Back
Cyfres o fethiannau mewn eiddo rhent yng Nglan-yr-afon

Mae landlord preifat wedi'i orchymyn i dalu dros £12,000 am gyflwr gwarthus yr eiddo y mae'n ei rentu yng Nglan-yr-afon.

Plediodd Robert Hope-Ross, o Camp Hill Road, Nuneaton yn Swydd Warwig, yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau diwethaf (14 Chwefror) i 19 o droseddau yn ymwneud â'i eiddo yn Neville Street yng Nglan-yr-afon.

Roedd saith person yn byw yn yr eiddo teras Fictoraidd tri-llawr ac, yn dilyn cwyn gan un o'r tenantiaid, ymwelodd swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir ar 26 Gorffennaf 2018 a gweld cyfres o broblemau yn yr eiddo.

Nid oedd larwm tân, nid oedd y drysau'n ddrysau tân go iawn, ni ddangoswyd tystiolaeth i ddangos bod y gosodiadau trydan a nwy wedi'u profi'n rheolaidd, nid oedd y cyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi yn ddigonol, nid oedd unrhyw olau naturiol nac awyru yn un o'r ystafelloedd gwely, roedd y ffenestri wedi'u difrodi, ac roedd nifer o fethiannau eraill, gan gynnwys carpedi brwnt ac wedi torri, a oedd yn berygl baglu.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am faterion tai ar gyfer y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir: "Roedd cyfres o fethiannau yn yr eiddo hwn ac mae'r ffaith bod tri llawr i'r eiddo a saith person yn byw yno, heb unrhyw larymau tân o gwbl, yn destun pryder mawr. Petai tân wedi dechrau yn yr eiddo, ni fyddai'r tenantiaid wedi cael unrhyw rybudd a gallai'r canlyniad fod wedi bod yn drychinebus.

"Mae diogelwch tân mor bwysig, ac mae'r ffaith nad oedd unrhyw larymau tân o gwbl yn yr eiddo hwn yn dangos agwedd ddi-hid at y ddeddfwriaeth. Dylai hyn anfon neges glir i'r rheini sy'n rhentu eiddo annigonol. Byddwn yn gweithredu ar unrhyw gŵyn sy'n cael ei gwneud, ac os na fydd yr eiddo yn cael ei wella i'r safon angenrheidiol, byddwn yn mynd â'r mater i'r llys ac yn erlyn."

Cafodd Mr Hope-Ross ddirwy o £12,000 a'i orchymyn i dalu £478 mewn costau gyda gordal dioddefwr o £170.