Cafodd perchennog Fisher Convenience Store ar Heol Llanfihangel ei
ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener diwethaf (Mawrth 28) am fethu â
gweithredu, ar ôl i Hysbysiad Atal Sŵn gael ei gyflwyno ar yr eiddo ar 31 Mai,
2023.
Daeth yr achos i'r amlwg yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd bod y sŵn yn
dod o'r uned oergell yn ormodol ac yn achosi niwsans i drigolion.
Ymwelodd swyddogion o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ag eiddo'r
preswylydd ar 7 Chwefror 2024 a 29 Mai 2024 i asesu'r lefelau sŵn i benderfynu
a oedd y sŵn yn 'Niwsans Sŵn Statudol'.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r cyngor ymchwilio i'r holl 'Niwsans Sŵn
Statudol' ac unwaith y bydd yr hysbysiad yn cael ei gyhoeddi, ac os nad yw'r
sŵn yn cael ei 'leihau' yn yr amserlen a roddir gan yr awdurdod, mae ganddo'r
opsiwn i gymryd camau gorfodi yn erbyn y troseddwr os nad yw'r lefelau sŵn yn
cael eu gostwng.
Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y
Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: "Mae swyddogion yn ymchwilio i filoedd o
gwynion ynghylch niwsans sŵn ledled y ddinas. Rydym bob amser yn edrych i
weithio gyda'r cyhoedd a busnesau lle bynnag y bo modd i ddatrys y cwynion hyn
cyn i unrhyw gamau ffurfiol gael eu cymryd.
"Yn yr achos hwn, doedd y busnes ddim yn
gweithio gyda ni i leihau'r sŵn sy'n dod o'u busnes, felly nid oedd gan y
cyngor unrhyw opsiwn arall na mynd â'r mater i'r llys. Mae lefel y ddirwy yn yr
achos hwn, yn dangos yn glir y gall fod yn rhatach trwsio'r bai, yn hytrach
na'i anwybyddu, gan nad yn unig mae'r busnes hwn bellach yn gorfod talu'r ddirwy
a osodwyd gan y llys ond hefyd i dalu i drwsio'r uned oergell hefyd."
I gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am
gŵyn am sŵn, ewch i wefan GRhR yma i roi'r
wybodaeth.