12.2.25
Mae plant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghaerdydd yn elwa o gynllun newydd sy'n darparu beics wedi'u hailgylchu am ddim.
Mae'r cynllun Beics i Blant yn rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned y Cyngor i newid hinsawdd a'i nod yw galluogi mwy o blant i deithio'n llesol i ac o'r ysgol trwy oresgyn y rhwystr o'r gost o brynu beic.
Nid oes angen y beics a roddir i'r cynllun ar y perchnogion mwyach, ond yn hytrach na mynd i wastraff maen nhw'n cael eu hadnewyddu gyda darnau wedi'u hailgylchu, yn barod i'w defnyddio eto.
Ers ei lansio ym mis Medi 2024, mae 72 o ddisgyblion wedi derbyn beic drwy'r cynllun. Mae pob disgybl hefyd yn cael helmed, clo beic, pwmp, hyfforddiant cynnal a chadw beics sylfaenol, a hyfforddiant beicio.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Ar ôl iddyn nhw dderbyn beic, mae beicio'n ffordd rad, iach a hawdd i blant gyrraedd yr ysgol, ond i rai teuluoedd mae'r gost gychwynnol yn rhwystr.
"Mae annog mwy o bobl i ddewis teithio llesol yn ganolog i'n huchelgeisiau carbon niwtral a gobeithio y bydd yr arfer o feicio y mae plant yn ei ddysgu'n gynnar mewn bywyd yn cario 'mlaen i oedolaeth. Ond mae manteision y cynllun hwn yn mynd hyd yn oed ymhellach i rai disgyblion, gan arwain at bresenoldeb ysgol cymeradwy a sgiliau cymdeithasu gwell."
Dau feic, wedi'u darparu i blant drwy'r cynllun.
Dywedodd un rhiant y mae ei ddau blentyn wedi derbyn beiciau drwy'r cynllun: "Mae'r cynllun 'ma'n wych. Mae'r beics o ansawdd uchel ac mae'r helmedau a'r cloeon yn fonws ychwanegol. Mae fy mhlant mor ddiolchgar o gael eu dewis i fod yn rhan o'r cynllun 'ma, ac mae'r ddau wrth eu bodd â'u beics."
Dywedodd rhiant arall i ddisgybl blwyddyn chwech: "Mae cael beic i fy merch wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae hi wedi bod yn beicio i'r ysgol bob dydd ac yn mynd â'i brawd gyda hi ar y sgwter - does dim rhaid i fi yrru. Y llynedd roedd hi'n colli llawer o ysgol achos pan nad o'n i'n ddigon iach i'w gyrru i'r ysgol, doedd hi jyst ddim yn gallu mynd."
Dywedodd rhiant blwyddyn chwech arall fod cael beic i'w mab wedi "newid ei fywyd", a dywedodd un arall eu bod wrth eu bodd â'r beic: "Mae'n gwbl wych. Gall deithio i'r ysgol ei hun yn hytrach na chael ei yrru. Mae e hyd yn oed wedi dechrau mynd allan i gwrdd â ffrindiau ar ei feic, yn hytrach nag aros yn ei ystafell."
Sut mae'r cynllun yn gweithio: