Back
Agor ardal chwarae 'naturiol' newydd ym Mharc y Sanatoriwm

1.4.25

Mae ardal chwarae 'naturiol' newydd ym Mharc y Sanatoriwm yng Nghaerdydd wedi agor i'r cyhoedd yn swyddogol.

Gyda thwmpath glaswelltog newydd 3 metr o uchder yn ganolog iddo, mae'r ardal chwarae yn cynnwys tair sleid, yn ogystal â llwyfannau dringo, troellwr 'aero tilt', troellwr 'roto roko' hygyrch, rowndabowt hygyrch i gadeiriau olwyn, dwy siglen iau newydd, siglen fasged, ac amrywiaeth o nodweddion chwarae naturiol eraill fel dringo meini mawr a thwneli.

A park with a slide and benchesAI-generated content may be incorrect.

Yr ardal chwarae newydd ym Mharc Sanatorium. Llun: Cyngor Caerdyddl

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae angen i blant chwarae yn yr awyr agored, mae'n allweddol i'w datblygiad ac rwy'n gobeithio y byddan nhw i gyd yn cael amser gwych yn archwilio ardal chwarae newydd Parc y Sanatoriwm.

"Mae cyfleusterau chwarae lleol fel hyn, sydd o ansawdd da, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch, yn bwysig iawn i rieni, yn enwedig ar adeg pan mae arian yn brin i lawer, a dyna pam rydyn ni'n parhau i uwchraddio cyfleusterau ledled Caerdydd."

Er bod yr holl offer chwarae ar gael i'w ddefnyddio, bydd rhan fach o'r ardal chwarae yn parhau i fod wedi'i ffensio dros dro i ganiatáu amser i laswellt sefydlu.