Back
Dirwy o £16,000 i fwyty yng Nghaerdydd am bla cnofilod
 27/03/25

 Mae bwyty yng Nghaerdydd wedi cael dirwyon o £16,000 ar ôl i arolygwyr ddarganfod pla llygod byw a nifer o achosion o dorri rheolau hylendid bwyd.

Roedd Lake Spice Curry House, sydd wedi'i leoli ar Heol Orllewinol y Llyn yng Nghyncoed, a'i berchennog, Mamun Miah, yn wynebu erlyniad am fethu â rheoli'r pla a chynnal safonau hylendid priodol.

Daeth y materion i'r amlwg yn ystod arolygiad gan Arolygwyr Hylendid Bwyd o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar 21 Medi 2023.

Canfu arolygwyr fod y cyfleusterau storio yn llawn llygod, ac roedd cynllun, dyluniad, adeiladwaith, lleoliad a maint y bwyty yn annigonol ar gyfer cynnal arferion hylendid da.

Yn ogystal, nid oedd y safle yn lân nac yn cael ei gynnal yn dda.

Plediodd Mr Miah yn euog i bob cyhuddiad yn Llys Ynadon Caerdydd ar 19 Mawrth 2025. I linaru, dadleuodd ei gyfreithiwr nad oedd unrhyw halogiad yn y bwyd neu yn yr ardaloedd paratoi bwyd, dim ond yn yr ardaloedd storio, a bod ymdrechion wedi'u gwneud i fynd i’r afael â’r pla, ond nid oedd y rhain yn ddigon i fodloni’r gofynion.

Pwysleisiodd y Cynghorydd Norma Mackie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd, bwysigrwydd hylendid bwyd ar gyfer diogelwch y cyhoedd, gan ddweud, “Roedd maint y pla yn y busnes hwn yn sylweddol, ac roedd yr ymdrechion a gymerwyd gan y diffynnydd i ddelio â'r broblem yn annigonol. Dylai, a gallai, llawer mwy fod wedi cael ei wneud i unioni'r methiannau.”

Nododd y barnwr fod elw yn cael ei flaenoriaethu dros ddiogelwch, a allai fod wedi arwain at oblygiadau difrifol i iechyd cwsmeriaid. Rhybuddiodd y byddai dedfryd o garchar ar unwaith yn briodol os caiff Mr Miah ei alw gerbron y llys eto am droseddau tebyg.

Cafodd Lakeside Restaurant Limited ddirwy o £10,000, ei orchymyn i dalu £877 mewn costau, a gordal dioddefwr o £2,000. Cafodd Mamun Miah ddirwy o £2,000, ei orchymyn i dalu costau o £877, gyda gordal dioddefwr o £500.