Back
Cyngor Caerdydd yn cynnig ailstrwythuro'i dîm uwch reolwyr i gefnogi arbedion o £800k a chryfhau arweinyddiaeth

05/06/25

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynigion i aildrefnu ei uwch dîm rheoli fel rhan o raglen ehangach o newid sefydliadol gyda'r nod o sicrhau £800,000 mewn arbedion rheoli. 

Er y byddai'r newidiadau arfaethedig yn arwain at gynnydd net o £77,000 yn y gost ar lefel uwch, mae hyn yn cael ei wrthbwyso gan y gwaith parhaus o gyflawni arbedion rheoli eraill. Mae'r cynigion hyn yn allweddol i alluogi arbedion ehangach ac maent wedi'u cynllunio i sicrhau bod y cyngor wedi'i arfogi i gwrdd â'r heriau ariannol a'r heriau gwasanaethau sylweddol sy'n ei wynebu. Bydd yr ailstrwythuro yn cefnogi'r gwaith o gyflawni agenda polisi Cryfach, Tecach, Gwyrddach y cyngor ac yn gwella ei allu i drawsnewid a diwygio. 

Mae'r cynigion yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o drefniadau uwch reoli'r cyngor, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2020. Ers hynny, mae'r strwythur wedi cefnogi ymateb y Cyngor i bandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw, a'r argyfyngau tai a hinsawdd. Fodd bynnag, gyda galw cynyddol a phwysau ariannol, mae'r cyngor wedi cydnabod yr angen i gryfhau arweinyddiaeth mewn meysydd allweddol ac ail-gydbwyso cyfrifoldebau i wella cydlyniant ac effeithlonrwydd.  

Mae data meincnodi yn dangos bod Caerdydd wedi gweithredu'n hanesyddol gydag uwch dîm rheoli ar raddfa mwy darbodus na llawer o'i gymheiriaid. Yn 2020, roedd gan Gaerdydd 13 swyddog ar Haen 2, yn sylweddol is na chyfartaledd y sector cyhoeddus o 25.6 a chyfartaledd y Dinasoedd Craidd o 23.2. Cyfanswm nifer y swyddi uwch reolwyr ar draws Haenau 1 a 2 oedd 19 - ymhell islaw cyfartaledd y sector cyhoeddus sef 31.4 a chyfartaledd y Dinasoedd Craidd sef 28.5. Mae dadansoddiad diweddar yn cadarnhau bod trefniadau presennol Caerdydd bellach yn cyd-fynd yn fras â Dinasoedd Craidd eraill y DU.  

Mae'r ailstrwythuro arfaethedig yn cynnwys:  

  • Creu cyfarwyddiaethau newydd sy'n canolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen, datblygu'r ddinas, a thrawsnewid strategol. 
  • Ail-ddynodi ac ail-alinio swyddi presennol i wella integreiddio gwasanaethau a ffocws yr arweinyddiaeth; 
  • Sefydlu swyddi newydd i gryfhau capasiti mewn meysydd allweddol fel cynllunio, trafnidiaeth a phartneriaethau.  

Bwriad y newidiadau hyn yw:  

  • Gwella cydlynu ar draws datblygu economaidd, adfywio, a gwasanaethau amgylcheddol; 
  • Cynyddu gallu sefydliadol i gyflawni rhaglen newid a diwygio'r Cyngor;  
  • Cefnogi cynllunio olyniaeth a datblygu talent o fewn yr uwch dîm arwain. 

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng. Chris Weaver: "Mae'r ailstrwythuro hwn yn ymwneud â sicrhau bod ein harweinyddiaeth yn addas i'r dyfodol. Bydd yn ein helpu i reoli newid, sicrhau effeithlonrwydd ehangach, ac ymateb i'r heriau cymhleth sy'n wynebu llywodraeth leol. Mae'r cynigion hyn yn rhan angenrheidiol o ail-alinio ehangach i arbed £800,000 ar y lefel reoli ac i gryfhau ein gallu i wasanaethu pobl Caerdydd." 

Mae'r cynigion yn cynnwys:  

  • Dileu tair rôl: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd; Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strydlun; a Phennaeth Perfformiad a Phartneriaethau. 
  • Creu pedair rôl newydd: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng flaen; Cyfarwyddwr Strategaeth, Partneriaethau a Thrawsnewid; Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu'r Ddinas; a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio a Thrafnidiaeth. 
  • Ailddynodi un swydd bresennol: Bydd rôl Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd yn dod yn Gyfarwyddwr Datblygu a Thwf 

Mae'r cynigion yn destun ymgynghori â staff a effeithir a'r undebau llafur. Bydd argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi 2025.