10/7/2025
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu strategaeth newydd feiddgar i fynd i'r afael â'r angen brys am ragor o ofalwyr maeth yn y ddinas, gan gynnig cymorth ariannol a grantiau gwella cartrefi i ofalwyr maeth, gofalwyr sy'n berthnasau, a gwarcheidwaid arbennig er mwyn helpu i ddarparu cartrefi mwy diogel, sefydlog a chariadus i blant a phobl ifanc.
Mae'r Cyngor yn annog trigolion i ystyried dod yn ofalwyr maeth prif ffrwd, gydag angen arbennig am y rheini sy'n gallu cefnogi grwpiau brodyr a chwiorydd a phlant hŷn. Mae gofalwyr maeth prif ffrwd yn darparu gofal i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gysylltiedig â nhw, yn wahanol i ofalwyr sy'n berthnasau neu ofalwyr maeth Unigolion Cysylltiedig sydd wedi'u cymeradwyo i ofalu am blentyn penodol, fel arfer aelod o'r teulu neu ffrind agos.
Mae'r Polisi Addasiadau ac Estyniadau newydd yn cyd-fynd ag ymrwymiad Caerdydd i Agenda Dileu Elw Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal ac ailfuddsoddi arian cyhoeddus mewn gwasanaethau cynaliadwy, cymunedol.
Pe bai Cabinet Cyngor Caerdydd yn cytuno arni, byddai'r fenter yn darparu cyllid grant cyfalaf i helpu gofalwyr i ehangu eu cartrefi, gan eu galluogi i ddarparu ar gyfer rhagor o blant, yn enwedig grwpiau brodyr a chwiorydd a'r rheini ag anghenion cymhleth.
Fel rhan o'r fenter, mae Cyngor Caerdydd yn cynnig:
Trwy fuddsoddi yn seilwaith ffisegol cartrefi gofalwyr, nod y polisi yw cynyddu sefydlogrwydd lleoliadau, lleihau dibyniaeth ar ddarparwyr allanol, a sicrhau bod plant yn gallu aros mewn amgylcheddau meithrin cymunedol; mae hefyd yn cefnogi gofalwyr sy'n berthnasau a gwarcheidwaid arbennig trwy eu helpu i ehangu eu cartrefi, gan eu galluogi i barhau i ofalu am blant y maent eisoes yn eu hadnabod a'u caru.
Mae'r pecyn cymorth cynhwysfawr hwn yn un o'r rhai mwyaf hael yng Nghymru, ac mae wedi'i gynllunio i hybu recriwtio, lleihau dibyniaeth ar leoliadau er elw, a sicrhau bod plant yn gallu aros yn agos at eu hysgolion, eu ffrindiau a'u cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: "Mae'r polisi hwn yn ymwneud â rhoi plant yn gyntaf a thrwy gefnogi ein gofalwyr ymroddedig i addasu eu cartrefi, rydym yn creu rhagor o gyfleoedd i blant aros mewn amgylcheddau cyfarwydd, cariadus gyda phobl maen nhw'n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, ac mewn cartrefi sy'n diwallu eu hanghenion.
"Mae pob plentyn yn haeddu cartref diogel, sefydlog a chariadus a byddai'r polisi hwn yn ein helpu i gyflawni'r addewid hwnnw wrth sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn foesegol ac yn effeithiol, gan leihau ein dibyniaeth ar leoliadau allanol."
Mae'r polisi yn rhan o strategaeth ehangach i dyfu gallu maethu mewnol Caerdydd a lleihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal preswyl, gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y gefnogaeth gywir, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, gan eu galluogi i ffynnu yn eu cymunedau.
Mae'r Cyngor eisoes wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ofalwyr, y mae llawer ohonynt wedi mynegi diddordeb mewn ehangu eu gallu os rhoddir y gefnogaeth gywir.
Byddai'r broses grant yn cael ei goruchwylio gan reolwr prosiect pwrpasol ac yn cynnwys mesurau diogelwch cyfreithiol, gwiriadau ansawdd, ac asesiadau annibynnol i sicrhau tryloywder a gwerth am arian.
Os ydych chi erioed wedi meddwl am faethu, nawr yw'r amser. Byddwch yn cael eich cefnogi bob cam o'r ffordd a gallech newid bywyd plentyn am byth. Am ragor o wybodaeth, ewch iMaethu yng Nghaerdydd | Maethu Cymru Caerdydd
Cyn cyfarfod y Cabinet, craffwyd ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc pan gyfarfu ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2025. Mae recordiad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio yma.Agenda ar gyfer Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf, 2025, 4.30pm : Cyngor Caerdydd
Bydd yr adroddiad yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau, 10 Gorffennaf 2025. Bydd gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod hwnnw ar y diwrnod ar gael yma. Agenda'r Cabinet - Dydd Iau, 10 Gorffennaf, 2025, 2.00pm : Cyngor Caerdydd