Back
Croeso carped coch i ysgol yr Hollies wrth iddi gael ei henwebu am wobr ffilm fawr ei bri

Mae Ysgol Arbennig The Hollies, ar gyfer plant ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASA), wedi ei henwebu am wobr fawr ei bri, prif ffrwd ledled y DG am ei chlwb ffilmiau.

Bydd disgyblion ac athrawon yn mynd i Lundain ddydd Llun 4 Mawrth i seremoni i ddarganfod a ydyn nhw wedi cipio'r wobr arbennig. Yno hefyd bydd llu o sêr, megis yr actor ffilm o Gymru, Luke Evans. 

Mae awtistiaeth yn effeithio ar ryngweithio cymdeithasol, cyfathrebu cymdeithasol, ymddygiad a diddordebau. Mae nifer o'r myfyrwyr yn profi anawsterau o ran gweithgareddau cymdeithasol, megis ymweliadau teuluol â'r sinema.Er mwyn ymgysylltu â disgyblion, mae'r clwb ffilmiau wedi creu ei sinema ei hun, fel y gall disgyblion fwynhau ffilmiau mewn amgylchedd diogel a chroesawgar. 

Mae hyn wedi golygu addasu deunyddiau a mabwysiadu strategaethau i annog ac ymgysylltu â disgyblion er mwyn iddynt gael eu trochi mewn profiad sinema go iawn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Dyma gamp rhagorol i blant The Hollies sy'n meddu ar lu o sgiliau a thalentau, wedi eu meithrin a'u hannog gan staff anhygoel yr ysgol.Mae'r clwb ffilmiau wedi eu helpu nhw i ffynnu, o ran eu sgiliau dysgu a'u sgiliau cymdeithasu ac mae'n dangos sut gall creadigrwydd, ffilm a'r celfyddydau helpu i hyrwyddo hyder a hunan-barch, fel y gall ein disgyblion wedyn ddod yn unigolion hapus a hyderus.

"Rwy'n edrych ymlaen at wylio'r ffilm a dymunaf bob llwyddiant i bawb sy'n cymryd rhan yn y seremoni wobrwyo y mis nesaf."

Mae Ysgol The Hollies, sydd eisoes yn arloesi ym maes llesiant, wedi gwneud argraff ar y beirniaid am eu defnydd ar elfennau o faes y celfyddydau mynegiannol sy'n rhan o gwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru, na chaiff ei gyflwyno tan fis nesaf.

Meddai Non Stevens, Pennaeth Ffilm Cymru:"Mae cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfrifoldeb ar athrawon i ddefnyddio ffilm yn y dosbarth fel ffordd o wella llythrennedd digidol, llythrennedd a rhifedd.Yr hyn sy'n drawiadol am The Hollies a'i chlwb ffilmiau unigryw yw eu bod yn enghraifft o sut fo'r technegau hyn yn cael effaith go iawn nid yn unig ar sgiliau'r disgyblion yn y dosbarth ond hefyd gartref gyda'u teuluoedd. 

"Mae plant sydd fel arfer yn dweud braidd dim, yn llwyddo i ddweud rhywfaint o eiriau drwy animeiddio.Rydym yn adnabod un bachgen sy'n gallu mwynhau mynd i'r sinema gyda'i deulu cyfan erbyn hyn, oherwydd bod mynychu'r clwb ffilmiau yn golygu ei fod wedi dod i arfer â'r profiad, gyda'i holl ysgogi ar y synhwyrau.Mae'r clwb ffilmiau hwn wedi gwneud dim llai na gweddnewid bywydau."

Dywedodd y Pennaeth Lisa Marshal:"Nid clwb ffilmiau arferol mohono, y gallech fynd iddo ar ryw ddiwrnod penodol neu ar adeg benodol ar ôl ysgol.Mae wedi ei wau drwy ein cwricwlwm.Mae'r plant a'r teuluoedd yn elwa arno.  Mae wedi cael effaith enfawr - rwy'n credu bod hynny'n beth unigryw."

Mae enwebiadau 2019 yn dangos amrywiaeth aruthrol o dalentau greu ffilmiau yn y DG ac yn brawf o ymwybyddiaeth gynyddol pobl ifanc o'r byd o'u cwmpas a'u pryderon amdano, gan gynnwys themâu megis banciau bwyd; atal-bwlio; Trump; meithrin perthnasau amhriodol gyda phlant ar-lein; Brexit; y glowyr; a hanes drwy lygaid mam-gu a thad-cu.