Caiff cynllun newydd ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i hybu urddas mislif ymysg merched a menywod ifanc yng Nghaerdydd yn dechrau o dymor y gwanwyn 2019.
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Creigiau wedi ennill y wobr gyntaf yn Her Ddŵr Llais y Disgybl am eu syniadau i hyrwyddo'r defnydd o ddŵr yn yr ysgol.
Fel rhan o gynllun Llwybrau Diogel i’r Ysgol, bydd cyfleusterau i gerddwyr ar y groesfan rhwng Penline Road, Church Road, Old Church Road a Merthyr Road yn cael eu gwella’n sylweddol.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymuno â Chymdeithas y Gwestywyr, lleoliadau yng Nghaerdydd sydd wedi ymrwymo cyllid i'r bartneriaeth a For Cardiff i hyrwyddo'r ddinas fel prif gyrchfan digwyddiadau busnes a chynadleddau.
Mae landlordiaid o bob rhan o Dde Cymru yn talu’r pris am osgoi cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.
Plediodd y ffugiwr Mark Cody, o Blaenavon Close yn Llaneirwg, yn euog ddydd Gwener diwethaf (22 Chwefror) yn Llys yr Ynadon Caerdydd i gyfres o droseddau yn ymwneud â’i fusnes ffugio yr oedd yn ei redeg o’i gartref.
Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi darparwr newydd i gael gwared ar fwy na 70,000kg o'r gwastraff cyfrinachol y mae’n ei gynhyrchu bob blwyddyn.
Mae Ysgol Arbennig The Hollies, ar gyfer plant ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASA), wedi ei henwebu am wobr fawr ei bri, prif ffrwd ledled y DG am ei chlwb ffilmiau.
Yr wythnos diwethaf daeth ymwelydd arbennig i Ysgol Gynradd Kitchener, sef Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anhr. Mark Drakeford, i ddathlu ymddeoliad Mrs Dianne Allsopp, Goruchwylydd Amser Cinio sydd wedi troi'n 80 oed.
Ailgylchwch dros Caerdydd a dros Gymru. Mae preswylwyr Caerdydd wrthi yn yr ystafell wely, ystafell ymolchi, cegin ac yn yr ardd – mae'r rhan fwyaf o'n preswylwyr WRTHI bob dydd ac mae'n rhan FAWR o'n bywydau.
Mae landlord preifat wedi’i orchymyn i dalu dros £12,000 am gyflwr gwarthus yr eiddo y mae’n ei rentu yng Nglan-yr-afon.
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Principality ar 23 Chwefror.
Mae cynorthwyo’r digartref, rhagor o lanhau cymdogaethau'n drylwyr, ffyrdd gwell a chynnal llwybrau bws yn y ddinas ymhlith rhai o’r cynigion ar gyfer cyllideb Cyngor Caerdydd yn 2019/20.
• Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu bwlch yn ei gyllideb o £ 32.4m yn 2019/20
Bydd argymhellion i osod premiwm treth gyngor o 50% ar anheddau sy’n wag yn hir-dymor yn cael eu hystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd yr wythnos nesaf.
Bydd Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd yn derbyn adroddiad drafft ar ‘Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd’ yn ystod ei gyfarfod ar ddydd Llun 18 Chwefror.