Back
Y newyddion gennym ni - 07/07/25

Image

04/07/25 - Gwella bywydau unigolion niwroamrywiol a'u teuluoedd yng Nghaerdydd

Mae cynllun beiddgar a chynhwysol i greu dinas lle mae pobl niwrowahanol yn cael eu cefnogi i fyw'n dda, ffynnu a theimlo eu bod yn cael eu deall wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y ddinas gan Gyngor Caerdydd ac amrywiaeth eang o bartneriaid.

Darllenwch fwy yma

 

Image

04/07/25 - Cyhoeddi Cynllun Adfywio Porth y Dwyrain

Mae cynlluniau i ddatblygu uwchgynllun newydd i adfywio porth dwyreiniol y ddinas wedi'u datgelu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

04/07/25 - Cyflawni gwerth am arian, sicrhau effeithiau lles ehangach

Bydd polisi sy'n nodi sut y bydd Cyngor Caerdydd yn defnyddio ei bŵer caffael i hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y ddinas yn cael ei drafod gan y Cabinet yr wythnos nesaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

03/07/25 - Uchelgeisiau sero-net wrth wraidd y weledigaeth ar gyfer Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi diweddariad cynhwysfawr ar ddyfodol y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol (PChRh).

Darllenwch fwy yma

 

Image

03/07/25 - Cynllun Llogi Beiciau Trydan Newydd Caerdydd i'w Lansio ar Ddechrau 2026 — Mwy Diogel, Doethach, a Dim Cost i'r Cyngor

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau cynlluniau i lansio cynllun llogi beiciau trydan newydd gan gynnig ffordd lanach, fwy diogel a dibynadwy i breswylwyr ac ymwelwyr fynd o gwmpas y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

02/07/25 - Gweddnewid hen adeilad swyddfa yn cyflwyno cartrefi cyngor newydd Bae Caerdydd

Mae'r grŵp cyntaf o 78 o fflatiau cyngor newydd o ansawdd uchel mewn hen floc swyddfa ym Mae Caerdydd yn barod i groesawu tenantiaid newydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

01/07/25 - Disgyblion Caerdydd yn helpu i greu etifeddiaeth drawiadol wrth i furlun EURO 2025 y Merched gael ei ddadorchuddio

Mae disgyblion o dair ysgol yng Nghaerdydd wedi helpu i greu murlun newydd beiddgar ym Mharc y Sblot, sy'n dathlu menywod ym maes chwaraeon ac ymgyrch EURO 2025 Cymru sydd ar ddod.

Darllenwch fwy yma

 

Image

01/07/25 - Sialens Ddarllen yr Haf 'Gardd o Straeon' ar fin blodeuo yng Nghaerdydd

Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn paratoi i lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni, gan wahodd plant i gamu i fyd hudolus natur ac adrodd straeon ar thema 2025: Gardd o Straeon - Anturiaethau ym Myd Natur a'r Awyr Agored.

Darllenwch fwy yma

 

Image

01/07/25 - Dros 200 o ddisgyblion Caerdydd yn cychwyn ar brofiad gwaith sy'n llunio gyrfaoedd drwy Wobr Beth Nesaf Addewid Caerdydd

Mae mwy na 200 o ddisgyblion o ysgolion a cholegau ledled Caerdydd yn cymryd eu camau cyntaf i'r byd gwaith yr haf hwn, diolch i Raglen Profiad Gwaith Gwobr Beth Nesaf Addewid Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

01/07/25 - Lleisiau Ifanc yn arwain y ffordd yn Rhaglen Cenhadon Democratiaeth Caerdydd

Mae disgyblion o bedair ysgol yng Nghaerdydd - Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cathays, ac Ysgol Bro Edern, wedi cymryd rhan mewn taith ysgol fel rhan o Raglen Cenhadon Democratiaeth Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

01/07/25 - Canllaw amlieithog newydd yn helpu rhieni i deimlo'n hyderus pan fydd eu plentyn yn sâl

Mae canllaw newydd wedi'i lansio i helpu rhieni i deimlo'n fwy hyderus pan fydd eu plentyn yn sâl a gwybod ble i fynd am y cymorth iawn ar yr amser iawn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

25/06/25 - Hyb Hanes Lleol Newydd yn Lansio yng Nghaerdydd i ddod â straeon y ddinas i ystafelloedd dosbarth a chymunedau

Mae menter newydd yn lansio yr hydref hwn yng Nghaerdydd i helpu pobl ifanc i ddarganfod a dathlu hanes lleol cyfoethog y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

23/06/25 - Gorchmynnwyd i Landlord dalu dros £60,000 am "ddiystyru'r gyfraith yn ddigywilydd"

Mae landlord wedi cael ei ddedfrydu am "ddiystyru'r gyfraith yn ddigywilydd" sy'n ymwneud ag eiddo a oedd wedi'i rentu yn Heol y Plwca, Caerdydd.

Darllenwch fwy yma