Back
Cynllun pum mlynedd i gefnogi pobl hŷn yng Nghaerdydd


26/1/2022

Bydd adroddiad sy'n amlinellu sut y bydd pobl hŷn yng Nghaerdydd yn cael eu cefnogi dros y pum mlynedd nesaf yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf (Dydd Iau 20, 2022).

Mae'r Strategaeth Heneiddio'n Dda yn nodi cyfres o gynigion sy'n canolbwyntio ar sut y gall gwasanaethau mewnol y Cyngor weithio'n agos i ddiwallu anghenion pobl hŷn, tra'n cefnogi gwaith darparwyr annibynnol a thrydydd sector a'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  Mae chwe nod allweddol i'r strategaeth:

  • Cefnogi pobl hŷn i gadw'n heini a chysylltu mewn dinas sy'n dda i bobl hŷn
  • Cefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol gartref drwy wasanaethau ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau
  • Gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel
  • Cefnogi gofalwyr anffurfiol a gwerthfawrogi eu rôl
  • Sicrhau bod ein gwasanaethau'n diwallu anghenion y rhai mwyaf agored i niwed
  • Moderneiddio ein Gwasanaethau'n Rhagweithiol

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae poblogaeth Caerdydd yn heneiddio, ac er ei bod yn gadarnhaol bod llawer o'n dinasyddion yn byw'n hirach, yn anffodus efallai bod rhai pobl hŷn yn byw gydag iechyd gwael a byw gyda chlefyd sy'n gysylltiedig â heneiddio fel dementia.

"Ar adeg pan fo'r sector gofal eisoes dan bwysau difrifol ac mae cadw a recriwtio'r gweithlu yn broblemau go iawn, ni fu erioed amser pwysicach i ystyried ein hymagwedd at wasanaethau a sut y gallwn gefnogi ein dinasyddion hŷn a'r sector gofal yn fwy effeithiol."

Ystadegau Pwysig:

Rhagwelir erbyn 2031 y bydd nifer y bobl:

  • 65+ oed yn cynyddu 17.8%
  • 85+ oed yn cynyddu 9.2%
  • 90+ oed yn cynyddu 5.9%
  • Bydd nifer y bobl sy'n cael trafferth gyda gweithgareddau bywyd bob dydd yn cynyddu 17% erbyn 2030, bydd hyn yn berthnasol i 1 o bob 4 person hŷn (dros 65 oed).
  • Bydd nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yn cynyddu 30.1% erbyn 2030 a 41.1% ar gyfer dementia difrifol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Elsmore: "Gyda gweledigaeth oGefnogi pobl hŷn i fyw'n dda yn eu cartrefi a'u cymunedau, mae'r Strategaeth Heneiddio'n Dda yn nodi ein hymrwymiad i gydweithio â'n partneriaid i gefnogi pobl hŷn i aros yn iach a byw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain gyhyd ag y bo modd a, phan fo angen gofal, i sicrhau bod hwn yn cael ei ddarparu i safon uchel iawn.

"Mae ynysigrwydd cymdeithasol yn broblem gynyddol i bobl hŷn a gofalwyr, roedd hyn wedi'i waethygu gan y pandemig. Rydym eisoes wedi gwneud cais gyda'n partneriaid i gael ein cydnabod fel Sefydliad Iechyd y Byd, Dinas sy'n Gyfeillgar i Oedran, gan sicrhau bod ein dinas mor hygyrch â phosibl i'n dinasyddion hŷn.

"Rhan allweddol o'r strategaeth newydd hon yw ymrwymiad i sicrhau bod hyd yn oed y rhai mwyaf agored i niwed ymhlith ein dinasyddion hŷn yn gallu cadw'n heini ac yn gysylltiedig â'u cymuned, drwy ein rhwydwaith o ganolfannau cymunedol, ein canolfannau dydd i bobl hŷn a thrwy gefnogi amrywiaeth o weithgarwch cymunedol a gwirfoddol.

"Mae ffocws allweddol aratal yn y strategaeth Heneiddio'n Dda a thrwyddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg iawn, gellir cynorthwyo pobl hŷn i aros yn annibynnol gartref a gellir atal arosiadau hir yn yr ysbyty.  Rydym yn bwriadu cryfhau ein gwasanaethau ymhellach i gefnogi canlyniadau gwell i bobl hŷn."

Mae Caerdydd, fel gweddill y DU ar hyn o bryd yn wynebu galw digynsail am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn ddiweddar cyhoeddodd y ddinas ddatganiad am yrargyfwng gofal presennolDatganiad gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ac Cymru (cardiffnewsroom.co.uk). Mae'r strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi a gweithio gyda'r gweithlu Gofal Cymdeithasol er mwyn darparu gofal o ansawdd da.  Bydd Academi Gofal Caerdydd, a ddatblygwyd yn ddiweddar gan Wasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor, yn cael ei datblygu ymhellach i sicrhau bod hyfforddiant, mentora a chymorth i gyflogwyr ar gael ar draws y sector.

Ychwanegodd y Cynghorydd Elsmore: "Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y rôl hanfodol y mae gweithwyr gofal yn ei chwarae wrth gefnogi dinasyddion sy'n agored i niwed a bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ein helpu i symud tuag at y cyflog byw go iawn i weithwyr gofalwyr yng Nghaerdydd. 

"Bydd hyn, ynghyd â'r cymorth y gallwn ei gynnig o ran hyfforddiant a recriwtio, yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hirsefydlog o ran cyflogaeth yn y sector gofal."

Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar ddatblygiad Canolfan Llesiant Byw'n Annibynnol a fyddai'n golygu datblygu un cyfleuster i weithredu fel canolfan byw'n annibynnol, yn cynnwys warws a chanolfan ddosbarthu ar gyfer offer ac yn cynnwys tŷ clyfar newydd ar gyfer hyfforddi staff a'r sector ehangach ar yr ystod o dechnoleg ac offer sydd ar gael i gefnogi byw'n annibynnol.