Back
Colur ffug yn cynnwys lefelau peryglus o Blwm a Chromiwm

Plediodd y ffugiwr Mark Cody, o Blaenavon Close yn Llaneirwg, yn euog ddydd Gwener diwethaf (22 Chwefror) yn Llys yr Ynadon Caerdydd i gyfres o droseddau yn ymwneud â'i fusnes ffugio yr oedd yn ei redeg o'i gartref.

Rhoddwyd Gorchymyn Cymunedol o 12 mis i Cody, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gyflawni 240 awr o waith di-dâl a Gorchymyn Adsefydlu o 25 awr. Hefyd, fe'i gorchmynnwyd i dalu costau o £300 gyda gordal dioddefwr pellach o £85.

Ym mis Chwefror 2018, aeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir i eiddo Cody gyda gwarant a chymryd swm sylweddol o ddillad, nwyddau, sticeri dylunwyr a labeli ffug, ynghyd â cholur, o'i gartref yng Nghaerdydd.

Anfonwyd enghreifftiau o'r dillad i arbenigwyr brand a gadarnhaodd fod y nwyddau'n ffug, ac anfonwyd y colur i'w ddadansoddi i ganfod beth oedd ynddo.

Roedd y colur, a oedd yn cynnwys cynhyrchion Chanel, Kylie a Mac ffug, yn cynnwys 35 gwaith y lefelau o Blwm a ganiateir a 7 gwaith y lefel o Gromiwm a ganiateir. 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Mae angen cael gwared ar nwyddau ffug o'r strydoedd oherwydd nid yw'r cynhyrchion hyn yn cael yr un profion diogelwch â chynhyrchion cyfreithlon. Dydyn nhw ddim yn ddiogel, ac mae angen i'r bobl sy'n prynu'r cynhyrchion yma wybod hyn.

"Dylai'r lefelau o blwm a chromiwm sydd yn y colur a brofwyd anfon neges glir i'r bobl sy'n prynu'r cynhyrchion hyn: meddyliwch eto, oherwydd mae'r lefelau o Blwm a Chromiwm a welwyd yn beryglus i'r rheini sy'n eu defnyddio.

"Mae dillad ffug a chynhyrchion ffug eraill fel arfer o ansawdd gwael iawn, ac nid ydynt yn cael unrhyw brofion diogelwch o gwbl. Os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, dyna'r achos fel arfer, a byddwn yn parhau i ymchwilio i unrhyw wybodaeth sydd gennym i dynnu'r cynhyrchion hyn oddi ar y farchnad."

Roedd pledion euog Cody yn ymwneud â 16 drosedd dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 a saith trosedd dan Reoliadau Gorfodi Cynhyrchion Cosmetig 2013. Rhoddwyd Gorchymyn Atafaelu gan y llys a chaiff yr holl eitemau a gymerwyd eu dinistrio.