20.1.22
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynllun pum mlynedd i ail-ddychmygu ac ail-fywiogi canol dinas Caerdydd mewn byd wedi'r pandemig.
Bydd y cynllun, sydd wedi'i gynllunio i ddod â grwpiau partner a rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o'r ddinas er mwyn helpu i wireddu'r weledigaeth, yn canolbwyntio ar naw thema allweddol:
Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, "Cafodd pandemig Covid-19 effaith eithriadol ar ganol dinasoedd ledled y Deyrnas Gyfunol ac yn wir y byd. Newidiodd y ffyrdd rydym yn byw ein bywydau ac yn cynnal ein busnes. Mae'r newid i weithio gartref a'r cyflymu fu a'r defnydd sydd i brynu ar-lein wedi taro'r sector manwerthu yng nghanol dinasoedd. Mewn sawl ffordd mae wedi ein gorfodi i ystyried y tueddiadau tymor hwy hynny, a oedd eisoes yn dod tuag atom, ond sydd bellach wedi'u cyflymu oherwydd y pandemig.
"Fodd bynnag, ni chredwn fod y tueddiadau hyn yn canu cnul canol dinasoedd, teimlwn eu bod yn cynnig cyfleoedd cyffrous i esblygu. Mae canol dinas Caerdydd yn cynnal 70,000 o swyddi ac mae'n hanfodol i'r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol. Dyma rai o'r rhesymau pam yr ydym yn cychwyn ar daith i edrych ar ffyrdd y gallwn adfywio canol dinas Caerdydd mewn byd wedi'r pandemig. Rydym am gael canol dinas sy'n parhau i fod yn ddiogel, yn lân, yn wyrdd, yn ddeniadol ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda, ond yr ydym hefyd am iddo fod yn fwy gwyrdd a hyd yn oed yn fwy croesawgar. Canol dinas sy'n cynnig profiadau gwych i ymwelwyr, a phobl sy'n byw yma, mewn lleoliadau o ansawdd uchel a chanol dinas sy'n creu cyfleoedd gwaith newydd.
"Wrth gwrs, mae Caerdydd eisoes wedi bod ar broses o newid llwyddiannus dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae canol ein dinas wedi gweld gwelliannau trawsnewidiol o ddatblygiadau hamdden, manwerthu a busnes mawr - fel Stadiwm Principality i Ganolfan Dewi Sant ac adfywio'r Sgwâr Canolog, hyd at fwy o gerddwyr yn cerdded ei strydoedd gan wneud y ddinas yn fwy cynhwysol a hygyrch. Ond wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig mae'n hanfodol ein bod yn ystyried y camau y mae angen i ni eu cymryd i gyflymu adferiad. Ein nod nawr yw adeiladu ar gyflawniadau presennol y ddinas, creu cyrchfan fywiog, rhan o brifddinas wych sy'n gweithio i bob preswylydd, busnes ac ymwelydd."
Mae'r cynllun gweithredu yn amlinellu'r mentrau a'r rhaglenni allweddol y bydd y Cyngor a phartneriaid yn gweithio tuag atynt dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod gan Gaerdydd ganol dinas fywiog. Fe'i lluniwyd yn dilyn cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus ar adroddiad Gwyrddach Tecach Cryfach y Cyngor a gyhoeddwyd y llynedd. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma Adeiladu Caerdydd Wyrddach, Tecach a Chryfach mewn byd ôl-COVID (cardiffnewsroom.co.uk)
Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu rhwng mis Mehefin a mis Hydref, gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau ystyriol o blant i gasglu barn pobl ifanc ochr yn ochr â thrigolion, busnesau, y sector diwylliannol a rhanddeiliaid eraill. Cynhyrchodd arolwg hefyd dros fil o ymatebion a ddefnyddiwyd i helpu i baratoi'r cynllun pum mlynedd.
Chwaraeodd yr arbenigwr byd-eang ar ddinasoedd, Dr Tim Williams, ran allweddol wrth helpu i lunio'r adroddiad er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad. Mae Dr Williams, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yma ac yn rhyngwladol yn datblygu polisïau rheoli trefi a dinasoedd ar gyfer dinasoedd mawr fel Llundain a Sydney, yn dweud bod Caerdydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a fydd yn codi yn y byd ôl-Covid.
Wrth ysgrifennu yn ôl ym mis Mehefin, yn yr adroddiad ‘Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19', dwedodd Dr Williams: "Ar ddechrau'r argyfwng byd-eang hwn, roedd Caerdydd mewn sefyllfa dda a, chyda'r ysbryd, y strategaeth, y cydweithrediadau a'r arloesedd cywir, gall ddod yn ôl yn gryfach fyth. Wrth wneud hynny, gall ddarparu hyd yn oed mwy o fuddion i'w chymuned ei hun a'r Ddinas-ranbarth. Gall Caerdydd ffynnu ar ôl Covid, gan gynnig gwell safon bywyd i'w thrigolion ynghyd â rhaglen economaidd ar gyfer adferiad 'gwyrdd' sy'n seiliedig ar dechnoleg.
"Mae cyfle i Gaerdydd, wedi'i symbylu gan Covid-19, ddangos esiampl i ddinasoedd eraill o'r un maint. Gan adeiladu ar ei chryfderau sefydledig a pharhaus, yr uchelgais sydd ganddi i lwyddo, sgiliau a dychymyg ei phobl a'r arweinyddiaeth y mae eisoes wedi'i dangos, bydd Caerdydd nid yn unig yn ‘bownsio'n ôl' - does dim amheuaeth o hynny - bydd yn ‘bownsio ymlaen'."
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Yn y dyfodol bydd gan y dinasoedd mwyaf llwyddiannus ganol dinasoedd gwych. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu mentrau a rhaglenni allweddol y bydd y Cyngor a phartneriaid yn gweithio tuag atynt dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod gan Gaerdydd Ganol y Ddinas sy'n wych. Mae gan Gaerdydd draddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau preifat, gwirfoddol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a bydd angen i'r mentrau/rhaglenni barhau i gael cyfranogiad gweithredol gan holl ddefnyddwyr canol y ddinas er mwyn cyrraedd y safonau uchaf mewn dylunio, datblygu, rheoli, cynnal a chadw a marchnata cynaliadwy. Gobeithiwn y bydd y cynllun hwn yn gwneud canol dinas gwych a bywiog hyd yn oed yn fwy felly."
Gallwch ddarllen cynllun pum mlynedd y cyngor 'Creu Canol Prifddinas Gwych yma Issue - items at meetings - City Centre Recovery Vision (Response to City Recovery and Renewal Strategy, Mission 1: Reimagine the city centre) : Cyngor Dinas Caerdydd (moderngov.co.uk)
Sut bydd y cyngor a'i bartneriaid yn gweithio i ddarparu canol dinas sydd wedi'i guradu sydd yn ddiogel yn lân ac yn wyrdd
1. Sefydlu adnoddau curadu/rheoli effeithiol. Cymryd rôl fwy uniongyrchol wrth reoli a chydlynu dyfodol canol y ddinas i adlewyrchu anghenion trigolion, gweithwyr, busnesau ac ymwelwyr.
2. Sefydlu partneriaethau effeithiol gyda'r Ardal Gwella Busnes a phartneriaid allweddol gan gynnwys preswylwyr.
3. Gwneud canol y ddinas yn lân, yn ddiogel, yn wyrdd ac wedi ei gynnal a'i gadw'n dda yn flaenoriaeth graidd.
4. Datblygu cynllun a gweledigaeth pum mlynedd glir ar gyfer canol y ddinas i gydgysylltu: Mannau cyhoeddus agored a gwyrdd, Digwyddiadau, marchnadoedd ac animeiddio stryd mewn rhaglen gydol y flwyddyn, marchnata a brandio Canol y Ddinas, pob cyfundrefn drwyddedu.
5. Creu rhaglen ariannu integredig i ganol y ddinas er mwyn efnogi'r camau gweithredu allweddol yn y cynllun hwn. 6. Gweithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol er mwyn gwneud i ganol y ddinas deimlo'n fwy diogel i deuluoedd, menywod ac ymwelwyr.
7. Sefydlu safonau dylunio o ansawdd uchel ar gyfer blaen siopau, mannau cyhoeddus, dodrefn stryd a phob agwedd ar yr amgylchedd.
Sut y bydd y cyngor a phartneriaid yn gweithio i ddarparu canolfan fusnes a chyflogaeth ddeinamig
1. Creu canolfan ddinesig i fusnes sy'n gyrchfan o'r radd flaenaf, gyda detholiad o ofod swyddfa a chydweithio o ansawdd uchel, cynaliadwy, arloesol a hyblyg sy'n denu ac yn tyfu busnesau sy'n seiliedig ar wybodaeth.
2. Datblygu cynigion ar gyfer defnydd yn y cyfamser a mannau deori, gan gynnig dull deinamig o sicrhau bod unedau, mannau manwerthu a swyddfeydd gweigion yn cael eu defnyddio'n gynhyrchiol.
3. Cefnogi'r gwaith o ddatblygu gofod mwy hyblyg a chost isel i helpu busnesau cynhenid ac annibynnol i dyfu a dod yn fwy cynhyrchiol.
4. Datblygu rhaglen seilwaith ddigidol 'dinas glyfar'.
5. Datblygu strategaeth digwyddiadau busnes sy'n arddangos pa mor gystadleuol yw'r ddinas a sefydlu rhaglen o weithgareddau.
6. Ceisio ehangu dynodiad canol y ddinas i gael ei integreiddio'n well â Bae Caerdydd a lleoliadau allweddol fel Stryd Tudor, Stryd James a Heol Casnewydd.
7. Datblygu cynigion ar gyfer a chwblhau datblygiadau mawr yn y 'Dosbarth Busnes Canolog' (DBC), gan gynnwys yn: Y Sgwâr Canolog, y Cei Canolog, Sgwâr Callaghan, Cwr y Gamlas a Bae Caerdydd.
Sut fydd y cyngor a phartneriaid yn gweithio i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth o'r radd flaenaf
1. Gweithio gyda phartneriaid i gwblhau Cyfnewidfa Drafnidiaeth y Sgwâr Canolog ac uwchraddio gorsafoedd rheilffordd Caerdydd Canolog (Metro Canolog), Heol y Frenhines a Cathays, gan ddarparu mynedfeydd 'porth' hygyrch o ansawdd uchel i ganol y ddinas.
2. Cyflawni cynlluniau ar gyfer cyswllt tram Metro newydd rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd, gan gynnwys darparu cyfleusterau gorsaf newydd yng Nghaerdydd Canolog a Stryd Pen y Lanfa, fel cam cyntaf datblygiad Cledrau Croesi Caerdydd. Yna bydd Cam 2 yn parhau i Heol Casnewydd a Basn y Rhath.
3. Creu craidd I gerddwyr a theithio llesol ‘aer glân' mwy ei faint I ganol y ddinas I'w ddatblygu law yn llaw â'r gyfnewidfa drafnidiaeth1weith.
4. Cysylltu canol y ddinas â rhwydweithiau beicio ar wahan a rhwydweithiau bws sydd o ansawdd uchel. Datblygu ‘canolfannau bws'1weith mewn lleoliadau allweddol yn Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd Churchill a Stryd Pen y Lanfa.
5. Integreiddio1weithio1h1u ymwelwyr a1weithio1h o ansawdd uchel I dwristiaid i'r cyfleusterau trafnidiaeth1weith, gan gynnwys y Gyfnewidfa Drafnidiaeth a'r Metro Canolog.
6. Datblygu uwchgynllun tacsi/llwytho/parcio1weith yng nghanol y ddinas.
7. Agor mynediad I Afon Taf a'r defnydd ohoni fel1weithio trafnidiaeth, gan gynnwys datblygu cynigion ar gyfer tair croesfan bont gerdded/beicio1weith yn y Cei Canolog, Yr Arglawdd a Threm y Môr I wella'r integreiddio ag ardaloedd preswyl cyfagos.
8. Gwneud Caerdydd yn esiampl ar gyfer trafnidiaeth ddi-garbon gan gynnwys gwefru cerbydau trydan (CT) a thrafnidiaeth gyhoeddus CT ledled canol y ddinas.
Sut fydd y cyngor a phartneriaid yn1weithio I ddarparu canol dinas â dyluniad trefol ac amgylchfyd cyhoeddus o'r radd flaenaf
1. Paratoi canllaw dylunio strydlun ar gyfer canol y ddinas, gan gyfuno a diweddaru'r canllawiau presennol i sicrhau bod strydoedd, gofodau ac adeiladau newydd a phresennol yn cael eu datblygu i safonau pensaernïaeth, tirlunio a bioamrywiaeth o ansawdd uchel.
2. Datblygu rhaglen o welliannau strydlun i uwchraddio a symleiddio, gan greu strydoedd a mannau sy'n fwy diogel, yn fwy deniadol ac yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr.
3. Annog adeiladau masnachol i uwchraddio blaen adeiladau/siopau ac i godi safonau dylunio, gan ganolbwyntio ar adeiladau hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth (e.e. blaen adeiladau Stryd y Castell). 4. Adfywio Marchnad Caerdydd fel cyrchfan wych sy'n gysylltiedig â rhwydwaith o arcedau hanesyddol.
5. Creu Stryd Fawr i'r Brifddinas gydag amgylchfyd cyhoeddus gwell, gan gynnwys gwyrddu, gwaith celf, cyfeirio tramwyo a mannau amwynder, yn dilyn yr 'asgwrn cefn' canolog hanesyddol o Gastell Caerdydd, drwy'r Stryd Fawr/Heol Eglwys Fair, Sgwâr Callaghan a Rhodfa Lloyd George, gan derfynu ym Mae Caerdydd a'r Dociau.
6. Datblygu cynigion ar gyfer sgwariau nodedig newydd a mannau cyhoeddus yng Nghwr y Gamlas, Sgwâr Callaghan, y Cei Canolog, Cwr y Brifysgol/Diwylliannol, Yr Arglawdd, Sgwâr Mount Stuart, Boulevard de Nantes a Heol y Porth.
Sut fydd y cyngor a phartneriaid yn gweithio i ddarparu canol dinas gwyrdd a bioamrywiol
1. Integreiddio parciau mawr presennol (Parc Bute/Parc Cathays) a mannau gwyrdd yn well gyda chraidd canol y ddinas drwy fesurau tawelu traffig a gwell cysylltedd i gerddwyr, gan gynnwys drwy dir y Castell a'i giât tŵr cloc / gorllewinol.
2. Ceisio cadw tiroedd y Castell ar agor fel man gwyrdd cyhoeddus.
3. Datblygu cynllun asedau gwyrdd a gweithio gyda phartneriaid i wyrddu canol y ddinas yn llawn (gan gyfrannu tuag at Goed Caerdydd) drwy ymyriadau ar raddfa fawr fel gwyrddu strydoedd, mwy o blannu coed a gosod toeau/waliau gwyrdd ar adeiladau newydd/wedi'u hailddatblygu, hyd at waith ar raddfa lai fel cynnwys cynwysyddion planhigion ym mhob caffi stryd.
4. Gweithio gyda phartneriaid a datblygwyr i ddarparu rhwydwaith o fannau gwyrdd cyhoeddus newydd ar draws canol y ddinas, gan gynnwys datblygu parciau newydd mawr yn: Sgwâr Callaghan, Rhodfa Lloyd George ac Arglawdd Afon Taf.
5. Troi ardaloedd o balmentydd llwyd anhydraidd yn wyrdd (a glas) drwy'r ddarpariaeth gynyddol o erddi glaw/systemau draenio trefol cynaliadwy (SDCau) fel rhan o raglen gynhwysfawr o ôl-ffitio ar draws canol y ddinas. Datblygu cynlluniau nodedig newydd fel Grangetown Werddach arobryn yng nghanol y ddinas, Glanyrafon a Cathays.
Sut fydd y cyngor a'i bartneriaid yn gweithio i ddarparu canol dinas 'glas' o afonydd a chamlesi
1. Creu llwybrau teithio llesol twristiaeth/ymwelwyr ar hyd ac o amgylch Bae Caerdydd, afonydd Taf, Rhymni ac Elái, Llynnoedd Caerdydd (Llyn y Rhath a Chronfeydd Dŵr Llanisien/Llys-faen), Camlas Bwydo'r Doc a Llwybr yr Arfordir.
2. Gweithio gyda phartneriaid a datblygwyr i ddarparu rhwydwaith o goridorau glan dŵr cyhoeddus newydd ar draws canol y ddinas, gan gynnwys datblygu parciau dŵr newydd sylweddol yn: Cwr y Gamlas (ar hyd Ffordd Churchill) Rhodfa Lloyd George (gan adfer Camlas Doc Gorllewinol Bute)
3. Creu pontydd afon newydd yn: Trem y Môr, Yr Arglawdd (Heol Dumballs), y Cei Canolog a datblygiad Ely Mill. Darparu pont ffordd aml-fodd newydd yn Llanrhymni (Heol Ball). Adnewyddu Pont y Gored Ddu.
4. Archwilio'r cyfle i greu mannau agored o 'arddull cyfandirol' ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, Trem y Môr a Phont y Gored Ddu.
5. Datblygu cynllun 10 mlynedd ar gyfer afonydd, dŵr a llifogydd ar gyfer canol y ddinas er mwyn helpu i sicrhaugwydnwch rhag perygl llifogydd a hefyd manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd dŵr presennol a newydd ar draws y ddinas.
Sut fydd y cyngor a phartneriaid yn gweithio i ddarparu canol dinas gwych a chynhwysol sy'n le gwych i fyw a chwarae ynddo
1. Ceisio darparu ystod ehangach a dewis o lety I deuluoedd ar draws canol y ddinas/Bae gyda chyfleusterau ategol.
2. Sefydlu partneriaeth ymgysylltu reolaidd gyda phreswylwyr a grwpiau defnyddwyr.
3. Creu canol dinas sy'n ddiogel, glân, croesawgar a deniadol I bobl o bob oed a chefndir.
4. Datblygu strategaeth cydraddoldeb a mynediad I bob oed, gan gefnogi strategaeth Dinas sy'n Dda I Bobl Hŷn y ddinas.
5. Gweithio gyda rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru I gefnogi cynlluniau adfywio canol y ddinas, gwelliannau I wedd flaen strydoedd a gwelliannau I fannau cyhoeddus.
6. Datblygu canol dinas sy'n gwbl addas I blant gan gynnwys darparu cyfleoedd chwarae mewn mannau cyhoeddus1weith.
7. Creu cyrchfannau bwyd gwych, gyda marchnadoedd stryd o ansawdd uchel, bwytai, caffis,1weith a seilwaith ategol.
8. Datblygu amrywiaeth o fannau eistedd tawelach a mannau teulu/chwarae.
Sut fydd y cyngor a phartneriaid yn1weithio I ddarparu canol dinas o ddiwylliant a bywiogrwydd
1. Mabwysiadu strategaeth digwyddiadau 'magwyd yma' a rhaglen bywiogi lleoedd newydd.
2. Datblygu cynigion ar gyfer canolfan greadigol newydd yng nghanol y ddinas i gefnogi cynhyrchu a pherfformio.
3. Datblygu canolfannau celf/diwylliannol newydd yng nghanol y ddinas a'r Bae.
4. Sefydlu gŵyl ddiwylliannol i'r ddinas, gan gwmpasu Gŵyl Gelf Stryd Ryngwladol o safon.
5. Datblygu Stryd Womanby fel cwr cerddoriaeth newydd i ddathlu ei harwyddocâd fel stryd gerddoriaeth fwyaf poblogaidd Caerdydd.
6. Sefydlu rhaglen artist preswyl yng nghanol y ddinas.
7. Datblygu defnydd creadigol i fannau yn y cyfamser, gan fabwysiadu dull deinamig o ail-bwrpasu siopau gwag ar gyfer gweithgarwch artistiaid lle bo hynny'n bosibl er mwyn sicrhau bod mannau gwag yn cael eu defnyddio'n gynhyrchiol.
8. Sefydlu mannau cyhoeddus sy'n gallu cynnig digwyddiadau awyr agored fel rhan o ddatblygiadau newydd.
Sut fydd y cyngor a phartneriaid yn gweithio i ddarparu canol dinas sy'n cynnig profiad o safon i ymwelwyr
1. Sefydlu brand 'Croeso Caerdydd' clir, gan ddod â rhanddeiliaid allweddol fel Caerdydd am Byth ac aelodau Rhwydwaith Croeso Caerdydd at ei gilydd, i sicrhau bod dull cydlynol o farchnata a hyrwyddo drwy frand un lle ar gyfer y ddinas.
2. Archwilio potensial cerdyn ymwelwyr ar gyfer trafnidiaeth ac atyniadau.
3. Hyrwyddo gweithgareddau mynediad am ddim yng nghanol y ddinas megis celf gyhoeddus a llwybrau treftadaeth.
4. Datblygu ymgyrchoedd allweddol er mwyn helpu i godi proffil y ddinas gan gynnwys y Nadolig, dinas y glannau, digwyddiadau mawr a brand Dinas Cerddoriaeth Caerdydd.
5. Hyrwyddo asedau unigryw canol y ddinas gan gynnwys Castell Caerdydd, Marchnad Caerdydd, ei arcedau Fictoraidd a lleoliadau chwaraeon/diwylliannol.
6. Adeiladu ar visitcardiff.com a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig i ehangu cyrhaeddiad digidol.
7. Annog mwy o ddigwyddiadau busnes o bob maint yng nghanol y ddinas i ddenu mwy o ymwelwyr yn ystod yr wythnos a hyrwyddo canol y ddinas fel lleoliad busnes cystadleuol.