Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 21 Ionawr 2022

21/01/22

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg;achosion COVID a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cynllun pum mlynedd Caerdydd i ailfywiogi canol y ddinas ar ôl y pandemig a'r tri adeilad allweddol yng nghanol y ddinas sy'n derbyn benthyciadau di-log.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 21 Ionawr 2022

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:1,052,689(Dos 1: 398,185 Dos 2:  367,480 DOS 3: 7,854 Dosau atgyfnertha: 279,079)

 

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 16 Ionawr 2022

 

  • 80 a throsodd: 19,903 / 94.7% (Dos 1) 19,763 / 94.1% (Dos 2 a 3*) 18,271 / 92.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,914 / 96.6% (Dos 1) 14,793 / 95.8% (Dos 2 a 3*) 13,626 / 92.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,396 / 96% (Dos 1) 21,269 / 95.4% (Dos 2 a 3*) 19,759 / 92.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,012 / 94.6% (Dos 1) 21,773 / 93.6% (Dos 2 a 3*) 20,020 / 91.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,174 / 92.7% (Dos 1) 25,854 / 91.5% (Dos 2 a 3*) 23,516 / 91% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,521 / 90.6% (Dos 1) 29,074 / 89.2% (Dos 2 a 3*) 26,022 / 89.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,260 / 88.4% (Dos 1) 28,666 / 86.6% (Dos 2 a 3*) 25,070 / 87.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,121 / 82.5% (Dos 1)54,471 / 80% (Dos 2 a 3*) 44,154 / 81.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 62,484 / 77.1% (Dos 1) 59,074 / 72.9% (2nd& 3rd*Dose) 40,958 / 69.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 84,292 / 78.6% (Dos 1) 76,270 / 71.2% (Dos 2 a 3*) 43,817 / 57.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,245 / 76.6% (Dos 1) 3,189 / 57.6% (Dos 2 a 3*) 196 / 6.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 16,666 / 59.6% (Dos 1) 4,547 / 16.3% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,790 / 99.3% (Dos 1) 6,095 / 89.2% (Dos 2 a 3*) 24 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,037 / 98.5% (Dos 1) 2,021 / 97.7% (Dos 2 a 3*) 1,855 / 91.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,698 / 99% (Dos 1) 3,642 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 2,870 / 78.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,148 / 98.1% (Dos 1) 26,866 / 97.1% (Dos 2 a 3*) 23,989 / 89.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 9,949 / 81.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,203 / 94.7% (Dos 1) 11,039 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 6,360 / 57.6% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,176 / 90.7% (Dos 1) 44,832 / 88.1% (Dos 2 a 3*) 37,559 / 83.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 674 / 63.4% (Dos 1) 527 / 49.6% (Dos 2 a 3*) 32 / 6.1% (Dosau atgyfnertha)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

 

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (14/01/22 i 20/01/22)

 

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 1,428

  • Disgyblion a myfyrwyr = 1,327
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 101

 

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

 

Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Ionawr - 16 Ionawr 2022)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

20 Ionawr 2022, 09:00

 

Achosion: 2,010

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 547.8 (Cymru: 490.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,127

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,397.4

Cyfran bositif: 39.2% (Cymru 34.7% cyfran bositif)

 

Cynllun pum mlynedd Caerdydd i adfywio canol y ddinas arôl y pandemig

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynllun pum mlynedd i ail-ddychmygu ac ail-fywiogi canol dinas Caerdydd mewn byd wedi'r pandemig.

Bydd y cynllun, sydd wedi'i gynllunio i ddod â grwpiau partner a rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o'r ddinas er mwyn helpu i wireddu'r weledigaeth, yn canolbwyntio ar naw thema allweddol:

  1. Canol dinas sy'n ddiogel, yn lân, yn wyrdd, yn ddeniadol ac wedi ei reoli'n dda
  2. Canolfan fusnes a chyflogaeth ddeinamig sy'n rhoi mwy o gyfleoedd gwaith.
  3. Canol dinas sydd yn ganolbwynt rhwydwaith trafnidiaeth cwbl integredig.
  4. Canol dinas gwyrdd a bio-amrywiol.
  5. Canolfan sy'n cynnwys dyluniad trefol ac amgylchfyd cyhoeddus rhagorol .
  6. 'Canol dinas las' sy'n defnyddio ei afonydd a'i gamlesi.
  7. Canolfan fywiog i fyw, gweithio a chwarae ynddi.
  8. Canolfan sy'n canolbwyntio ar gynigion diwylliannol gwych.
  9. Canol dinas sy'n cynnig profiad o safon i ymwelwyr.

 

Mwy yma:Cynllun pum mlynedd Caerdydd i adfywio canol y ddinas ar ôl y pandemig (newyddioncaerdydd.co.uk)

 

Tair menter yng nghanol dinas Caerdydd yn elwa o raglen benthyciadau Trawsnewid Trefi

 

Mae tri adeilad allweddol yng nghanol dinas Caerdydd wedi sicrhau benthyciadau di-log o £2.35m gan raglen benthyciadau Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, drwy Gyngor Caerdydd i helpu gyda chynlluniau adfywio ac addasu at ddibenion gwahanol.

Yn unol â Strategaeth Adfer yr awdurdod ar gyfer canol y ddinas, mae'r Cyngor wedi defnyddio ei gyllid benthyciad i gefnogi'r mentrau canlynol: 

• Rhif 30-31 Plas Windsor Addasu'r adeilad rhestredig hwn yn swyddfeydd a mannau deori ar gyfer busnesau technoleg a thechnoleg ariannol blaenllaw.

• Imperial Gate, Heol Eglwys Fair isaf. Addasu'r hen glwb nos hwn yn atyniad hamdden newydd ar thema golff.

• Adeilad Asador 44 yn Stryd y Cei i droi'r lloriau uchaf gwag yn westy boutique.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28344.html