Mae Cyngor Caerdydd wedi
prynu’r safle 54.48 erw yn Lawnt Pengam yn Nhremorfa oddi wrth Lywodraeth Cymru
yn ddiweddar, ac mae'n paratoi i greu uwchgynllun cynhwysfawr ar gyfer y
lleoliad strategol bwysig hwn. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleoedd preswyl,
masnachol a seilwaith posibl, ochr yn ochr ag amddiffyniadau amgylcheddol a
chysylltedd trafnidiaeth gwell.
Mae'r safle yn cynnig cyfle
sylweddol i drawsnewid porth allweddol i Fae Caerdydd a de canol y ddinas, gan
wella cysylltedd, hybu teithio llesol, a chefnogi twf economaidd ac adnewyddu
amgylcheddol.
Er mwyn helpu i lunio
dyfodol yr ardal, bydd y Cyngor yn creu uwchgynllun y gellir ei gyflawni fesul
cam. Bydd y cynllun yn nodi lle y gallai cartrefi, busnesau a mannau cyhoeddus
newydd gael eu lleoli. Bydd yn canolbwyntio ar ddylunio da, mynediad hawdd, a
chymysgedd o ddefnyddiau sy'n gweithio'n dda gyda'i gilydd. Bydd hefyd yn
cynnwys “seilwaith glas a gwyrdd” – pethau fel afonydd, pyllau, parciau, a
mannau gwyrdd – a fydd yn helpu natur i ffynnu, yn gwella'r amgylchedd, ac yn
cefnogi iechyd a lles pobl.
Fel cam cyntaf yr
uwchgynllun, nod y Cyngor yw mynd i'r afael â phroblemau gorlenwi taer ar y
safle Sipsiwn a Theithwyr presennol ar Ffordd Rover. Ar hyn o bryd, mae 33 o
deuluoedd yn byw ar y safle 21 llain, sydd â mynediad cyfyngedig at
gyfleusterau hanfodol ac sydd wedi’i gyfyngu'n ddifrifol gan ei leoliad wrth
ymyl ffordd brysur.
Yn ei gyfarfod nesaf ar 10
Gorffennaf, bydd y Cabinet yn ystyried argymhelliad i ddatblygu cynigion am
ddarpariaeth dros dro yn Lawnt Pengam, mewn lleoliad sydd eisoes wedi cael ei
nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN). Bydd y safle dros dro yn cael
ei gynllunio'n ofalus i sicrhau bod teuluoedd teithwyr a thrigolion presennol
sy'n byw gerllaw yn cael digon o breifatrwydd a lle. Byddai’n cynnig digon o le
i ddarparu 70 o leiniau gan ganiatáu i'r 33 o deuluoedd adleoli tra bod yr
uwchgynllun ehangach yn cael ei ddatblygu.
Bydd yr uwchgynllun yn
cynnwys gofyniad i ystyried lleoliad parhaol ar gyfer safle Sipsiwn a Theithwyr
ar ochr ddeheuol Ffordd Rover, wedi'i alluogi o bosibl drwy ailgynllunio’r
ffordd yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Dan
De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a
Thrafnidiaeth: “Mae prynu'r tir hwn yn rhoi cyfle i ni ddatblygu uwchgynllun i
ystyried sut i drawsnewid yr ardal ger y dŵr, gan greu swyddi a chyfleoedd
busnes newydd, yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth gwell gyda Bae Caerdydd
a dwyrain y ddinas. Mae'r potensial y gellid ei wireddu ar gyfer y rhan hon o'r
ddinas yn gyffrous iawn. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr uwchgynllun yn dod at
ei gilydd a gweithio i'w wireddu.”
Dywedodd y Cynghorydd Lynda
Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: “Nid yw'r sefyllfa yn Ffordd Rover yn
gynaliadwy mwyach. Mae teuluoedd yn byw mewn amodau gorlawn gyda mynediad
cyfyngedig at gyfleusterau sylfaenol, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Byddai'r
safle newydd arfaethedig hwn yn rhoi'r lle, y diogelwch a'r sefydlogrwydd sydd
eu hangen ar breswylwyr wrth i ni weithio ar ddatrysiad hirdymor sy'n diwallu
anghenion pawb.
“Rydym yn llawn cyffro am y
potensial i drawsnewid y rhan hon o'r ddinas. Ond cyn i ni allu dechrau ar y
darlun ehangach, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y gymuned bresennol yn
ddiogel ac yn cael ei chefnogi. Rydym eisoes wedi dechrau siarad â phreswylwyr
ac mae'n galonogol clywed bod llawer ohonynt yn agored i symud i’r safle
gerllaw.”
Mae cynnydd y cynigion ar
gyfer y safle dros dro yn amodol ar gymeradwyaeth cynllunio a chadarnhad o
gyllid grant. Byddai cynigion yn dychwelyd i'r Cabinet i gymeradwyo
gweithredu’r cynllun maes o law.
Yn yr un cyfarfod ar 10 Gorffennaf, bydd y Cabinet hefyd yn ystyried rhoi sêl bendith i gomisiynu uwchgynllun ar gyfer adfywio Lawnt Pengam. Bydd yr adroddiad ar gael yma: Agenda'r Cabinet- Dydd Iau, 10 Gorffennaf, 2025, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd
Cyn y cyfarfod hwnnw, caiff cyd-bwyllgor Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion a Chraffu’r Amgylchedd ei gynnal ddydd Mercher 9 Gorffennaf. Mae'r agenda ar gael yma: Agenda ar gyfer Cyd-bwyllgorGwasanaethau Cymunedol ac Oedolion a Chraffu’r Amgylchedd ddydd Mercher, 9Gorffennaf, 2025, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd a gellir gwylio'r cyfarfod trwy we-ddarllediad yma: Hafan - Gwe-ddarlledu Cyngor Caerdydd