Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 28 Mawrth 2025
 28/03/25

 

Dirwy o £16,000 i fwyty yng Nghaerdydd am bla cnofilod

 Mae bwyty yng Nghaerdydd wedi cael dirwyon o £16,000 ar ôl i arolygwyr ddarganfod pla llygod byw a nifer o achosion o dorri rheolau hylendid bwyd.

Roedd Lake Spice Curry House, sydd wedi'i leoli ar Heol Orllewinol y Llyn yng Nghyncoed, a'i berchennog, Mamun Miah, yn wynebu erlyniad am fethu â rheoli'r pla a chynnal safonau hylendid priodol.

Daeth y materion i'r amlwg yn ystod arolygiad gan Arolygwyr Hylendid Bwyd o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar 21 Medi 2023.

Canfu arolygwyr fod y cyfleusterau storio yn llawn llygod, ac roedd cynllun, dyluniad, adeiladwaith, lleoliad a maint y bwyty yn annigonol ar gyfer cynnal arferion hylendid da.

Yn ogystal, nid oedd y safle yn lân nac yn cael ei gynnal yn dda.

Mwy yma:  https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/35194.html

Dathlu Llwyddiannau Caerdydd: Tri Enwebiad am Wobrau Effaith Ddiwylliannol 2025

Mae Tîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd wrth eu bodd o gyhoeddi cyflawniad rhyfeddol, ar ôl derbyn tri enwebiad yng Ngwobrau Effaith Ddiwylliannol 2025. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo gyntaf yn Porters, Caerdydd, gan ddathlu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd bywyd yn y gymuned.

Menter Greadigol y Flwyddyn: Enwebwyd Bradley Rmer One, Yusuf Ismail, a Shawqi Hasson o Unify Creative am eu gwaith rhagorol ar brosiect Tanffordd Gabalfa. Fe wnaeth y prosiect cydweithredol hwn â Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd a Phrosiect Celf y Ddinas drawsnewid tanffordd Cyfnewidfa Gabalfa yn ofod diogel a bywiog, gan hybu ymdeimlad o hunaniaeth a balchder ymhlith trigolion lleol.

Prosiect Cymunedol ac Addysg: Enwebwyd Gigs Bach, sy'n rhan o strategaeth Dinas Gerdd Caerdydd, am eu hymdrechion i gefnogi artistiaid a bandiau ifanc. Mae'r fenter eisoes wedi gweld 50 o fandiau yn perfformio ar lwyfannau yn ninas Caerdydd, gan ddarparu platfform i dalent ifanc ddod o hyd i'w lleisiau yn y sîn gerddoriaeth.

Creadigrwydd Anabl: Cafodd Alex Rees a Gwennan Ruddock o UCAN Productions eu cydnabod am gyflwyno eu rhaglen Gwobr y Celfyddydau ragorol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan ennill y wobr ‘Creadigrwydd Anabl' yng Ngwobrau Effaith Ddiwylliannol ‘Get the Chance'. Mae'r rhaglen, a ddechreuodd fel cynllun peilot gyda deg o ddysgwyr ag amhariadau ar eu golwg, wedi tyfu i gefnogi 50 o ddysgwyr ag ADY ac amhariadau ar eu golwg, gan eu helpu i feithrin hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu, a gwneud ffrindiau parhaol.

Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/35198.html

Cau ffyrdd ar gyfer gêm Cymru v Lloegr yn 6 Gwlad y Merched yng Nghaerdydd ar 29 Mawrth

 Bydd Cymru’n wynebu Lloegr yn nhwrnamaint 6 Gwlad y Merched yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 29 Mawrth.

Gyda'r gic gyntaf am 4.45pm, bydd rhai o’r ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau o 1.45pm tan 8.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o’r stadiwm yn ddiogel.

Bydd y gatiau'n agor am 3.15pm, a chynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/35192.html

Dathlu'r Gymraeg drwy lyfrau plant

Mae disgyblion o ddeg ysgol gynradd cyfrwng Saesneg wedi dod at ei gilydd i ddathlu'r Gymraeg drwy rannu llyfrau y maen nhw wedi eu creu. 

Roedd y prosiect cydweithredol yn cynnwys rhannu llyfrau sydd wedi'u cynllunio a'u creu gan blant i blant, gyda'r nod o helpu eu cyfoedion i ddysgu geirfa Gymraeg a chryfhau eu sgiliau Cymraeg, gan helpu i feithrin cariad at ddarllen a dysgu Cymraeg ymhlith plant. Mae llawer o'r llyfrau yn ddigidol a byddant yn dod yn rhan o restr chwarae Hwb i bob ysgol ei defnyddio fel adnodd digidol.

Daeth y prosiect i ben gyda digwyddiad unigryw a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng nghanol Caerdydd. Mynychodd pedwar o blant o bob ysgol a gymerodd ran, y barnwyd eu bod wedi cynhyrchu'r llyfr gorau yn eu lleoliad nhw. Roedd y dathliad yn cynnwys balwnau, bagiau nwyddau, taith o amgylch orielau yr amgueddfa, a chyfle i'r plant rannu eu gwaith gydag eraill.

Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/35186.html