Mae Cyngor Caerdydd yn parhau â'i waith i fynd i'r afael â'r mater o amddifadedd digidol a thros yr ychydig wythnosau nesaf caiff 2,340 arall o ddyfeisiau Chromebook eu dosbarthu i ysgolion er mwyn helpu i ddarparu dysgu ar-lein ac o bell, tra bod ysgoli
Mae angen i Gyngor Caerdydd ddod o hyd i £16.4m i fantoli'r cyfrifon yn 2021/22 a gofynnir i drigolion y ddinas am eu barn ar flaenoriaethau'r cyngor ar gyfer pennu ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Bydd rhan ogleddol Ffordd Churchill ar gau ddydd Llun 11 Ionawr am hyd at dair wythnos fel y gellir cynnal asesiadau ymchwilio tir o dan y ffordd, fel rhan o'r cynllun arfaethedig i ailagor camlas gyflenwi'r dociau.
Mae nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghaerdydd yn parhau yn hynod uchel, ac mae Cymru yn parhau i od ar Lefel Rhybudd 4.
Adeg hon yr wythnos diwethaf, cafodd 18.7% o'r bobl a gafodd prawf COVID-19 yng Nghaerdydd ganlyniad positif. Y ffigur hwnnw heddiw yw 25.6%. Aros gartref, achub bywydau, diogelu'r GIG.
Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed ar hyn o bryd i waredu’r swm enfawr o wastraff ailgylchu ychwanegol sydd wedi ei greu dros gyfnod y Nadolig ac rydym am ymddiheuro wrth drigolion am unrhyw anghyfleustra.
Mae achosion o COVID-19 yng Nghaerdydd yn parhau i fod yn uchel iawn, ac yn uwch na gweddill Cymru.
Mae coronafeirws wrth ei fodd mewn criw, arhoswch gartref i achub bywydau er mwyn #CadwCaerdyddynDdiogel
Dyma ein diweddariad COVID-19 diwethaf yn 2020. Blwyddyn Newydd Dda bawb, ond cadwch yn ddiogel. Mae coronafeirws wrth ei fodd mewn criw, arhoswch gartref i achub bywydau er mwyn #CadwCaerdyddynDdiogel
Mae Rhybudd Coronafeirws Lefel 4 ar draws Cymru, mae'r coronafeirws ar lefel uchel iawn. Arhoswch gartref I achub bywydau a diogelu Cymru, gyda'n gilydd.
Yn anffodus, oherwydd faint o wastraff ac ailgylchu a gyflwynir, a materion argaeledd staff yn ymwneud â'r pandemig presennol, efallai na fyddwn yn gallu casglu'r holl wastraff ar eich diwrnod casglu yr wythnos hon.
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; a mae'n bosibl y bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu yr wythnos hon.
Edrychwch ar ein rhestr o 10 eitem Nadoligaidd a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gael gwared arnynt yn gywir:
Dyma ddiweddariad olaf yr wythnos, a bydd y diweddariad nesaf ddydd Mawrth 29 Rhagfyr. Nadolig Llawen, cadwch yn ddiogel.
Ymatebodd timau Cyngor Caerdydd #GweithioDrosGaerdydd #GweithioDrosochChi i 115 o adroddiadau am lifogydd neithiwr, gan gynnwys rhywfaint o eiddo yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd mewnol.
Mae'r Cyngor yn delio â llifogydd dŵr wyneb ledled y ddinas. Mae'r glaw wedi llenwi'r nentydd sydd bellach yn uwch na'r gollyngfeydd. Mae hyn yn golygu na all y draeniau wagio ac o ganlyniad maent yn cyson lenwi. Roedd ein timau allan cyn y tywydd a ra