1.4.25
Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn dathlu ei 25ain pen-blwydd heddiw (1 Ebrill 2025).
I ddathlu, mae'r cyhoedd yn cael cynnig cyfle i gael gwybod mwy am y bobl 'Y Tu ôl i'r Bae' mewn arddangosfa ffotograffiaeth arbennig a fydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd o ddydd Llun 26 Mai tan ddiwedd yr haf, cyn symud i'r Eglwys Norwyaidd.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys lluniau trawiadol y mae'r ffotograffydd teithio a dogfennol Nick Pumphrey wedi'u tynnu o staff sy'n gweithio i Gaerdydd i reoli'r gwaith o weithredu morglawdd Bae Caerdydd, sicrhau mordwyo diogel i gychod, monitro ansawdd dŵr, cysylltu â busnesau a chymunedau lleol, a gofalu am Warchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd ac Ynys Echni.
Dan yr enfys: mae tîm yr amgylchedd wrth eu gwaith. Llun: Nick Pumphrey
Mae gweithredu llifddorau'r Morglawdd yn broses hollbwysig. Mae'r tîm yn dehongli data llif o afonydd Elái a Thaf. Gan ddefnyddio'r data hwn, maen nhw'n gwneud penderfyniadau o ran pa gyfuniadau agor y llifddorau sydd eu hangen i gynnal lefel y Bae. Llun: Nick Pumphrey
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am Awdurdod Harbwr Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Mae Bae Caerdydd yn rhan mor fawr o'r ddinas ac mae'r tîm yn Awdurdod Harbwr Caerdydd wedi bod yn gweithio i Gaerdydd 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn am y 25 mlynedd diwethaf i'w reoli, ei weithredu a'i gynnal.
"Mae hynny'n rhywbeth sy'n werth ei ddathlu a byddwn yn annog pobl yn ystod blwyddyn y pen-blwydd hwn i edrych 'Y Tu ôl i'r Bae' ar y staff gweithgar sy'n helpu i wneud Bae Caerdydd yr hyn ydyw heddiw."
Tim a Dave o'r tîm amgylchedd yn adfer sonde (offeryn ansawdd dŵr) safle 34. Llun: Nick Pumphrey
Crëwyd rhaglen brentisiaeth yn 2015. Mae dau o'r prentisiaid wedi ennill rolau peirianneg llawn amser yn y Morglawdd. Llun: Nick Pumphrey
Bydd dathliadau'r 25ain pen-blwydd yn parhau trwy gydol y flwyddyn a bydd hefyd yn cynnwys:
I gael mwy o wybodaeth am Awdurdod Harbwr Caerdydd a'i gynlluniau i ddathlu 25 mlynedd, ewch i: https://www.harbwrcaerdydd.com/