Mae Caerdydd yn adnabyddus am ei pharciau a'i mannau gwyrdd hardd ac eleni mae Caeau Llandaf wedi dod yn 21ain safle sy'n cael ei reoli gan Gyngor Caerdydd i gyflawni'r safonau uchel sy'n ofynnol i chwifio Baner Werdd.
Bydd prosiectau i gynnal natur yng Nghaerdydd yn derbyn hwb ariannol o £2 filiwn drwy gynllun 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur'.
Mae busnesau, grwpiau chwaraeon a grwpiau cymunedol lleol yn cael cynnig cyfle i gymryd safle hen bafiliwn lawnt fowlio ym Mharc Hailey ar brydles.
Mae system casglu dŵr glaw newydd bellach yn cyflenwi hyd at 60% o'r dŵr sydd ei angen i ofalu am y 350,000 o blanhigion sy'n cael eu tyfu mewn tai gwydr ym Mharc Bute bob blwyddyn.
Mae prentis parciau Caerdydd wedi ennill Gwobr 'Prentis y Flwyddyn Seren Ddisglair'.
Mae cyfle i ddatblygu caffi newydd i wasanaethu'r degau o filoedd o bobl sy'n ymweld â pharc hanesyddol rhestredig Gradd II bob blwyddyn wedi’i gyhoeddi.
Mae prosiect coedwig drefol a ddatblygwyd gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'i ymateb ‘Caerdydd Un Blaned’ i newid hinsawdd wedi plannu 36,526 o goed newydd yn ystod y 7 mis diwethaf.
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul yn Grangetown wedi creu hanes trwy helpu i dorri Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o bobl yn cymryd rhan mewn ymgyrch glanhau afon.
Mae prosiect cadwraeth newydd sydd â’r nod o ddiogelu ac adfer coetir yng Ngogledd Caerdydd a ddifrodwyd gan lwybrau anawdurdodedig wedi sicrhau £346,000 o gyllid.
Mae gwaith adeiladu rhwydwaith gwresogi ardal carbon isel a fydd yn lleihau allyriadau carbon o adeiladau cysylltiedig yng Nghaerdydd hyd at 80% ar fin cael ei gwblhau
Mae allyriadau carbon a grëwyd yn uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd wedi cael eu torri 18% ers lansio ymateb Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol i newid hinsawdd yn 2019.
Os byddwch yn cael tacsi yng Nghaerdydd heddiw, gallai eich taith fod yn lanach ac yn wyrddach oherwydd cynllun gan Gyngor Caerdydd sydd wedi darparu mwy na £200,000 o grantiau
Mae plant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghaerdydd yn elwa o gynllun newydd sy'n darparu beics wedi'u hailgylchu am ddim.
Plannwyd y 100,000fed coeden yng 'nghoedwig drefol' newydd Caerdydd, bedair blynedd yn unig wedi'r un gyntaf.
Mae rhywogaeth brin o goeden afalau a dyfai ar dir ystâd deuluol Bute yng Nghaerdydd ar un adeg wedi cael ei hailgyflwyno i'r ddinas am yr hyn y credir yw'r tro cyntaf ers tua 100 mlynedd.
Ar ynys anghysbell fel Ynys Echni, heb gyflenwad dŵr, nwy na thrydan prif gyflenwad i gysylltu ag ef, mae pethau syml fel berwi tegell ac aros yn gynnes yn y misoedd oerach yn gallu bod yn fwy cymhleth nag maen nhw ar y tir mawr