Back
Dathlu Llwyddiannau Caerdydd: Tri Enwebiad am Wobrau Effaith Ddiwylliannol 2025

 27/3/2025

Mae Tîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd wrth eu bodd o gyhoeddi cyflawniad rhyfeddol, ar ôl derbyn tri enwebiad yng Ngwobrau Effaith Ddiwylliannol 2025. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo gyntaf yn Porters, Caerdydd, gan ddathlu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd bywyd yn y gymuned.

Menter Greadigol y Flwyddyn:Enwebwyd Bradley Rmer One, Yusuf Ismail, a Shawqi Hasson o Unify Creative am eu gwaith rhagorol ar brosiect Tanffordd Gabalfa. Fe wnaeth y prosiect cydweithredol hwn â Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd a Phrosiect Celf y Ddinas drawsnewid tanffordd Cyfnewidfa Gabalfa yn ofod diogel a bywiog, gan hybu ymdeimlad o hunaniaeth a balchder ymhlith trigolion lleol.

Prosiect Cymunedol ac Addysg:Enwebwyd Gigs Bach, sy'n rhan o strategaeth Dinas Gerdd Caerdydd, am eu hymdrechion i gefnogi artistiaid a bandiau ifanc. Mae'r fenter eisoes wedi gweld 50 o fandiau yn perfformio ar lwyfannau yn ninas Caerdydd, gan ddarparu platfform i dalent ifanc ddod o hyd i'w lleisiau yn y sîn gerddoriaeth.

Creadigrwydd Anabl: Cafodd Alex Rees a Gwennan Ruddock o UCAN Productions eu cydnabod am gyflwyno eu rhaglen Gwobr y Celfyddydau ragorol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan ennill y wobr ‘Creadigrwydd Anabl' yng Ngwobrau Effaith Ddiwylliannol ‘Get the Chance'. Mae'r rhaglen, a ddechreuodd fel cynllun peilot gyda deg o ddysgwyr ag amhariadau ar eu golwg, wedi tyfu i gefnogi 50 o ddysgwyr ag ADY ac amhariadau ar eu golwg, gan eu helpu i feithrin hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu, a gwneud ffrindiau parhaol.

Gweledigaeth y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg sy'n llywio allbwn creadigol Tîm y Cwricwlwm, ac fe fynegodd hi ei balchder yn y cyflawniadau: "Mae wedi bod yn gymaint o bleser gweld y nifer enfawr o raglenni cymunedol ac addysgol yn digwydd ar draws y ddinas. Gan dynnu at ein gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc trwy greadigrwydd.

"Rydyn ni'n hynod falch o ddathlu'r enwebiadau hyn, sy'n adlewyrchu creadigrwydd ac ymroddiad ein Tîm Cwricwlwm a chefnogaeth amhrisiadwy ein partneriaid Addewid Caerdydd. Gyda'i gilydd, caiff profiadau bythgofiadwy eu cynnig i ddysgwyr sy'n cyfoethogi'r cwricwlwm ac yn agor drysau i yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol."

Mae Tîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd yn diolch o galon i Get the Chance am gynnal noson mor wych o ddathlu. Llongyfarchiadau i'r holl ysgolion a phartneriaid a gafodd eu henwebu am eu cyfraniadau i gelf, diwylliant a threftadaeth, gan gynnwys Ruth Wiltshire o Ysgol Gynradd Sant Paul a Samea Ahmed o Ysgol Gynradd Mount Stuart.