Back
Mae mwy na 1,800 o ddisgyblion yn disgleirio mewn arddangosfa gerddorol ysblennydd diolch i wersi am ddim

 

4/3/2025

Mae disgyblion blwyddyn tri o ysgolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg wedi bod yn derbyn gwersi cerddoriaeth am ddim gan ddefnyddio offerynnau pBuzz, llais a chwythbrennau, yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r fenter hon yn rhan o'r ymdrechion ehangach i wella addysg gerddoriaeth a darparu profiadau cyfoethogi i ddysgwyr ifanc.

Uchafbwynt rhaglen eleni yw dathliad y Profiadau Cyntaf, a arweiniodd at weithdy a pherfformiad torfol. Daeth y digwyddiad â dros 1,800 o ddisgyblion o 39 o ysgolion at ei gilydd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, lle gwnaethant arddangos eu doniau cerddorol trwy chwarae a chanu'n ddwyieithog, yng nghwmni band jazz proffesiynol byw a chantorion o Addysg Gerdd CF (Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg gynt).

Mae'r fenter wedi cael ei chefnogi gan y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth (CCAC) a'i chyflwyno gan diwtoriaid a cherddorion proffesiynol Addysg Gerdd CF. Mae'r rhaglen yn cynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer athrawon, y cyfeirir ati'n gyffredin fel Dysgu Proffesiynol, a gweithdai ysgol. Mae'r ymdrechion hyn wedi rhoi hwb sylweddol i hyder athrawon wrth ddefnyddio caneuon a darnau o Charanga, gyda chefnogaeth adnoddau dosbarth comisiynu Addysg Gerdd CF.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym wedi ymrwymo i wella addysg gerddoriaeth a meithrin cariad at gerddoriaeth ymhlith dysgwyr ifanc. Rhan bwysig o hyn yw cefnogiysgolion ac athrawon i roi cyfleoedd cyffrous i blant a phobl ifanc brofi llawenydd creu cerddoriaeth, yn y Cwricwlwm i Gymru.

"Mae'r dathliad Profiadau Cyntaf yn arddangos doniau rhai o'n plant ieuengaf a gwaithAddysg Gerddor CF wrth gynnal gwersi cerddoriaeth, ensembles, perfformiadau, dysgu proffesiynol, a llyfrgell offerynnau cerdd i ysgolion a chymunedau ledled Caerdydd a Bro Morgannwg."

Ers mis Hydref 2024, mae dros 71 o ysgolion wedi cymryd rhan yn sesiynau DPP am ddim Addysg Gerdd CF neu wedi derbyn gweithdai neu hyfforddiant pBuzz, Celfyddydau Mynegiannol a Cherddoriaeth. Mae'r rhaglen hefyd wedi darparu hyfforddiant ysgol gyfan ar y'Llwyfan Cerddoriaeth Ddigidol Charanga Cymru'.

Mae Addysg Gerdd CF yn cynnig ystod gynhwysfawr o wersi cerddoriaeth, ensembles, perfformiadau, cyfleoedd dysgu proffesiynol, a llyfrgell offerynnau cerdd ar gyfer ysgolion a chymunedau. Mae'r gwasanaeth wedi cael newidiadau trawsnewidiol sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys creu swyddi arweinyddiaeth newydd, tîm swyddfa estynedig, a lansio mentrau amrywiol fel system bilio rhiant newydd, cynllun benthyciad offerynnau, stiwdio recordio a chynhyrchu cerddoriaeth a system gyfathrebu newydd.

Ym mis Medi 2024, lansiodd Addysg Gerdd CF 'Academi' Cerddoriaeth CF i gefnogi'r dysgwyr mwyaf abl a thalentog mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a thiwtoriaid o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'r ymdrechion hyn wedi arwain at fwy o fynediad at addysg gerddoriaeth i blant a phobl ifanc, gwella perthnasoedd ag ysgolion, a chryfhau partneriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, a lansiwyd ym mis Medi 2021, wedi darparu gweledigaeth glir ac adnoddau ychwanegol i gefnogi prosiectau cerddoriaeth ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r rhaglen Profiadau Cyntaf ei hun wedi rhoi profiadau cerddorol i dros 18,504 o blant oedran ysgol gynradd ers mis Ionawr 2022, gan gynnig cyfleoedd i archwilio ystod eang o offerynnau a chymryd rhan mewn gweithdai amrywiol, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u cynllunio ar gyfer ysgolion a lleoliadau arbennig.