheddol y Flwyddyn ledled y DU gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus - rhywbeth sydd y tu hwnt i'w chrediniaeth meddai hi.
"Pan wnaethon nhw alw fy enw i, roedd yn anhygoel a dweud y gwir. Wnes i ddim deall yn syth beth oedd newydd ddigwydd, achos roeddwn i'n gwybod bod llawer o ymgeiswyr cryf iawn. Ond wedi i'r nerfau dawelu roeddwn i'n teimlo'n falch iawn, nid yn unig drosta i fy hun ond pawb yn adran y parciau, achos maen nhw i gyd wedi helpu, gyda'r holl hyfforddiant, arweiniad a chyngor. Roeddwn i'n falch iawn o gael y wobr ar ran Caerdydd."
Dywed Teaka ei bod wedi bod yn fraint cael cyfle i weithio a dysgu mewn "mannau mor anhygoel. Maen nhw'n barciau Baner Werdd, y llefydd gorau i weithio mewn garddwriaeth mewn gwirionedd."
Hyd yn oed ar ôl cyflawni prentisiaeth pedair blynedd ac ennill swydd barhaol newydd fel garddwraig yn gweithio yn y parciau arobryn hynny, dyw Teaka ddim yn gorffwys ar ei rhwyfau.
"Cael swydd fel garddwraig oedd y cam nesaf, roeddwn i'n falch iawn o'i chael hi, achos does dim sicrwydd, ac rwy'n dal yn y coleg, ar fin gorffen HND mewn Garddwriaeth yn y gwanwyn. Gobeithio y caf i farciau da yn hynny! Rwyf hefyd yn y broses o wneud cais i fod yn feirniad Baner Werdd i barciau."
Yn un o 25 prentis sydd wedi bod ar gynllun prentisiaeth parciau Cyngor Caerdydd ers iddo gael ei lansio yn 2003, byddai bywyd Teaka meddai hi, yn "wahanol iawn nawr heb brentisiaeth y parciau."
Ond er gwaethaf y gwobrau, os gofynnwch iddi beth fu'r uchafbwynt ers iddi ymuno â'r tîm dywed mai'r cyfle i ddylunio gwelyau blodau Gerddi'r Orsedd y llynedd oedd yr uchafbwynt hwnnw, y mae'n ei ddisgrifio fel "profiad anhygoel".