Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 25 Ionawr 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2022; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd;ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2022 ar agor nawr.

 

Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2022

I nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2022, bydd recordiad o Goffâd Cymru eleni ar gael i'w wylio ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.

Wedi'i ffilmio yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd, gellir gweld y Coffâd Aml-Ffydd o 11am Ddydd Iau 27 Ionawr, gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:https://youtu.be/SB7W8xZIMiE(yn fyw am 11am ar y 27ain).

Cynhelir y Coffâd gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd, a hynny dan arweiniad y Prif Weinidog Mark Drakeford, a'r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd.

Gall gwylwyr ddilyn y seremoni drwy lawrlwytho rhaglen Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2022 yma:https://app.prmax.co.uk/collateral/188890.pdf 

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod rhyngwladol i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Mae'r diwrnod yn anrhydeddu'r goroeswyr ac yn cofio'r rheiny a fu farw. Fe'i cynhelir ar 27 Ionawr bob blwyddyn, sef dyddiad rhyddhau carchar Auschwitz.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28382.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 25 Ionawr 2022

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:1,057,137(Dos 1: 398,529 Dos 2:  368,960 DOS 3: 7,906 Dosau atgyfnertha: 281,650)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 16 Ionawr 2022

 

  • 80 a throsodd: 19,903 / 94.7% (Dos 1) 19,763 / 94.1% (Dos 2 a 3*) 18,271 / 92.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,914 / 96.6% (Dos 1) 14,793 / 95.8% (Dos 2 a 3*) 13,626 / 92.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,396 / 96% (Dos 1) 21,269 / 95.4% (Dos 2 a 3*) 19,759 / 92.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,012 / 94.6% (Dos 1) 21,773 / 93.6% (Dos 2 a 3*) 20,020 / 91.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,174 / 92.7% (Dos 1) 25,854 / 91.5% (Dos 2 a 3*) 23,516 / 91% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,521 / 90.6% (Dos 1) 29,074 / 89.2% (Dos 2 a 3*) 26,022 / 89.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,260 / 88.4% (Dos 1) 28,666 / 86.6% (Dos 2 a 3*) 25,070 / 87.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,121 / 82.5% (Dos 1)54,471 / 80% (Dos 2 a 3*) 44,154 / 81.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 62,484 / 77.1% (Dos 1) 59,074 / 72.9% (2nd& 3rd*Dose) 40,958 / 69.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 84,292 / 78.6% (Dos 1) 76,270 / 71.2% (Dos 2 a 3*) 43,817 / 57.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,245 / 76.6% (Dos 1) 3,189 / 57.6% (Dos 2 a 3*) 196 / 6.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 16,666 / 59.6% (Dos 1) 4,547 / 16.3% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,790 / 99.3% (Dos 1) 6,095 / 89.2% (Dos 2 a 3*) 24 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,037 / 98.5% (Dos 1) 2,021 / 97.7% (Dos 2 a 3*) 1,855 / 91.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,698 / 99% (Dos 1) 3,642 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 2,870 / 78.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,148 / 98.1% (Dos 1) 26,866 / 97.1% (Dos 2 a 3*) 23,989 / 89.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 9,949 / 81.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,203 / 94.7% (Dos 1) 11,039 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 6,360 / 57.6% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,176 / 90.7% (Dos 1) 44,832 / 88.1% (Dos 2 a 3*) 37,559 / 83.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 674 / 63.4% (Dos 1) 527 / 49.6% (Dos 2 a 3*) 32 / 6.1% (Dosau atgyfnertha)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Ionawr - 20 Ionawr 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

24 Ionawr 2022

 

Achosion: 2,087

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 568.8 (Cymru: 483.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,436

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,481.6

Cyfran bositif: 38.4% (Cymru: 33.6% cyfran bositif)

 

Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2022 ar agor nawr

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion meithrin bellach ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n dair rhwng 1 Medi, 2021 a 31 Awst, 2022 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2022.

Mae lleoedd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gael yn un o'r 74 o ysgolion meithrin ledled y ddinas ac anogir teuluoedd i wneud cais cyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 21 Chwefror 2022, i helpu eu siawns o gael cynnig lle ysgol feithrin o'u dewis.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28375.html