Back
Mae’n bryd dechrau coginio!

 


 18/1/22
 

Mae tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Bwyd Caerdydd, unwaith eto yn chwilio am 50 o aelwydydd i gymryd rhan mewn her goginio hwyliog ac iach.

 

Bydd yr her yn dechrau yn gynnar ym mis Chwefror, ac yn dilyn dau brosiect coginio iach llwyddiannus a gynhaliwyd y llynedd. Bydd y cyfranogwyr yn cael y dasg o greu wythnos o fwyd blasus i'r teulu drwy ddilyn ryseitiau hawdd a rhesymol eu cost a ddatblygwyd gan dîm Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Unwaith eto, bydd yr hanner cant o aelwydydd sy'n cymryd rhan yn yr her, gyda chefnogaeth Cronfa Mynd i'r Afael â Thlodi Bwyd a Mynd i'r Afael ag Ansicrwydd Bwyd Llywodraeth Cymru, yn cael y cyfan sydd ei angen arnynt - gan gynnwys cynhwysion, offer sylfaenol a chyfarwyddiadau cam wrth gam - i gynhyrchu pum pryd iach y gall y teulu i gyd eu mwynhau.

 

Bwyd Caerdydd yw partneriaeth bwyd y ddinas sy'n cydnabod yr effaith enfawr y mae bwyd yn ei chael ar fywyd yng Nghaerdydd — nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, a'r amgylchedd hefyd.   Mae'r mudiad yn hyrwyddo bwyd sy'n dda i bobl, yn dda i'r lle rydyn ni'n byw, ac yn dda i'n planed yn ogystal â bod yn fforddiadwy ac yn flasus. 

 

Gall aelwydydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr her ddarganfod mwy a gwneud cais trwy e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk neu ffonio 029 2087 1071.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae'r Flwyddyn Newydd yn aml yn adeg pan fo pobl yn meddwl am fod yn fwy iach felly mae'n gyfle perffaith i ni lansio her goginio iach arall.

 

"Rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol iawn o heriau blaenorol - mae aelwydydd wrth eu bodd yn cymryd rhan - o'r cyffro o dderbyn eu nwyddau a'u hoffer, i fwynhau gwneud pryd o fwyd gyda'i gilydd a bwyta eu prydau blasus wrth gwrs.

 

"Os yw hynny'n teimlo fel rhywbeth yr hoffai eich teulu neu'ch aelwyd fod yn rhan ohono, yna cysylltwch â ni i gael gwybod mwy."

 

Dywedodd y teulu Harnu, a gymerodd ran yn yr her cyn y Nadolig: "Diolch, Gyngor Caerdydd am y fenter. Cawson ni lawer o hwyl yn coginio fel teulu."

 

Dywedodd un arall fu'n rhan o'r her, Natalie: "Diolch am adael i ni gymryd rhan yn yr her bwyta'n iach. Gwnaeth fy merch a fi fwynhau coginio gyda'n gilydd yn dilyn y ryseitiau a ddarparwyd. Cafodd yr holl gynhwysion ac offer eu gwerthfawrogi'n fawr ac roedden nhw'n ddefnyddiol iawn."

 

Ychwanegodd Pearl Costello, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd: "Mae Bwyd Caerdydd yn falch iawn o fod yn rhan o fenter bwyta'n iach mor wych, gan annog aelwydydd ledled y ddinas i goginio amrywiaeth o brydau blasus, iach a chynaliadwy. 

 

"Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn - ac mae menter fel hon yn dangos hyn yn ymarferol.  Bydd y bobl sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn dysgu sgiliau coginio newydd, sut i baratoi prydau iach, maethol a chost-effeithiol - yn ogystal â chael llawer o hwyl ar hyd y ffordd. Rwy'n edrych ‘mlaen yn fawr at weld sut mae'r 50 aelwyd yn ymateb i'r her a'r prydau maen nhw wedi'u creu."

 

Wedi i'r 50 aelwyd ymrwymo i'r her a derbyn y cynhwysion a'r offer, bydd gan deuluoedd tan 24 Chwefror i anfon lluniau o'u campweithiau coginio i hybcynghori@caerdydd.gov.uk Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar sail cyflwyniad a pha mor flasus y mae'r prydau bwyd yn edrych.

 

Mae tîm Cyngor Ariannol Caerdydd yn rhoi cymorth a chyngor i drigolion sydd â phryderon ariannol.  Mae'r tîm yn arbenigwyr ar ddarparu cymorth ar gyllidebu, cynyddu incwm, budd-daliadau, grantiau a gostyngiadau, cyngor ar ddyledion a mwy. 

 

Dysgwch fwy am Dîm Cyngor Ariannol Caerdydd trwy fynd i www.cyngorariannolcaerdydd.co.uk neu ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwch hybcynghori@caerdydd.gov.uk