1.4.25
Bydd Castell Caerdydd yn cynnal picnic dathlu arbennig, ac mae trigolion yn cael eu hannog i gynnal partïon stryd i goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn ddiweddarach eleni.
Cardiff Castle.
Mae'r digwyddiad am ddim hwn, ddydd Llun Gŵyl y Banc ar 5 Mai, yn rhan o ymgyrch Gŵyl Fwyd Prydain Fawr. Dan arweiniad Together Coalition, nod yr ymgyrch yw dod â chymunedau ledled Cymru a'r DU at ei gilydd i nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gyda pharti stryd, picnic yn eu parc lleol, neu drwy ymuno â digwyddiad cymunedol lleol.
Bydd y picnic, sy'n cael ei drefnu gan Gyngor Caerdydd a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal ym man agored cyhoeddus y Castell rhwng 11am a 5pm.
Bydd y digwyddiad sy'n addas i deuluoedd yn cynnwys amrywiaeth o adloniant am ddim. Disgwyliwch gerddoriaeth o'r llwyfan bandiau, diddanwyr yn crwydro'r maes gan gynnwys sioeau syrcas a phypedau yn ogystal â gweithgareddau crefft i blant. Nid oes angen tocynnau - galwch heibio i fwynhau'r hwyl.
Diddanwyr ar grwydr, The Cake Ladies.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn nodi diwedd bron i chwe blynedd o ryfel, ar draul bywyd miliynau o bobl. Mae'n ddigwyddiad arwyddocaol yn ein hanes ac yn un y dylid ei ddathlu.
"Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn gyfle gwych i bobl fachu blanced, pacio picnic a dod ynghyd, mewn heddwch ac undod gyda'u ffrindiau a'u teulu, i fwynhau diwrnod hwyl a chyfeillgar i'r teulu gyda'i gilydd."
Gall trigolion Caerdydd hefyd gyflwyno ceisiadau i gynnal partïon stryd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop dros Benwythnos Gŵyl y Banc cyntaf ym mis Mai.
Gellir gwneud ceisiadau parti stryd trwy e-bostioRheoliRhwydweithiau@caerdydd.gov.ukcyn 22 Ebrill 2025. Bydd yn rhaid i bob ffordd sy'n cael ei chau fodloni gwiriadau diogelwch. Dim ond os yw'n bodloni'r gwiriadau hyn y gellir ei awdurdodi.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drafnidiaeth, Newid yn yr Hinsawdd a Chynllunio Strategol, "Yn sgil setliad cyllidebol mwy ffafriol, rydym wedi gallu rhoi cyllid untro o'r neilltu yn y flwyddyn ariannol hon (o fis Ebrill) sy'n caniatáu i'r cyngor hepgor y costau sy'n gysylltiedig â chau ffyrdd ar gyfer partïon stryd cymunedol Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, cyhyd â bod y digwyddiad yn anfasnachol ei natur, hynny yw, ar yr amod nad oes unrhyw gynhyrchion nac adloniant yn cael eu gwerthu i fynychwyr.
"Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn meithrin ymdeimlad o undod ac ysbryd cymunedol wrth i ni goffáu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Edrychwn ymlaen at benwythnos gwych llawn gweithgareddau a chofio, gan anrhydeddu'r rhai a aberthodd eu bywydau dros ein rhyddid."