Back
Diweddariad ar Gasglu Gwastraff

 

06/01/21

Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed ar hyn o bryd i waredu'r swm enfawr o wastraff ailgylchu ychwanegol sydd wedi ei greu dros gyfnod y Nadolig ac rydym am ymddiheuro wrth drigolion am unrhyw anghyfleustra.

Rydym yn deall y bydd trigolion yn poeni eu bod wedi colli casgliad ailgylchu, ond rydym am i chi wybod ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i waredu'r gwastraff bagiau gwyrdd gynted ag y gallwn.

Mae maint y gwastraff a gyflwynwyd i'w gasglu dros gyfnod y Nadolig wedi cynyddu'n sylweddol.Credwn fod y cloi cynnar a symudiad mawr tuag at siopa ar-lein wedi cyfrannu at y cynnydd yn yr ailgylchu sy'n cael ei gyflwyno.

Rydym am i chi wybod nadyw'r sefyllfa'n unigryw i Gaerdydd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud wrthym fod y duedd hon wedi'i gweld ledled llawer o ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru.

Ymddengys fod llawer o'r cynnydd hwn mewn gwastraff wedi'i achosi gan gynnydd enfawr mewn siopa ar-lein, sy'n debygol o fod oherwydd cyfuniad o'r pandemig a'r cyfnod cloi.

Ar hyn o bryd rydym yn amcangyfrif bod400 tunnell ychwanegol o fagiau gwyrdd (ailgylchu) wedi cael eu cyflwyno i'w casglu o strydoedd y ddinas o'i gymharu â'r un adeg y llynedd.Byddai casglu'r cyfan mewn un diwrnod angen 50 o gerbydau gwastraff ychwanegol a 150 o staff ychwanegol. Ar ddiwrnod arferol, byddem yn casglu 50 tunnell.

Yn anffodus, ar y cyd â'r holl wastraff ychwanegol hwn mae'r cyngor hefyd wedi gweld gostyngiad o 17% yn nifer staff yr adran oherwydd bod gweithwyr naill ai'n profi'n bositif am COVID neu'n gorfod hunan-warchod, neu hunanynysu.

Mae'r cyngor wedi ail-leoli staff addas o rannau eraill o'r cyngor i gyflenwi cymaint â phosibl, ond mae'n bwysig nodi bod casgliadau strydoedd yn cynnwys gweithredu peiriannau trwm a gweithio o amgylch cerbydau sy'n symud, felly mae'n rhaid i unrhyw staff a ddrafftiwyd i mewn gael eu hyfforddi'n briodol i wneud y gwaith hwn yn ddiogel.

Yn wyneb y broblem ddwbl o leihad mewn niferoedd staff yn sgil COVID a'r cynnydd yn yr ailgylchu, penderfynom flaenoriaethu gwastraff cyffredinol a gwastraff bwyd i gychwyn, a dyna pam mae peth gwastraff ailgylchu heb ei gasglu eto.

Rhwng 28 Rhagfyr a 3 Ionawr, gwnaeth y cyngo rhefyd gwaredu ychydig dan 850 tunnell o wastraff biniau du/bagiau streipiau coch (cynnydd o 33%) ac ychydig yn llai na 400 tunnell o wastraff bwyd (cynnydd o 17%)

Gofynnwn i breswylwyr fod yn amyneddgar a gadael eu bagiau y tu allan i'w heiddo a byddant yn cael eu casglu cyn gynted ag y gallwn wneud hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn cyn y rownd wythnosol nesaf, ond mewn rhai achosion gall fod yn rhan o'r rownd wythnosol nesaf (fan pellaf).