Back
Defaid mewn perygl sydd wedi’u bridio gan fugail yn ei harddegau yn cael rôl gadwraeth ar Ynys Echni

Mae praidd o ddefaid Boreray sydd mewn perygl, a fridiwyd gan ferch bymtheg oed, wedi cael ei gludo i Ynys Echni i helpu i gynyddu niferoedd y gwylanod cefnddu lleiaf ar yr ynys.

Fel plentyn, treuliodd y bugail, Faith Green ei gwyliau haf yng Nghymru yn helpu i ofalu am y defaid ar fferm ei mam-gu a'i thad-cu ac yn naw oed penderfynodd ei bod eisiau ei phraidd ei hun, gan ddewis brîd prinnaf Prydain, y Boreray sydd mewn perygl difrifol ac sy'n tarddu o Ynysoedd Heledd oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban.

Yn bymtheg oed erbyn hyn, dywedodd Faith: "Pan ddechreuais i, yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud oedd cynyddu eu niferoedd oherwydd does dim llawer ohonyn nhw ar ôl, mae eu niferoedd yn cynyddu erbyn hyn ond ddim yn rhy gyflym, felly maen nhw'n dal i gael trafferth.

"Dros y pum mlynedd diwethaf dwi wedi cynyddu nifer fy mhraidd, sy'n ffordd dda o helpu'r brîd. Dwi wedi dewis ambell un o'm praidd i ddod yma i Ynys Echni ac i dreulio gweddill eu bywydau yma, yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau ei wneud."

Mae'r defaid Boreray yn cymryd lle'r defaid Soay a gafodd eu cyflwyno i Ynys Echni yn y 1990au. Mae henaint wedi effeithio ar y praidd gwreiddiol a dim ond dwy ddafad sy'n dal i bori glaswelltir yr ynys erbyn hyn, gan greu effaith sylweddol ar ei phoblogaeth gwylanod warchodedig.

Yn 2009 roedd dros 4000 o barau o wylanod cefnddu lleiaf yn byw ac yn bridio ar Ynys Echni. Yn ôl y cyfrif diwethaf ddechrau eleni, mae hyn wedi gostwng i 1691.

Yn ôl Swyddog Cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru, Elizabeth Felton, mae niferoedd is y gwylanod yn "debygol o fod o ganlyniad i newidiadau i lystyfiant yr ynys" a'r gobaith yw y gallai'r defaid Boreray helpu i gynyddu nifer y gwylanod wrth i'r praidd newydd bori'r ynys a "chreu safleoedd nythu hanfodol" i'r adar.

Mae Ynys Echni, sy'n cael ei rheoli a'i pherchen gan Gyngor Caerdydd, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a hi yw ynys 'Caru Gwenyn' gyntaf Cymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Mae'r gwaith mae Faith wedi'i wneud i helpu'r brîd hwn sydd mewn perygl difrifol, a hynny mor ifanc, yn ysbrydoledig iawn, a bydd modd teimlo effaith y praidd yn ehangach fyth wrth iddynt ymgartrefu ar yr ynys.

"Mae Ynys Echni yn amgylchedd unigryw ac mae'n bwysig ein bod yn ei rheoli â chydymdeimlad fel y gall y fflora a'r ffawna ffynnu'n hir i'r dyfodol. Bydd rôl pori er lles cadwraeth y defaid ar yr ynys yn bwysig iawn wrth ein helpu i wneud hynny, a gobeithio y gwelwn arwyddion cyn bo hir bod nifer y gwylanod yn cynyddu."

Yn ogystal â'r gwylanod, mae'r ynys hefyd yn gartref i boblogaeth o nadroedd defaid, y cennin gwyllt prin, a thafarn fwyaf deheuol Cymru, sef y 'Gull and Leek.'