Back
Rhwydwaith gwresogi ardal carbon isel yng Nghaerdydd ar fin cael ei gwblhau

3.4.25

 

Mae gwaith adeiladu rhwydwaith gwresogi ardal carbon isel a fydd yn lleihau allyriadau carbon o adeiladau cysylltiedig yng Nghaerdydd hyd at 80% ar fin cael ei gwblhau, gyda disgwyl i'r gwres gael ei gyflenwi i gwsmeriaid am y tro cyntaf yn y misoedd nesaf, unwaith y bydd y gwaith comisiynu a'r profion terfynol wedi digwydd.

Prosiect gwerth £15.5 miliwn Cyngor Caerdydd, a gyflwynir gyda chymorth grant gan Lywodraeth y DU a benthyciad gan Lywodraeth Cymru, fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith, sy'n rhan ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i newid hinsawdd, yn cyflenwi amrywiaeth o adeiladau ym Mae Caerdydd, gan gynnwys y Senedd, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Caerdydd a'r Fro, Hyb Butetown, fflatiau Harbwr Scott ac amrywiaeth o adeiladau eraill y Cyngor.

Men standing next to a pipeAI-generated content may be incorrect.

Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath, ac Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, ar ymweliad diweddar â'r Rhwydwaith Gwresogi. Llun gan: Cyngor Caerdydd

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Bydd lansio'r rhwydwaith gwresogi am y tro cyntaf yn garreg filltir arwyddocaol ar y ffordd i gyflawni ein huchelgeisiau carbon niwtral. Mae'n brosiect seilwaith gwyrdd mawr, y cyntaf o'i fath ar y raddfa hon yn unrhyw le yng Nghymru, a bydd yn dileu'r angen i adeiladau cysylltiedig gael boeleri nwy yn syth, gan leihau eu hallyriadau carbon hyd at 80%. Dros gyfnod o flwyddyn, bydd hynny'n arbed dros 10,000 tunnell o allyriadau carbon unwaith y bydd wedi'i gwblhau - sef faint o garbon a gynhyrchir o wresogi 3,700 o gartrefi yn fras."

Mae adeiladu'r rhwydwaith o bibellau a'r ganolfan ynni newydd sy'n ofynnol ar gyfer y system wedi cymryd tua phedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyflogodd prif gontractwyr y Cyngor, Hemiko, rwydwaith o isgontractwyr lleol, gan roi cyfleoedd cyflogaeth a welodd tua 30 o bobl leol yn gweithio ar y safle, ar gyfer pob diwrnod o'r cyfnod adeiladu.

A group of people in orange vests standing in front of a craneDescription automatically generated

Roedd gosod 'pont bibell' newydd yn un o gamau olaf y gwaith adeiladu. Llun gan: Cyngor Caerdydd

Dywedodd Ken Hunnisett, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer menter Rheoli Buddsoddiadau Rhwydweithiau Gwresogi Triple Point, sy'n rheoli ac yn gweinyddu rhaglen ariannu rhwydwaith gwresogi Llywodraeth y DU: "Mae'n wych gweld manteision arian y Prosiect Buddsoddi Rhwydweithiau Gwresogi yn cael eu gwireddu, ar ôl cael ei ddyfarnu i'r cynllun hwn am y tro cyntaf yn 2020. Wrth i'r prosiect agosáu at ei gwblhau, bydd cyflenwi gwres am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni yn garreg filltir bwysig yn nhaith drawsnewid Cymru i ynni cynaliadwy. Edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y rhwydwaith hwn yn ei chael ar Gaerdydd, gan gyflawni system wresogi carbon isel, cost-effeithiol am flynyddoedd i ddod."

 

Sut bydd Rhwydwaith Gwresogi Caerdydd yn gweithio?

Bydd Rhwydwaith Gwresogi Caerdydd yn defnyddio stêm dros ben, sydd eisoes wedi'i gynhyrchu yn y broses o losgi gwastraff na ellir ei ailgylchu yng nghyfleuster adfer ynni Viridor, i gyflenwi dŵr poeth a gwres cynaliadwy.

 

A circular diagram of buildings and wordsAI-generated content may be incorrect.

 

Mae'r llosgwr yn llosgi gwastraff na ellir ei ailgylchu i gynhyrchu stêm. Mae'r stêm pwysedd uchel sydd wedi'i gynhyrchu yn pweru tyrbinau sy'n cynhyrchu 250GWh (gigawat yr awr) o drydan. Mae'r gwres o'r stêm hwn yn cael ei golli ar hyn o bryd. Bydd Cyfnewidydd Gwres a Chanolfan Ynni newydd yn dal y gwres o'r stêm hwn ar ôl y broses gynhyrchu trydan, a bydd yn ei gludo i adeiladau cysylltiedig trwy rwydwaith o bibellau sydd wedi'u hinswleiddio'n drylwyr, lle bydd yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi gwres a dŵr poeth. 

 

Ble mae'r rhwydwaith?

Mae'r rhwydwaith presennol o bibellau yn mynd o ganolfan ynni newydd yn agos at ganolfan adfer ynni Viridor, ac ar hyd Heol Hemingway lle mae'n rhannu'n ddau, gydag un gangen yn mynd i'r de tuag at Ganolfan Mileniwm Cymru a'r Senedd ac ail gangen yn mynd trwy Butetown ac i fyny i Sgwâr Callaghan.

 

Sut gall hyn fod yn garbon isel pan mae'n dibynnu ar losgi gwastraff na ellir ei ailgylchu?

Nid yw'r rhwydwaith gwresogi ei hun yn creu unrhyw allyriadau carbon, ac mae'n golygu nad oes angen i adeiladau cysylltiedig ddefnyddio boeleri traddodiadol sy'n dibynnu ar danwydd ffosil.

Er bod allyriadau carbon yn cael eu rhyddhau pan fydd gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei losgi yn y Ffatri Troi Gwastraff yn Ynni, nid yw hyn yr un peth â llosgi nwy neu lo fel ffynhonnell ynni yn unig. Yr unig ddewis arall ar hyn o bryd yw anfon gwastraff na ellir ei ailgylchu i safleoedd tirlenwi. Mae hyn hefyd yn creu allyriadau carbon, yn ogystal ag achosi materion amgylcheddol hirdymor eraill.

Mae effaith carbon llosgi gwastraff yng Nghaerdydd eisoes wedi'i lliniaru i ryw raddau trwy ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan, a all ddisodli trydan a gynhyrchir trwy losgi tanwydd ffosil ar gyfer ynni yn unig.

Mae Rhwydwaith Gwresogi Caerdydd yn cymryd gwres sydd eisoes yn bodoli fel sgil-gynnyrch y broses hon, y byddai'n cael ei golli i'r atmosffer heb y Rhwydwaith Gwresogi, ac yn ei harneisio i greu arbedion carbon pellach.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cyn iddo gyflenwi gwres i gwsmeriaid am y tro cyntaf, mae angen profi'r system yn llawn. Yn amodol ar brofion a gwaith comisiynu boddhaol, bydd cwsmeriaid yn cael eu hychwanegu at y rhwydwaith fesul cam, gyda disgwyl i'r gwres gael ei gyflenwi am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Mae trafodaethau yn parhau gyda rhagor o ddarpar gwsmeriaid sy'n agos at y rhwydwaith gyda'r bwriad o ychwanegu rhagor o gysylltiadau.

Mae opsiynau ariannu hefyd yn cael eu harchwilio ar gyfer 'cam 2' posibl i'r rhwydwaith, a allai ei weld yn ehangu ymhellach i ganol y ddinas.