Ailddechreuodd casgliadau
gwastraff gardd ledled y ddinas yr wythnos hon ar ôl egwyl y gaeaf, ond bydd
trigolion bellach yn gallu rhoi eu gwastraff gardd allan i’w gasglu bob
pythefnos am 50 wythnos o'r flwyddyn. Mae hynny'n golygu 25 casgliad gwastraff gardd
y flwyddyn - i fyny o 18 y flwyddyn.
Bydd y gwasanaeth yn oedi
am bythefnos dros y Nadolig i ailgyfeirio adnoddau a rheoli'r swm cynyddol o
ailgylchu a achosir gan dymor y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Norma
Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol,
ei bod yn falch iawn o allu ehangu’r gwasanaeth: "Rydym yn buddsoddi yn y
gwasanaethau hyn ar ôl gwrando ar adborth gan ein trigolion. Fe wnaethon nhw
ofyn ac rydyn ni'n cyflawni ar eu cyfer. Mae'r setliad cyllideb gwell a gafwyd
gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i wneud hyn, ac rwy'n hapus iawn ein bod
yn gallu gwneud y newidiadau hyn. Bydd hyn yn helpu trigolion gyda chlirio dail
- sy'n dod yn fwy anwadal bob blwyddyn oherwydd newid hinsawdd - a bydd hefyd
yn helpu'r garddwyr brwd hynny sy’n gweld eu gerddi yn para am gyfnod hirach yn
yr hydref ac yna'n dechrau’n gynharach yn y gwanwyn.
"Ein gobaith yw y bydd
hyn yn cefnogi garddwyr brwd ac yn gwella ailgylchu gwastraff gardd ar yr un
pryd. Caerdydd yw un o'r dinasoedd gorau yn y byd am ailgylchu ac mae
casgliadau gwastraff gardd yn helpu'r ddinas i gyrraedd ei thargedau ailgylchu,
ond mae'n bwysig bod trigolion yn defnyddio'r gwasanaeth yn y ffordd gywir, gan
ailgylchu'r deunyddiau cywir yn unig. Er mwyn sicrhau bod ein compost o ansawdd
uchel, gofynnaf i bawb roi gwastraff gardd organig yn unig yn eu biniau.
Symudwch unrhyw eitemau nad ydynt yn wastraff gardd cyn eu casglu a'n helpu i
wthio Caerdydd hyd yn oed yn uwch i fyny'r siartiau ailgylchu."
Rydym hefyd yn atgoffa
trigolion na fydd unrhyw wastraff ychwanegol sy'n cael ei adael wrth ymyl
cynwysyddion yn cael ei gasglu. Dilynwch y canllawiau hyn i helpu'r Cyngor i
sicrhau proses gasglu sy’n rhwydd ac effeithlon.
Mae eitemau gwastraff gardd
a dderbynnir yn cynnwys:
Eitemau na ellir eu derbyn: