Back
Timau'n ymgymryd â'r llifogydd

Ymatebodd timau Cyngor Caerdydd #GweithioDrosGaerdydd #GweithioDrosochChi i 115 o adroddiadau am lifogydd neithiwr, gan gynnwys rhywfaint o eiddo yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd mewnol. 

Cyn i'r glaw toreithiog a oedd yn y rhagolygon daro'r ddinas, aeth ein timau i ardaloedd problemus hysbys, lle mae perygl o lifogydd mewn eiddo, i sicrhau bod yr holl ddraeniau'n glir rhag dail.

Roedd rhybudd llifogydd gan y Swyddfa Dywydd ar waith ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru tan 2 o'r gloch y bore yma, gydag amcangyfrif o 70 mm o law wedi cwympo. Achoswyd y rhan fwyaf o lifogydd wyneb neithiwr gan y lefelau dŵr uchel yn y nentydd a'r ffrydiau, a oedd yn golygu nad oedd y draeniau'n gallu gwagio i mewn iddynt, felly cronnodd y dŵr.

Bu ein timau mewnol yn gweithio drwy'r nos gan barhau i gadw'r nentydd a'r ffrydiau'n rhydd rhag rhwystrau. Dosbarthwyd bagiau tywod, a defnyddiwyd y llifddorau ym Mhen y Dre yn Rhiwbeina fel rhagofal. Hefyd cefnogwyd y timau gan gontractwyr yn y gwaith i bwmpio dyfroedd y llifogydd i ffwrdd.

Parhaodd y gwaith heddiw, gan glirio'r llifogydd ar Heol Lecwydd, a Croft-Y-Genau Road a Ffordd Llanfihangel yn Sain Ffagan.

Os byddwch yn gweld gyli wedi'i flocio neu broblemau neu ddail ar ffyrdd a phalmentydd, gallwch adrodd amdano ar App Caerdydd Gov, sydd ar gael yn yr Apple App Store a Google Play.