Back
Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned i helpu Caerdydd i gyflymu'r daith i net-sero

27.5.23

Bydd busnesau a sefydliadau'r trydydd sector o bob rhan o Gaerdydd yn ymgynnull ar gyfer 'Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned' i helpu i gyflymu taith y ddinas i ddyfodol sero-net.

Cyngor Caerdydd sy'n cynnal yr uwchgynhadledd ar 13 Mehefin. Yn rhan ohoni bydd amrywiaeth o sgyrsiau, dadleuon, trafodaethau panel, gweithdai cydweithredol, a chyfleoedd rhwydweithio. Mae popeth wedi'i ddylunio i ysbrydoli a llywio ymdrech ar y cyd i symud y ddinas tuag at ddyfodol carbon niwtral.

Mae'r uwchgynhadledd yn rhad ac am ddim i fusnesau a sefydliadau yng Nghaerdydd, ond rhaid cofrestru ymlaen llaw.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd: "Mae llawer o fusnesau, sefydliadau ac unigolion lleol eisoes yn gwneud gwaith gwych i helpu i wneud Caerdydd yn brifddinas carbon niwtral yn y dyfodol. Mae Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned yn creu canolbwynt i'r holl arbenigedd a'r brwdfrydedd hwnnw i ddysgu oddi wrth ein gilydd gan obeithio datblygu partneriaethau hirhoedlog i'n helpu i gyrraedd y nod o fod yn garbon niwtral cyn gynted â phosibl.

"Fel cyngor, rydym yn gweithio'n galed iawn i leihau ein heffaith ar y blaned.  Yn y ffigurau diwethaf roedden ni wedi lleihau ein hallyriadau carbon ein hunain 13% ers 2019/20. Mae hynny'n gynnydd da, ond y realiti yw bod bron i chwarter o'r allyriadau carbon yng Nghaerdydd yn dod o'r sectorau masnachol a diwydiannol, gyda 38% arall yn dod o drafnidiaeth. Er y gall y Cyngor gael dylanwad dros rai o'r meysydd hyn, rydyn ni angen i fusnesau, y sector cyhoeddus, a sefydliadau eraill ymuno â ni i roi newid hinsawdd wrth wraidd yr hyn maen nhw'n ei wneud, os ydyn ni am gyflawni ein nod yn y pen draw o fod yn ddinas carbon niwtral - y rheswm dros gynnal yr uwchgynhadledd."

Mae siaradwyr yn yr Uwchgynhadledd, a gynhelir yn Techniquest ym Mae Caerdydd, rhwng 9am a 1pm, yn cynnwys:

  • Cyngor Ieuenctid Caerdydd a'r Cynghorydd Wild -Gosod gweledigaeth Caerdydd
  • Darren Stewart, Cyfarwyddwr Masnachol Euroclad -Pam a sut rydyn ni'n cynllunio ar gyfer dyfodol carbon isel.
  • Jarrad Morris, sefydlydd busnes lleol ac entrepreneur -Gwasanaethau a chyfleoedd newydd.
  • Clare Sain-ley-Berry, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru - Sustain Wales -"Ar gyfer y daith - cymorth ac arweiniad" 

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfleoedd rhwydweithio a sesiwn holi ac ateb.

I gofrestru, ewch i: https://tocyn.cymru/cy/event/0f927096-d40b-4962-b200-d0d25e63ee45