Yna mae'r dŵr o'r nant yn
llifo trwy dir preifat ger tafarn y Tyllgoed, i'r de ar hyd Lôn Cartwright cyn
cael ei ryddhau i Afon Elái.
Er mwyn sicrhau y gellir
ailosod y cwlfer rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni, bydd lonydd yn cael eu
cau ddydd Mercher (11 Mehefin) ar Heol Sain Ffagan rhwng Lôn Cartwright a Heol
y Tyllgoed am bum wythnos fel y gellir dargyfeirio cyfleustodau.
Pan fydd y cyfleustodau
wedi'u dargyfeirio, bydd Heol Sain Ffagan ar y gyffordd â Lôn Cartwright yn cau
rhwng 25 Gorffennaf a 2 Medi er mwyn gallu ailosod y cwlfer.
Mae trigolion lleol wedi
derbyn llythyr am y cynllun a bydd arwyddion clir yn ael eu gosod i ddangos y
llwybr dargyfeirio lleol ar y stryd trwy Lôn Cartwright, Heol y Bwlch, Heol
Norbury neu Rodfa Doyle.
Dywedodd y Cynghorydd Norma
Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol
yng Nghyngor Caerdydd: “Mae'r cynllun hwn yn cynnwys gwaith hanfodol ar y
briffordd i sicrhau bod dŵr o'r nant yn llifo o dan y ffordd. Oherwydd oedran
yr adeiledd, mae'n rhaid ei ailosod i sicrhau nad yw'n methu.
“Oherwydd yr aflonyddwch
posibl y bydd y gwaith hwn yn ei achosi, mae'r cwlfer yn cael ei ailosod yn
ystod gwyliau'r haf pan fydd llai o draffig ar y rhwydwaith priffyrdd. Mae
llwybr dargyfeirio wedi'i roi ar waith i drigolion lleol deithio o amgylch y gwaith
ac rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau bysiau i leihau'r effaith ar
eu gwasanaethau. Cynghorir y rhai hynny nad ydynt yn byw yn lleol i ddefnyddio
prif lwybrau, fel yr A48, Heol Orllewinol y Bont-faen, Rhodfa'r Gorllewin a
Heol Llantrisant. Hoffai'r cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd tra bod y
gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.”