20/3/2025
Mae ymrwymiad Cyngor Caerdydd i ddarparu gwasanaethau o safon i bobl ag anableddau dysgu wedi'i amlinellu mewn strategaeth newydd.
Mae'r Strategaeth Byw'n Dda gydag Anabledd Dysgu i Oedolion 2024-2029 yn nodi cyfeiriad clir wrth gyflawni blaenoriaethau lleol tra'n cyd-fynd yn llawn â chynlluniau partneriaeth ranbarthol, deddfwriaeth genedlaethol a chynllun corfforaethol Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor.
Y weledigaeth yw Hyrwyddo Annibyniaeth a Gwella Bywydau ac mae pedair egwyddor y mae'r strategaeth yn canolbwyntio arnynt:
Mae'r weledigaeth a'r strategaeth wedi cymryd y blaenoriaethau a nodir yn y Strategaeth Gydgomisiynu a ddatblygwyd yn 2019 gan Gyngor Caerdydd ac ystod o bartneriaid gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid y trydydd sector.
Fe'i dyluniwyd mewn cydweithrediad â phobl sydd wedi profi gwasanaethau ac mae'n amlinellu'r weledigaeth a rennir a'r egwyddorion craidd sy'n sylfaenol i ddyluniad a darpariaeth gwasanaethau.
Mae Caerdydd yn cefnogi'r Strategaeth Gydgomisiynu yn llwyr, fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd y gwasanaethau hyn a'r ystod o fentrau newydd sydd eu hangen i ddiwallu anghenion y grŵp poblogaeth hwn, datblygwyd Strategaeth Byw'n Dda gydag Anabledd Dysgu i Oedolion 2024-2029 er mwyn pwysleisio ymrwymiadau Caerdydd i ddarparu gwasanaethau lleol o safon i bobl ag anableddau dysgu sy'n cefnogi pob unigolyn i fyw bywydau llawn.
Mae'r prif nodau yn cynnwys:
Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu cyfleoedd i gefnogi annibyniaeth, mae'r strategaeth yn cynnwys cynigion ar gyfer Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth newydd wedi'i leoli yn Llaneirwg, yn amodol ar gyllid grant. Mae gwasanaethau dydd yn rhan hanfodol o'r system gymorth leol, gan alluogi'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth i gael eu cefnogi o fewn y gymuned a byddai'r ddarpariaeth newydd yn helpu i gwrdd â'r galw cynyddol. Wedi'i ddarparu mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Bae Abertawe a Chaerdydd a'r Fro, byddai cyfleuster newydd sbon sy'n addas i'r diben yn darparu gwasanaethau aml-asiantaeth ar y safle i ddefnyddwyr gwasanaeth ag anghenion uchel.
Mae'r strategaeth yn amlinellu'r nod o ymwreiddio'r ymagwedd Agos i Adref. Mae rhaglen lety pum mlynedd wedi'i datblygu mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol a fydd yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth eraill i barhau i fyw yn eu cymunedau.
Dwedodd y Cynghorydd Leonora Thomson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Mae'r strategaeth hon yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o safon i bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae wedi'i chynllunio i gefnogi unigolion ag anableddau dysgu, gan sicrhau bod ganddynt gyfleoedd cyfartal i lwyddo yn eu hymdrechion academaidd, personol a phroffesiynol ac yn tanlinellu ein hymroddiad i greu amgylchedd lle gall pob unigolyn ffynnu, waeth beth fo'r heriau y gallent eu hwynebu.
"Trwy wrando ar bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, a gofalwyr, rydym yn deall yr angen i bob gwasanaeth gydweithio gan gynnwys gofal cymdeithasol, tai, iechyd, addysg, a'r trydydd sector. Trwy'r cydweithrediad hwn rydym yn anelu at ddatblygu gwasanaethau sy'n darparu ymyrraeth gynnar, atal argyfyngau, ac sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
"Byddwn yn cyflawni hyn mewn partneriaeth â phobl ag anableddau dysgu, sef yr arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain. Datblygwyd cynllun cyflawni cysylltiedig, sy'n cynnwys camau gweithredu penodol gydag amserlenni ar gyfer pob ymrwymiad. Mae'r cynllun cyflawni yn ddogfen fyw a bydd yn cael ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau mewn blaenoriaethau ac amgylchiadau wrth iddynt godi. Mae wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg ac yn cynnwys camau gweithredu y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt gael eu cyflawni."
"Hoffwn hefyd estyn fy niolch i'n holl bartneriaid sydd wedi cyfrannu at y strategaeth hon".
Argymhellir bod Cabinet Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo'r strategaeth, a datblygu Canolfan Ddydd Anghenion Cymhleth newydd yn ei gyfarfod Ddydd Iau 20 Mawrth.
Bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnod yma. Agenda'r Cabinet - Dydd Iau, 20 Mawrth, 2025 2.00 pm Cyngor Caerdydd
Cyn cyfarfod y Cabinet, bu'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yn craffu'r adroddiad pan gyfarfu ar 17 Mawrth. Mae recordiad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio yma. Agenda ar gyfer Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Ddydd Llun, 17 Mawrth, 2025, 4.30 pm: Cyngor Caerdydd