Back
Y cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn ymgynghoriad Cyllideb Cyngor Caerdydd

08/01/21 

Mae angen i Gyngor Caerdydd ddod o hyd i £16.4m i fantoli'r cyfrifon yn 2021/22 a gofynnir i drigolion y ddinas am eu barn ar flaenoriaethau'r cyngor ar gyfer pennu ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos o hyd yn lansio ar Dydd Mercher, 13 Ionawr, cyn i'r cynigion terfynol gael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn i'w hystyried ym mis Chwefror. 
 
  

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Eleni cafodd Caerdydd gynnydd gwell na'r disgwyl o 3.8% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.  Mae hyn yn cynrychioli £18m yn ychwanegol yn nhermau arian parod.  Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd hwn sydd i'w groesawu'n fawr, nid yw'n ddigon o hyd i dalu am y gwasanaethau a ddarparwn.  Yn wir, mae'n gadael bwlch yn ein cyllideb o £16.4m o ran ein cyllid, bwlch y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd o'i bontio os ydym am barhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion yn eu gwerthfawrogi gymaint. Gwasanaethau hanfodol sydd wedi darparu cymaint yn ystod y pandemig. 

"Ers y cyfnod clo cyntaf ddiwedd mis Mawrth mae'r Cyngor hwn wedi gweithio'n galed i'n trigolion. Nid yn unig yr ydym wedi cynnal ac addasu ein gwasanaethau allweddol i'w darparu'n ddiogel, rydym hefyd wedi darparu miloedd o barseli bwyd i bobl sy'n gwarchod eu hunain; cartrefu pobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas mewn llety addas, a darparu prydau ysgol a gliniaduron am ddim i blant o deuluoedd incwm isel i helpu gyda'u haddysg gartref.
 

"Rydym hefyd wedi darparu cymorth ariannol a chyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal a darparwyr gofal i'w helpu i weithredu'n ddiogel yn ystod y pandemig, ac rydym wedi cael gafael ar a darparu grantiau i filoedd o fusnesau a gafodd eu gorfodi i gau yn ystod cyfnod yr haint.

"Wrth gwrs, ni chyllidebwyd ar gyfer y rhan fwyaf o hyn. Ni allai neb fod wedi disgwyl y gwariant enfawr a'r colledion ariannol enfawr y byddem yn eu hwynebu yn sgil y pandemig.  Gwariodd Cyngor Caerdydd £38m rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd yn unig i fynd i'r afael ag effeithiau COVID a chollodd £22m mewn incwm dros chwe mis.

"Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi talu llawer iawn o'r gost hon, ond nid yw effaith ariannol hirdymor argyfwng COVID-19 wedi ei deall yn llawn eto, felly mae'n parhau'n anodd rhagweld cwrs y pandemig a'i effaith ar wasanaethau, ac ar gyllid y cyngor, dros y flwyddyn i ddod. Er, gallwn fod yn siŵr y bydd cost ariannol i'r cyngor wrth gwrs, yn enwedig os ydym am gynnal ein gwasanaethau ar y lefel bresennol."

Nododd y Cyngor strategaeth gyllidebol yr hydref diwethaf, a wnaeth rai tybiaethau dros dro.  Gallai'r strategaeth honno arwain o bosibl at gyllideb sy'n pontio'r bwlch cyllido o £16.4m mewn tair ffordd.  Gallai'r rhain gynnwys:

  • Gwireddu £10.25m mewn arbedion effeithlonrwydd;
  • Codi'r dreth gyngor 4% (sy'n cyfateb i 97c yr wythnos ar gartref Band D);
  • Defnyddio cronfeydd wrth gefn.

 

Bydd y penderfyniad terfynol ar ffurf y gyllideb yn cael ei wneud ar ôl yr ymgynghoriad, cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
 
 

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Daw'r rhan fwyaf o'r arian y mae'r Cyngor yn ei dderbyn o grantiau gan Lywodraeth Cymru.  Dim ond tua 28% sy'n dod o Dreth y Cyngor.  Mae'r rhan fwyaf o'n cyllideb - tua dwy ran o dair - yn cael ei gwario ar redeg ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.  Heb y dreth gyngor, gallai llawer o'r gwasanaethau pwysig eraill a ddarparwn gael eu colli neu wynebu toriadau difrifol.  Mae cynnydd o 4% yn dod i 97c yr wythnos ar eiddo Band D, tua £4 y mis, ond byddai hynny'n cyfrannu rhywfaint at ein helpu i gynnal y gwasanaethau y mae ein dinasyddion yn dibynnu arnynt wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol gwell wedi'r pandemig."

Mae'r ymgynghoriad sy'n agor brynhawn Dydd Mercher, 13 Ionawr, wedi tynnu sylw at nifer o flaenoriaethau allweddol y dymuna gael barn trigolion arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Arwain adferiad economaidd y ddinas;
  • Buddsoddi mewn ysgolion ac addysg;
  • Mynd i'r afael ag argyfwng tai'r ddinas, gan ddarparu 2000 o gartrefi cyngor newydd;
  • Ailadeiladu sîn ddiwylliannol Caerdydd;
  • Lleihau tagfeydd a llygredd aer;
  • Cadw'n cymunedau, ein parciau a'n strydoedd yn lân.
  • Defnyddio strategaeth Caerdydd Un Blaned i sicrhau adferiad gwyrdd i'r ddinas. 

 

Dwedodd y Cyng. Chris Weaver: "Bu gan y cyngor hwn uchelgeisiau sylweddol i'n dinas erioed. Rydym bob amser wedi bod eisiau'r gorau i'n trigolion ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod Caerdydd yn gwella'n gyflym o effeithiau'r pandemig. Rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad."

Bydd manylion yr ymgynghoriad yn cael eu rhyddhau Ddydd Mercher, 13 Ionawr.  Bydd yn rhaid cynnal yr ymgynghoriad yn electronig ac ar-lein eleni oherwydd y cyfyngiadau symud sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd.  Bydd manylion am sut y gall y cyhoedd gymryd rhan ar gael ar wefan y Cyngor ac ar sianeli ei gyfryngau cymdeithasol o 13 Ionawr.