10/6/2025
Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn croesawu'n gynnes gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn parhau i ariannu'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol dros y tair blynedd nesaf. Mae'r cymorth hanfodol hwn yn sicrhau y gellir parhau i gyflawni'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth (CCAC) ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Fel y sefydliad arweiniol ar gyfer cyflwyno CCAC yn y rhanbarth, mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro wedi defnyddio'r grant cysylltiedig i ailsefydlu ac ehangu ei gyrhaeddiad yn dilyn heriau'r pandemig. Mae'r cyllid wedi galluogi'r gwasanaeth i gryfhau perthynas ag ysgolion, datblygu partneriaethau newydd a chynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy'n ymwneud ag addysg gerdd yn sylweddol.
Ers lansio'r rhaglen Profiadau Cyntaf ym mis Ionawr 2022, mae dros 18,500 o blant ar draws 150 o ysgolion cynradd a lleoliadau wedi elwa o ystod eang o gyfleoedd cerddorol. Mae prosiectau targedig wedi cyflwyno disgyblion i offerynnau a genres nad ydynt wedi bod mor boblogaidd yn hanesyddol, gan gynnwys cyfansoddi digidol gan ddefnyddio GarageBand, llinynnau, telynau, chwythbrennau a thrombôn.
Mae uchafbwyntiau ychwanegol cyflwyno'r CCAC yn cynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r buddsoddiad parhaus hwn mewn addysg gerdd yn gymeradwyaeth bwerus o'r rôl drawsnewidiol y mae cerddoriaeth yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc. Mae'n caniatáu inni adeiladu ar ein llwyddiannau, ehangu mynediad, a sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddarganfod ei lais cerddorol."
I ddarllen yr adroddiad llawn ar gyflawni'r CCAC ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, ewch i:
https://www.cfmusiceducation.co.uk/wp-content/uploads/2025/05/Cerdd-CF-blwyddyn-1-3.pdf