7.4.25
Mae prosiect cadwraeth newydd sydd â'r nod o ddiogelu ac adfer coetir yng Ngogledd Caerdydd a ddifrodwyd gan lwybrau anawdurdodedig wedi sicrhau £346,000 o gyllid.
Dan arweiniad Cyngor Caerdydd ac wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r prosiect ‘Llwybrau i Wytnwch' yn cwmpasu Ardal Cadwraeth Arbennig Coed Ffawydd Caerdydd gan gynnwys Coedwig y Garth, Fforest Ganol a Fforest Fawr, yn ogystal â choetiroedd cyfagos a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cwm Nofydd a'r Wenallt.
Coetir Ffawydd yng Nghoed y Wenallt Credyd: Cyngor Caerdydd
Bydd Cyngor Caerdydd yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Grŵp Breedon, yn ogystal â grwpiau cymunedol lleol, i wella mynediad i gerddwyr, beicwyr a marchogion drwy greu rhwydwaith craidd o lwybrau a lleihau nifer y llwybrau yn gyffredinol.
Bydd cynefinoedd coetir pwysig hefyd yn cael eu gwella a'u hadfer trwy adfywio ardaloedd a oedd gynt yn llwybrau yn naturiol, cael gwared ar rywogaethau ymledol a phlannu planhigion brodorol. Bydd gwaith ymgysylltu â'r gymuned leol hefyd yn digwydd i atal creu llwybrau anawdurdodedig eraill.
Erydiad wedi'i achosi gan lwybr anawdurdodedig yng nghoetir yng ngogledd Caerdydd. Llun: Cyngor Caerdydd
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Mae'r awydd i fynd mas yn yr awyr agored ac archwilio coetiroedd Caerdydd yn ddealladwy - mae cael cymaint o natur ar stepen ein drws yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn arbennig - ond maen nhw'n amgylcheddau bregus ac mae cloddio llwybrau anawdurdodedig yn yr ardaloedd hyn yn gwneud difrod sylweddol.
"Gan weithio gyda'r gymuned, nod y prosiect Llwybrau i Wytnwch yw annog pobl i ddefnyddio'r ardaloedd hyn mewn modd cyfrifol, gwella ac adfer y coetiroedd a tharo cydbwysedd iach rhwng hygyrchedd a gwarchod y fflora a'r ffawna y mae'r coedwigoedd yn gartref iddynt."
Bydd y cyllid dwy flynedd, o gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, hefyd yn cyfrannu at sefydlu rhaglen hyfforddi gwirfoddolwyr a diwrnodau gwaith cymunedol i ddatblygu sgiliau gan gynnwys cynnal a chadw llwybrau, adnabod rhywogaethau a monitro cynefinoedd.