Diolch i’r llu o wirfoddolwyr parod, mae 20,000 o goed newydd wedi cael eu plannu yng Nghaerdydd ers yr hydref diwethaf fel rhan o raglen eang iawn i blannu coed gyda'r nod o gefnogi bioamrywiaeth a chynyddu canopi coed y ddinas o 18.9% i 25%
Ers y cadarnhad y byddai'r DU yn cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023, mae Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality wedi bod yn gweithio ar gyflymder i sefydlu dichonoldeb cais i gynnal y digwyddiad ym mhrifddinas Cymru.
Mae 10 o bobl ifanc o bob cwr o Gaerdydd wedi cael gwahoddiad i Ganolfan Microsoft yn Llundain.
Mae pobl ifanc sy'n defnyddio Gwasanaeth Ieuenctid Gogledd Trelái a darpariaeth Gwasanaethau Ieuenctid ehangach Caerdydd, wedi cychwyn ar eu cyfnewid ieuenctid gyda Chanolfan Ieuenctid Stamheim yn Stuttgart am 41fed tro.
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: Uwchradd Willows yw'r ysgol uwchradd gyntaf yng Nghaerdydd i dderbyn dyfarniad pwysig UNICEF UK; arolygiad yn cymeradwyo Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd; a grantiau ar gael nawr i fyfyrwyr sydd...
Mae Ysgol Uwchradd Willows wedi derbyn Dyfarniad Arian Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (DYPH) gan Bwyllgor UNICEF yn y DU, am ei hymrwymiad at hyrwyddo a gwireddu hawliau plant ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau pobl eraill yn yr ysgol.
Mae adroddiad swyddogol newydd ar safonau yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd wedi nodi gwelliannau sylweddol mewn sawl maes.
Dyfarniad ‘arbennig o gadarnhaol' i ysgol gynradd Gymraeg; Gwnaeth ysgol gynradd yng Nghaerdydd 'gynnydd trawiadol', medd Estyn; Caerdydd i elwa o fentrau Strydoedd Diogelach newydd gwerth £750k; Anrhydeddu'r Cyngor am ymrwymiad i bersonél y Lluoedd...
Croeso i'n newyddion diweddaraf, yn cynnwys: Caerdydd i elwa o fentrau Strydoedd Diogelach newydd gwerth £750k; gwnaeth ysgol gynradd yng Nghaerdydd 'gynnydd trawiadol', medd Estyn; a allwch chi wneud addewid i helpu i ddenu gwenyn i Gaerdydd?
Mae arolygwyr ysgolion wedi canmol ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd fel "cymuned ddysgu lwyddiannus sy'n dathlu Cymreictod, amrywiaeth a chyflawniad y disgyblion yn arbennig o dda."
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Bryn Celyn ym Mhentwyn wedi eu canmol gan Estyn, yr arolygwyr addysg yng Nghymru, am wneud cynnydd trawiadol yn eu dysgu eleni - er gwaetha'r pandemig.
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd wedi cael £750,000 gan y Swyddfa Gartref i ddarparu cyfres o fentrau sydd â’r nod pennaf o gadw menywod yn ddiogel yng nghanol y ddinas ac mewn rhai ardaloedd preswyl yn Cathays.
Diweddariad: mwy o Faneri Gwyrdd yng Nghaerdydd nag unrhyw le arall yng Nghymru; anrhydeddu'r cyngor am ymrwymiad i lluoedd arfog; ymgynghoriad ar y gwaith ar Ysgol Willows; plant a phobl ifanc yn rhannu eu barn ar sut mae'r cyfryngau yn eu gweld nhw.
Mae Cyngor Caerdydd wedi'i anrhydeddu â gwobr aur fawreddog Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS) am ei gefnogaeth i'r Lluoedd Arfog.
Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cyhoeddi bod 16 o Faneri Gwyrdd wedi'u dyfarnu i barciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd.
Cafodd dros 20 o goed ceirios, sy'n ffurfio rhan o rodfa newydd ei phlannu ym Mharc y Mynydd Bychan eu fandaleiddio y penwythnos hwn.