Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Creigiau wedi ennill y wobr gyntaf yn Her Ddŵr Llais y Disgybl am eu syniadau i hyrwyddo'r defnydd o ddŵr yn yr ysgol.
Bu'r her, a sefydlwyd gan Dîm Ysgolion Iach Caerdydd, yn annog cynghorau ysgolion cynradd a grwpiau llais disgyblion i feddwl am syniadau i gynyddu swm y dŵr y mae disgyblion yn ei yfed yn ystod y diwrnod ysgol.
Derbyniodd pob disgybl yn yr ysgol botel ddŵr gan Rhys Gill, chwaraewr rygbi gyda Gleision Caerdydd, i goffáu'r fuddugoliaeth yn ystod gwasanaeth ysgol arbennig.
Cyflwynwyd y wobr wrth i Wythnos Genedlaethol Maeth a Hydradu ddechrau (11-15 Mawrth) gyda'r nod o amlygu, hyrwyddo a dathlu gwelliannau yn narpariaeth maeth a hydradu yn lleol, yn genedlaethol a ledled y byd.
Cafodd plant yr ysgol eu canmol am y data a gasglwyd ganddynt trwy arolwg disgyblion ac athrawon i asesu a oedd disgyblion yn yfed yn ystod y dydd.
Canfuwyd nad oedd eu cyfoedion yn ymwybodol o faint y dylent fod yn ei yfed a thynnwyd sylw hefyd at bryderon posib gan athrawon.
Dyma rai o'r newidiadau a wnaed gan yr ysgol yn sgil hynny:
- Darperir safle dŵr i bob dosbarth i'w gadw yn yr ystafell ddosbarth a'i gario i'r iard yn ystod amserau egwyl.
- Mae pob dosbarth yn dysgu am bwysigrwydd yfed dŵr.
- Gwobrwyo disgyblion am ail-lenwi poteli dŵr.
- Rhoi ffeithlen i athrawon sy'n esbonio faint o ddŵr y dylai'r disgyblion fod yn ei yfed a pham.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry,
"Dyma enghraifft ragorol o sut mae gwrando ar syniadau plant a'u hannog i ddatrys problemau yn gallu helpu i wella eu bywydau dyddiol a'u hamgylcheddau yn yr ysgol.
Ar ôl chwe wythnos cynhaliwyd arolwg arall i nodi pa ddosbarthiadau oedd wedi gwneud y gwelliannau mwyaf a gwelwyd cynnydd yn swm cyffredinol y dŵr oedd yn cael ei yfed ar draws yr ysgol.
Meddai'r pennaeth, Mrs Delyth Kirkman,"Rydym yn gwybod am bwysigrwydd yfed dŵr ond yn aml gall sylw plant gael ei dynnu yn ystod gweithgareddau a gallant anghofio yfed yn rheolaidd.
"Roedd y project hwn wedi ennyn diddordeb yr ysgol gyfan. Mi wnaeth rhai dosbarthiadau gymryd rhan mewn gweithgareddau difyr i annog yfed mwy o ddŵr, megis canu caneuon, dylunio posteri a chynnal cystadlaethau dosbarth.
"Roedd y disgyblion oedd wedi yfed y swm mwyaf o ddŵr yn cael eu penodi'n ‘Bencampwyr Dŵr' ac roedd yfed dŵr yn ystod yr egwyl yn cael ei annog trwy ddarparu safleoedd dŵr yr oedd modd eu cario y tu allan.
"Roedd hon yn ffordd wych o amlygu pwysigrwydd yfed dŵr i'n hiechyd a'n lles ac mae'n annog plant i feddwl am faint maen nhw'n ei yfed trwy gydol y dydd.
"Diolch Rhys am ddod i'n gwasanaeth. Roedd yn ddiwrnod cyffrous i'r ysgol gyfan."
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry,"Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant lle mae lleisiau a hawliau plant yn rhan annatod o bolisïau, rhaglenni a phenderfyniadau cyhoeddus."