27/03/25 - Tri Enwebiad am Wobrau Effaith Ddiwylliannol 2025
Mae Tîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd wrth
eu bodd o gyhoeddi cyflawniad rhyfeddol, ar ôl derbyn tri enwebiad yng Ngwobrau
Effaith Ddiwylliannol 2025. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo gyntaf yn Porters,
Caerdydd, gan ddathlu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol sy'n effeithio'n
gadarnhaol ar ansawdd bywyd yn y gymuned.
Menter Greadigol y
Flwyddyn:Enwebwyd Bradley Rmer One, Yusuf Ismail,
a Shawqi Hasson o Unify Creative am eu gwaith rhagorol ar brosiect Tanffordd
Gabalfa. Fe wnaeth y prosiect cydweithredol hwn â Gwasanaethau Ieuenctid
Caerdydd a Phrosiect Celf y Ddinas drawsnewid tanffordd Cyfnewidfa Gabalfa yn
ofod diogel a bywiog, gan hybu ymdeimlad o hunaniaeth a balchder ymhlith
trigolion lleol.
Prosiect Cymunedol ac
Addysg:Enwebwyd Gigs Bach, sy'n rhan o strategaeth Dinas
Gerdd Caerdydd, am eu hymdrechion i gefnogi artistiaid a bandiau ifanc. Mae'r
fenter eisoes wedi gweld 50 o fandiau yn perfformio ar lwyfannau yn ninas
Caerdydd, gan ddarparu platfform i dalent ifanc ddod o hyd i'w lleisiau yn y
sîn gerddoriaeth.
Creadigrwydd Anabl:
Cafodd Alex Rees a Gwennan Ruddock o UCAN Productions eu cydnabod am gyflwyno
eu rhaglen Gwobr y Celfyddydau ragorol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
(ADY), gan ennill y wobr ‘Creadigrwydd Anabl' yng Ngwobrau Effaith
Ddiwylliannol ‘Get the Chance'. Mae'r rhaglen, a ddechreuodd fel cynllun peilot
gyda deg o ddysgwyr ag amhariadau ar eu golwg, wedi tyfu i gefnogi 50 o
ddysgwyr ag ADY ac amhariadau ar eu golwg, gan eu helpu i feithrin hyder,
datblygu sgiliau cyfathrebu, a gwneud ffrindiau parhaol.
25/03/25 - Dathlu'r Gymraeg drwy lyfrau plant
Mae disgyblion o ddeg ysgol gynradd
cyfrwng Saesneg wedi dod at ei gilydd i ddathlu'r Gymraeg drwy rannu llyfrau y
maen nhw wedi eu creu.
Roedd y prosiect cydweithredol yn cynnwys
rhannu llyfrau sydd wedi'u cynllunio a'u creu gan blant i blant, gyda'r nod o
helpu eu cyfoedion i ddysgu geirfa Gymraeg a chryfhau eu sgiliau Cymraeg, gan
helpu i feithrin cariad at ddarllen a dysgu Cymraeg ymhlith plant. Mae llawer
o'r llyfrau yn ddigidol a byddant yn dod yn rhan o restr chwarae Hwb i bob
ysgol ei defnyddio fel adnodd digidol.
21/03/25 - Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi casgliadau gwastraff gardd drwy gydol y flwyddyn
Mae Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi
newid mawr yn ei wasanaethau rheoli gwastraff - bydd casgliadau gwastraff gardd
bob pythefnos nawr yn digwydd drwy gydol y flwyddyn.
Ailddechreuodd casgliadau
gwastraff gardd ledled y ddinas yr wythnos hon ar ôl egwyl y gaeaf, ond bydd
trigolion bellach yn gallu rhoi eu gwastraff gardd allan i’w gasglu bob
pythefnos am 50 wythnos o'r flwyddyn. Mae hynny'n golygu 25 casgliad gwastraff gardd
y flwyddyn - i fyny o 18 y flwyddyn.
Bydd y gwasanaeth yn oedi am
bythefnos dros y Nadolig i ailgyfeirio adnoddau a rheoli'r swm cynyddol o
ailgylchu a achosir gan dymor y Nadolig.